CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Nodweddion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol

Nid elfennau gweladwy pennaf y dirwedd sydd wedi goroesi o'r gorffennol cynhanesyddol yn unig mo'r twmpathau claddu gwych sy'n amlwg ar esgeiriau rhostir Mynydd Hiraethog; maent hefyd wedi dod yn fwy arwyddocaol na'r mynydd ei hun. Bu henebion angladdol a defodol cynhanesyddol Mynydd Hiraethog yn ganolbwynt astudiaeth ddyfal, yn enwedig ers y 1970au pan gynigodd prosiect adeiladu cronfa ddwr Llyn Brenig un o gyfleoedd prinnaf y blynyddoedd diweddar i archwilio amrywiaeth o fathau o henebion o'r un cyfnod mewn un tirwedd.

Cafodd cyhoeddiad o ganlyniadau'r gwaith yma cryn ddylanwad wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o swyddogaeth y gwahanol fathau o henebion, a'r hyn y dylid ei ddeall wrth ddehongli eu lleoliad yn y dirwedd, yng Nghymru a thu hwnt. Mae ail-greu nifer o'r henebion wedi hynny, yn rhan o lwybr archeolegol, wedi sicrhau bod cynulleidfa ehangach nad ydynt yn arbenigwyr yn cael cyfle i weld y canlyniadau, ac hefyd wedi caniatáu i ni sy'n gweithio yn y maes ddeall syniadau ynghylch lleoliad nifer o henebion yn y dirwedd.

Gellir gweld dau batrwm unigryw yn y dirwedd, ac mae'r ddau fel ei gilydd yn ymddangos yn arwyddocaol o ran defnydd cyfoes o'r tir. Yn y cyntaf, ceir casgliad o henebion angladdol a defodol yn nyffryn rhostirol Afon Brenig ac Afon Fechan ac, yn yr ail, ceir twmpathau claddu ar gopaon bryniau ac esgeiriau mewn mannau eraill ar Fynydd Hiraethog.

Un agwedd arbennig ac anarferol ar wasgariad yr henebion angladdol a defodol cynhanesyddol ar Fynydd Hiraethog oedd darganfod y dirwedd ddefodol a sefydlwyd o amgylch Afon Fechan ar flaen dyffryn Brenig am gyfnod o 500 i 600 mlynedd rhwng tua 2100 CC a 1500 CC, o gyfnod diweddaraf yr Oes Neolithig i gyfnod cynnar yr Oes Efydd. Ar gopa Tir Mostyn, y pwynt uchaf lleol ger blaen Afon Fechan mae henebyn cynharaf y grwp. Twmpath syml o'r cyfnod Neolithig hwyr ydyw. Mae'n arwyddocaol o bosibl nad oes unrhyw gladdu yn gysylltiedig â'r twmpath. Mae'n bosibl mai'r bwriad felly oedd nodi hawliad tiriogaethol y gymuned a'i cododd. Roedd pedwar o dwmpathau tyweirch mawr, tri o garneddi claddu bychain o gerrig, carnedd gylch, carnedd ymylfaen a charnedd llwyfan fawr ymhlith y cydrannau eraill a ddaeth yn rhan o'r grwp. Mae astudiaeth fanwl o'r grwp yn dangos ei fod yn grwp o henebion sydd yn ei hanfod yn wynebu ar i mewn o fewn tirwedd gysegredig, wedi ei neilltuo, a'u bod wedi eu llunio a'u hadeiladu gan un gymuned unigol. Mae cynnwys carnedd ymylfaen, carnedd gylch a charnedd llwyfan o fewn y grwp yn pwysleisio ymwneud y gymuned â seremoni yn hytrach nag â beddrodau i gyfran ddethol o'r meirw. Mae lleoliad nifer o henebion ar esgeiriau ac ysgafelloedd, sydd i'w gweld yn eglur oddi isod, gan awgrymu ei bod yn debygol bod y gymuned a oedd yn cynnal y dirwedd arbennig hon yn byw yn is i lawr y dyffryn, ymhellach i'r de. Mae presenoldeb dau gylch cerrig posibl sydd wedi eu distrywio, yn dyddio o'r Oes Efydd yn nyffryn Alwen, y naill o fewn ardal y gronfa ddwr a'r llall yn y goedwig, yn awgrymu elfennau o dirwedd ddefodol debyg yn yr ail ddyffryn afon o bwys, sy'n treiddio i galon ardal y rhostir.

Pwysleisir natur arbennig dyffryn Brenig yn y patrwm cyferbyniol o henebion cynhanesyddol a geir mewn mannau eraill ar Fynydd Hiraethog, ac mae'r rhain yn fwy nodweddiadol o'r rhanbarth yn gyffredinol, gan fod yr henebion claddu naill ai yn unigol neu'n llinellol ac i'w gweld mewn mannau amlwg ar gopaon bryniau ac esgeiriau. Mae nifer o'r henebion hyn, megis Boncyn Crwn sy'n tremio dros Ddyffryn Aled a'r henebion ar Orsedd Bran i'w gweld am filltiroedd. Ymddengys bod gan leoliad yr henebion hyn, er eu bod yn ddiamau wedi eu dewis am resymau ysbrydol, reswm ymarferol dros eu bodolaeth. Mae'n ymddangos bod eu gwasgariad cyffredinol, fel y nodwyd yn yr adran flaenorol ar ddefnydd tir, yn dangos maint yr ardaloedd pori y manteisiwyd arnynt yn ystod yr Oes Efydd, yn ogystal â dull o rannu'r dirwedd yn diriogaethau dan reolaeth nifer o wahanol gymunedau a oedd yn byw o amgylch y rhos, a hynny am y tro cyntaf, o bosibl. Mae'n bosibl bod y llyfnwr saethau carreg a ddarganfuwyd yn gysylltiedig â chladdfa o'r Oes Efydd mewn tomen ar Fwdwl-eithin, yn awgrymu bod y rhostir wedi ei ddefnyddio i hela helfilod yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r llyfnwr saethau yn eitem anarferol a ddarganfuwyd mewn lleoedd eraill weithiau, ynghyd ag eitemau eraill o offer saethyddiaeth cynhanesyddol.