CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog


Mae Mynydd Hiraethog ym mhen gogleddol Mynyddoedd y Cambria ac maen cwmpasu rhannau mynyddig darnau eang a naturiol o dir ir de, rhwng prif ddyffrynnoedd afonnydd Clwyd a Chonwy yng Ngogledd Cymru.Maen ardal llwm ac anial o rostir tonnog sydd,ar y cyfan rhwng 400 a 500m uwchben SO, ond sydd sawl dyffryn yn torri ar draws yr ochrau gogleddol a dwyreiniol gan dreiddio ir craidd mynyddig. Fodd bynnag, rhannau gogleddol a gorllewinol y massif yn unig ywr ardaloedd a ddisgrifir yma fel tirwedd sydd yn cynnwys goroesiad trwch di-dor o rostir grug,sydd yn brin iawn yng Nghymru,a reolwyd ac a gynhaliwyd yn fwriadol fel rhostir ceiliog y mynydd a stad saethu ar ddechraur 20fed ganrif. Cafodd ei ddethol i beidio chynnwys y rhan fwyaf or rhan ddwyreiniol syn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth helaeth syn rhan o Fforest Cloclaenog,a oedd yn wreiddiol yn ymdebygu ac yn barhad ir ardal a ddisgrifir yma.

Maer tirwedd rhostir hwn, fel sawl ardal fynyddig arall yng Nghymru wedi tarddu o economau ucheldir Neolithig ac Oes yr Efydd neu,yn l dehongliadau o dystiolaeth archaeolegol o rannau eraill o Brydain,sydd hwyrach ai wreiddiau yn y cyfnod Mesolithig blaenorol, pryd yr awgrymir i ardaloedd rhostir gael eu llosgi au clirion fwriadol ar gyfer hela.Newidiodd tirwedd cynhanesyddol yr ucheldiroedd wedi hynny wrth iddynt gael eu defnyddio ar gyfer pori yn yr haf dros sawl tymor, arfer a oedd yn seiliedig ar aneddiadau dros dro yn ystod yr haf neur hafodau a leolwyd yn y dyffrynnoedd neu ar hyd ymylon y rhostir. Ar adegau o orboblogi neu well hinsawdd,hwyrach y preswyliai pobl ar rai or safleoedd hyn yn barhaol,ac yn sicr ceid aneddiadau parhaol mewn hafodydd yn ystod y cyfnod l-ganoloesol.Roedd llawer o dori mawn yn digwydd yn yr ardal yn ystod y ganrif ddiwethaf,a gwelir olion toriadau a thomenni sychu o hyd,ynghyd gweddillion y ffermydd l-ganoloesol a oedd yn ymelwa ar y mawn.

Ar Fynydd Hiraethog,diflannodd y tirwedd cynharaf hwn yn ei dro, a bellach gwelir olion trefn o reoli rhostir grug a osodwyd arno ar ddechraur 20fed ganrif.Tra bod y tirwedd hwn yn greadigaeth gymharol fodern,maer ehangder di-dor sydd wedi goroesi yn dal i fod yn brin yng Nghymru ac felly o werth hanesyddol;mewn mannau eraill gwaredwyd y rhostir grug a fu o dan reolaeth i geiliogod y mynydd yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.

Mae ehangder y tirwedd a nodir yma wedi ei ddewis i gynnwys y rhannau hyn o rostir grug sydd wedi goroesi a hefyd i adlewyrchu darnau o dir sydd wedi goroesi na fuont o dan y fath reolaeth ac sydd y tu allan ir gyfundrefn.Mae llawer o hyn wedi goroesi oherwydd creadigaeth stad saethu gan Is-Iarll Devonport rhwng 1908 a 1925.Wediu gwasgaru dros ran helaeth or ardal mae olion ffosydd targedau a chysgodfannau o gerrig sychion ynghyd waliau caeau,arwyddion ffiniau a gwaith cloddiog syn dyddio or cyfnod hwn fwy na thebyg. Maer ardal hefyd yn ymfalcho mewn adfail o gaban hela yng Ngwylfa Hiraethog sef bwthyn caboledig a adeiladwyd ym Ngwylfa Hiraethog sef bwthyn caboledig a adeiladwyd ym 190811 ar gyfer parton hela.Tybir mair adeilad hwn, a gymerodd le bwthyn pren cynharach a fewnforiwyd o Norwy, ac syn dal i gael ei adnabod fel y Plas Pren,oedd y ty preswyl uchaf yng Nghymru gydar golygfeydd ehangaf ym Mhrydain. Maer adfeilion yn dirnod amlwg o hyd y gellir eu gweld ar draws yr ardal o sawl cyfeiriad.

