CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Cronfa Ddwr Brenig
Cymuned Cerrigydrudion, Conwy, a Chymunedau Nantglyn a Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Sir Ddinbych.
(HLCA 1112)


CPAT PHOTO cs012913

Cronfa ddwr fawr o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn dyffryn llydan tuag ymyl ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, ar ben tirwedd ganoloesol a diweddarach a oedd yn cynnwys ffermydd a chaeau.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyfi degwm 19eg ganrif Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Nantglyn a'r Gyffylliog. Cynhaliwyd gwaith maes archeolegol gweddol drylwyr yn yr ardal cyn adeiladu'r argae. Fe foddodd y gronfa ddwr o ddiwedd yr 20fed ganrif garnedd gron o'r Oes Efydd a nifer o ffermydd a chaeau canoloesol sef Hafod-lom, Hafod-yr-onen, Ty'n-y-ddol a Rhos-ddu a'r corlannau a'r cytiau yn y caeau ar y cyrion, yn ogystal â phentyrrau o fawn wedi eu torri, sarnau a phontydd troed.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Fymryn dan 4km² ar uchder o ryw 378m, dros y Datwm Ordnans uwchlaw'r argae, a rhyw 340 m islaw'r argae yw'r ardal nodwedd. Mae'r gronfa mewn dyffryn llydan â thir uwch o'i amgylch i'r gogledd, y gorllewin a'r dwyrain, ac mae cyfres o nentydd yn llifo iddi, gan gynnwys Afon Brenig, Nant Bryn-y-gors-goch, Nant Bryn-morwyn, Afon Fechan, Nant Criafolen, Aber Berbo, Aber Llech-Damer a Aber Gors-maen-llwyd, y cyfan yn llednentydd i Afon Alwen sy'n llifo i system afon Ddyfrdwy.

Codwyd y gronfa, sydd hyd at 45m o ddyfnder, a chanddi argae o bridd hyd at 1.1km o hyd a 150m o led rhwng 1973 a 1976, a bwriadwyd hi i ddarparu cyflenwadau dwr domestig a diwydiannol i ogledd-ddwyrain Cymru ac i chwyddo llif afon Dyfrdwy yn yr haf. Fel Cronfa Ddwr Alwen, mae'n rhan bwysig o'r adnodd cyfoes ar gyfer gweithgareddau hamdden a chwaraeon, gan gynnwys cyfleusterau fel clwb hwylio, clwb nofio tanddwr, canolfan ymwelwyr, clwb pysgota, teithiau cerdded â mynegbyst a mannau cael picnic a gwylio adar.

Gwelir olion anheddu cynhanesyddol yn ardal y gronfa ddwr yn y pen brysgyll a ddarganfuwyd yn Hafod-lom ac yn y twmpath claddu cynhanesyddol sy'n ffurfio rhan o dirwedd mwy helaeth ag olion defodaeth yr Oes Efydd, ond sydd bellach dan y dwr (gweler ardal nodwedd Maen-llwyd). Sefydlwyd aneddiadau amaethyddol canoloesol a diweddarach yn yr ardal, gan gynnwys yn Hafod-lom, a grybwyllir gyntaf yn gynnar yn y 14eg ganrif, gydag adeiladau cerrig o'r 17eg/18fed ganrif i ddechrau, ac erbyn y 18fed a'r 19eg ganrif daeth yn un o'r ffermydd mwyaf sefydledig yn yr ardal, yn enwog am ei beirdd a'i cherddorion. Mae'r elfen hafod yn digwydd yn nifer o enwau'r hen ffermydd, ac yn awgrymu bod o leiaf rhai o'r ffermydd wedi dechrau fel anheddau tymhorol dros dro, yn gysylltiedig â'r aneddiadau ar y tir is.

Mae dyddodion mawnog gwlyb wedi eu boddi gan y gronfa ddwr, ac maent yn arwyddocaol i hanes defnydd tir a thyfu cnydau ar Fynydd Hiraethog.

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion Clwyd-Powys;
Davies 1977;
Hubbard 1986;
Lynch 1993.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.