CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Cadwraeth a Hamdden

Mae hanes diweddar Mynydd Hiraethog yn darparu gwersi pwysig ynghylch yr effaith y gall gwerthoedd a chanfyddiadau cyfnewidiol ei chael ar y dirwedd. Hyd at mor ddiweddar ag ail hanner y 19eg ganrif, roedd prif werth y mynydd wedi'i fesur yn nhermau ei werth economaidd yn unig, ar ôl cael ei ddisgrifio gan awdur o'r 16eg ganrif, er enghraifft, fel 'y darn gwaethaf o holl dir Dinbych' a chan awdur o'r 19eg ganrif fel 'darn mawr o fynydd a rhostir diflas'. Roedd hygyrchedd gwael a diffyg elfennau deniadol yn y dirwedd wedi arwain at ei diystyru gan awduron topograffi cynnar. Un o'r ychydig olygfeydd naturiol a grybwyllwyd oedd y rhaeadrau ar Afon Aled, ychydig i'r gogledd o ardal y dirwedd hanesyddol. Yn Tour of Wales Thomas Pennant, a gyhoeddwyd yn y 1780au, oedd hyn. Yn eironig, efallai, adeiladu ffordd dyrpeg Pentrefoelas i Ddinbych ar ddechrau'r 19eg ganrif a wnaeth y dirwedd uwchdirol yn fwy hygyrch, a helpu meithrin canfyddiad mwy rhamantus o dirwedd. Tystir i hyn yn y disgrifiad sydd braidd yn ffansïol ac sy'n ymddangos yn Highways and Byways in North Wales Bradley, a gyhoeddwyd ym 1898.

'Y llwyfandir porffor, anialwch mud Hiraethog, lle dawnsia'r tylwyth teg ger y llynnoedd unig, lle gwêl teithwyr diweddar olygfeydd annaearol, a lle'r uda chnudoedd o gwn gwyn â chlustiau cochion trwy'r niwl ar drywydd y ceirw rhithiol, a chreiriau'r oes gynhanesyddol wedi'u gwasgaru ymhob man.'

Wedi adeiladu'r prif ffordd arall dros y mynydd, sef y ffordd newydd trwy'r goedwig i'r gogledd o Gerrigydrudion, yn y 1970au o ganlyniad i adeiladu cronfa ddwr Llyn Brenig mae'r mynydd yn fwy hygyrch byth.

Ar ôl ei ecsbloetio'n economaidd am sawl cant neu fil o flynyddoedd, mae'r rhostir erbyn heddiw ar y cyfan wedi ei reoli mewn dull sydd hefyd yn ystyriol o gadwraeth y llystyfiant uwchdirol a'r cynefinoedd bywyd gwyllt, ac o'i werth fel adnodd addysg a hamdden, a'i ymdeimlad o ddiffeithwch ac anghyfanedd-dra. Y cadwyni mynyddoedd ar bob gorwel, gan gynnwys y Carneddau a Moel Siabod i'r gorllewin, Carnedd y Filiast a Chadair Berwyn i'r de, a Bryniau Clwyd i'r dwyrain, sy'n ysgogi'r gwerthoedd synhwyrol ac ysbrydol hyn.

Yn fwy diweddar, dechreuwyd gwerthfawrogi ei werth hanesyddol o safbwynt esblygiad y dirwedd. Roedd diddordeb archeolegol ym Mynydd Hiraethog wedi dechrau yn y 1850au pan ddaeth gwrthrychau o nifer o dwmpathau claddu a agorwyd gan chwarelwyr yn chwareli Nantglyn at sylw'r hynafiaethwyr am y tro cyntaf. Datblygodd diddordeb mwy ysgolheigaidd yn hanes a hynafiaethau'r rhostir yn ystod yr 20fed ganrif, gan ddechrau â'r Inventory a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol ym 1914, a pharhau â Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire gan Ellis Davies a gyhoeddwyd ym 1929, erthygl E Davies ar y testun 'Hendre and hafod in Denbighshire' a gyhoeddwyd yn y Denbighshire Historical Society Transactions ym 1977. Ymhlith y gweithiau pwysig cysyniadol mwy diweddar mae Excavations at the Brenig Valley Frances Lynch, A Mesolithic and Bronze Age Landscape in North Wales a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru ym 1993 a chynnwys Mynydd Hiraethog yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2001.

Mae'r dirwedd o ran coedwigaeth a chronfeydd dwr a grëwyd yn bennaf yn yr 20fed ganrif wedi arwain at amrywiaeth eang ac amrywiol o ddiddordebau hamdden. Er mai cynhyrchu coed yn fasnachol a rheoli dwr yw prif swyddogaethau'r tirweddau modern hyn, mae ymylon y cronfeydd dwr a'r planhigfeydd conifferaidd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden anffurfiol, mân gyfleusterau y mae'r Fenter Coedwigaeth a Dwr Cymru yn bennaf wedi eu darparu, gan gynnwys llwybrau ag arwyddbyst, mannau parcio, mannau picnic, canolfan ymwelwyr, amgueddfa, llwybr natur a llwybr archeolegol. Mae'r cronfeydd dwr mwy eu maint, yn enwedig Aled Isaf, Llyn Aled, Cronfa Ddwr Alwen a Llyn Brenig, hefyd yn cynnal amrywiaeth o chwaraeon dwr, gan gynnwys hwylio, sgïo, plymio tanddwr a physgota.