Ar ben pob un or copaon lleol ceir grwpiau o garneddi claddu o Oes yr Efydd sydd bellach wedi eu gorchuddio gan y tirwedd cyfoes ac sydd yn l pob tebyg,yn dystiolaeth o weithgaredd ehangach yn y cyfnod hwn.Ni cheir tystiolaeth o aneddiadau cysylltiedig,er y canfuwyd grwpiau o aneddiadau diweddarach o fath cynhanesydddol a gloddiwyd yn archaeolegol yn ddiweddar yn ardal ddwyreiniol Hiraethog na chaiff ei gynnwys yma.Canfuwyd llawer o fflint gweithiedig yn dyddio or cyfnod Mesolithig i Oes yr Efydd o amgylch ardal cronfa ddw r Llyn Aled a Llyn Aled Isaf.

Mae cronfa ddw r y Brenig,a adeiladwyd rhwng 1973 a 1976,ar goedwigaeth oi hamgylch,sydd hefyd yn cynnwys nifer o safleoedd Oes yr Efydd ac l-ganoloesol,yn goruchafur tirwedd or de. Cafodd sawl cofadail a oedd yn agos ir gronfa ddw r neu a foddwyd ganddi,eu cloddio cyn adeiladur gronfa, ac ailadeiladwyd sampl ohonynt fel rhan o lwybr neu daith archaeolegol.Mae rheoli adnoddau dw r hefyd yn thema ac yn swyddogaeth bwysig yn y rhan o ardal Hiraethog y sonnir amdani yma,gan fod y tirwedd yn cynnwys crynhoad dw r cronfa ddw r Alwen a adeiladwyd yn gynharach rhwng 1911 a 1916 i gyflenwi dw r i Gorfforaeth Penbedw, ynghyd chronfeydd dw r llai Llyn Aled a Llyn Aled Isaf a adeiladwyd yn y 1930au i gyflenwi dr i gyrchfan gwyliau y Rhyl ar yr arfordir.

ELFENNAU THEMATIG TIRWEDD HANESYDDOL AR FYNYDD HIRAETHOG

Yr Amglychedd Naturiol

Tirweddau Gweinyddol

Tirweddau Anheddiad

Defnydd Tir

Trafnidiaeth a Chyfathrebu

Tirweddau Diwydiannol

Llynnoedd, Cronfeydd dwr a Phyllau

Nodweddion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol

Cadwraeth a Hamdden

Ardaloedd cymeriad

CPAT PHOTO cs013138

1099 Moel Maelogen ardal cymeriad. Porfeydd amgaedig wediu gwella ar ymyl ogledd-orllewinol Mynydd Hiraethog, yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechraur 19eg ganrif. Photo: CPAT cs013138. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c215

1100 Ffrithuchaf ardal cymeriad. Rhostir heb ei amgu ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, yn tremio dros Wytherin a dyffryn serth Afon Cledwen. Photo: CPAT 01c215. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c214

1101 Fawnog-fawr ardal cymeriad. Rhostir ar ymyl orllewinol Mynydd Hiraethog, wedi ei rannu yn amgaeadau mawr amlochrog ar ddiwedd yr 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Photo: CPAT 01c214. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c211

1102 Creigiau Llwydion ardal cymeriad. Rhostir heb ei amgu ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, ynghyd mannau unigol fun gorgyffwrdd r rhostir ers y canol oesoedd a chyfnodau diweddarach. Photo: CPAT 01c211. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c177

1103 Cronfa ddwr Aled Isaf ardal cymeriad. Cronfa fodern y mae Afon Aled yn ei bwydo mewn dyffryn ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog. Photo: CPAT 01c177. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c182

1104 Llyn Aled ardal cymeriad. Llyn uwchdirol naturiol wedi ei ymestyn yn gronfa ddwr ar ddechraur 20fed ganrif yng nghanol ardal rostirol Mynydd Hiraethog. Photo: CPAT 01c182. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c183

1105 Llyn Alwen ardal cymeriad. Roedd yr ardal o fewn plwyf degwm 19eg ganrif, sef Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas). Photo: CPAT 01c183. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c217

1106 Moel Rhiwlug ardal cymeriad. Rhostir grugiog wedi ei rannu yn gaeau amlochrog ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. Rheolid ef fel rhan o stad saethu yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ac mae henebion angladdol cynhanesyddol wedi eu gwasgaru yma a thraw, a thystiolaeth o anheddu tymhorol yn yr oesoedd canol ac wedi hynny. Photo: CPAT 01c217. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c190

1107 Moel Bengam ardal cymeriad. Rhostir heb ei amgu, tir comin, corlan, carnedd gron fawr, nodau ffiniau ar ffin y plwyf a phorthdy saethu adfeiliedig or cyfnod Edwardaidd. Photo: CPAT 01c190. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c168

1108 Tan-y-graig ardal cymeriad. Ffermydd l-ganoloesol gwasgaredig yn gorgyffwrdd r rhostir ar lethrau deheuol cysgodol gan edrych tuag at ymyl ddeheuol y rhostir, peth tir wedii ddraenio ai wella, a phlanhigfeydd conifferaidd bychain. Photo: CPAT 01c168. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c192

1109 Sportsmans Arms ardal cymeriad. Amgaead o ddiwedd y 18fed ganrif a dechraur 19eg ganrif ar hen dir comin a chan gynnwys tafarn ar hyd yr hen ffordd dyrpeg o'r 19eg ganrif ar ymyl ogleddol y rhos. Photo: CPAT 01c192. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c156

1110 Bryn-y-gors-goch ardal cymeriad. Planhigfa coedwig gonifferaidd fodern dros dirwedd ganoloesol a hwyrach sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig chyfundrefnau caeau cysylltiedig a chwareli cherrig. Photo: CPAT 01c156. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c170

1111 Cronfa Ddwr Alwen ardal cymeriad. Cronfa ddwr gynharach or 20fed ganrif ar dirwedd wedi ei hamgu or canol oesoedd a chyfnod cynharach. Photo: CPAT 01c170. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c152

1112 Cronfa Ddwr Brenig ardal cymeriad. Cronfa ddwr fawr o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn dyffryn llydan tuag ymyl ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, ar ben tirwedd ganoloesol a diweddarach a oedd yn cynnwys ffermydd a chaeau. Photo: CPAT 01c152. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 01c160

1113 Maen-llwyd ardal cymeriad. Rhostir grug pheth glaswelltir wedii wella, wedii rannun rhannol yn amgaeadau amlochrog mawr yn y 18fed/19eg ganrif, tirwedd angladdol a defodol or Oes Efydd, corlannau canoloesol wediu hamgu, hafodydd a ffermydd canoloesol a hwyrach, llwybr archeolegol. Photo: CPAT 01c160. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.

1113 Maen-llwyd 1112 Brenig Reservoir 1112 Brenig Reservoir 1111 Alwen Reservoir 1111 Alwen Reservoir 1111 Alwen Reservoir 1111 Alwen Reservoir 1099 Moel Maelogen 1101 Fawnog-fawr 1103 Aled Isaf Reservoir 1105 Llyn Alwen 1100 Ffrithuchaf 1106 Moel Rhiwlug 1106 Moel Rhiwlug 1106 Moel Rhiwlug 1106 Moel Rhiwlug 1106 Moel Rhiwlug 1102 Creigiau Llwydion 1102 Creigiau Llwydion 1102 Creigiau Llwydion 1104 Llyn Aled 1104 Llyn Aled 1107 Moel Bengam 1107 Moel Bengam 1109 Sportsman's Arms 1108 Tan-y-graig 1108 Tan-y-graig 1108 Tan-y-graig 1108 Tan-y-graig 1108 Tan-y-graig 1110 Bryn y Gors-goch