CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Tan-y-graig
Cymuned Llansannan, Conwy a Chymuned Nantglyn, Sir Ddinbych
(HLCA 1108)


CPAT PHOTO cs013112

Ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig yn gorgyffwrdd â'r rhostir ar lethrau deheuol cysgodol gan edrych tuag at ymyl ddeheuol y rhostir, peth tir wedi'i ddraenio a'i wella, a phlanhigfeydd conifferaidd bychain.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyfi degwm 19eg ganrif, Henllan a Nantglyn. Ychydig iawn o waith maes archeolegol a wnaed o fewn yr ardal, a chymharol ychydig o safleoedd archeolegol a gofnodwyd.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Rhyw 6km² o dir pori wedi'i wella ar ochr ddeheuol Mynydd Hiraethog, ar uchder o rhwng 370 a 450 o fetrau dros y Datwm Ordnans yw'r ardal nodwedd, ac mae'n cynnwys ardal ar wahân o rostir grug ar esgair Cerrig Caws. Mae'r ardal yn wynebu'r de yn bennaf, ac mae yno nifer o nentydd yn llifo i'r de, gan gynnwys Nant-fach a Nant Gors-goch ac i'r dwyrain i Afon Brenig, pob un ohonynt yn lednentydd Afon Alwen ac, yn y pen draw, yn bwydo system ddraenio Afon Dyfrdwy.

Ni chofnodwyd unrhyw dystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal. Mae grwp o ffermydd ôl-ganoloesol, megis Ty-isaf, Tai-pellaf, Tan-y-graig a Phen-y-ffrith yn enghreifftiau o anheddu hwyrach yn yr ardal, ac mae'n ymddangos iddynt gael eu sefydlu gyntaf ar fin hynt yr hen ffordd rhwng Pentrefoelas a Dinbych. Lleolir pob fferm, oedd â'i ffynnon ei hun, ar ardal o dir pori wedi'i wella a'i amgáu ar y llethrau deheuol mwy cysgodol yn nyffrynnoedd y nentydd sy'n bwydo Afon Alwen ar bennau gorllewinol plwyfi degwm Henllan a Nantglyn. Rhai cymharol fychan yw'r ffermdai. Strwythurau dau lawr a adeiladwyd o garreg leol, gyda pheth gwaith rendro arnynt, ac mae yna amrywiaeth eang o siediau gwartheg o gerrig yn Nhan-y-graig. Roedd nifer o'r ffermydd yn anghyfannedd erbyn diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed, gan gynnwys Bryn-pellaf a Thy'n-y-gors yn dilyn cyfuno rhai o'r deiliadaethau.

Cafodd rhai o'r ffiniau cromlinog cynharach a oedd yn amgáu'r ffermydd yn Nhy-isaf a Thai-pellaf, a welir ar fap degwm Henllan yn y 1840au, eu hehangu yn ystod rhan olaf y 19eg ganrif gan ddefnyddio ffiniau mwy unionlin i gynnwys mwy o rostir nad oedd wedi'i amgáu cynt, yn enwedig o amgylch Tan-y-coed a Than-y-graig. Mae'r ffiniau cynharach i'w gweld yn y cloddiau pridd sydd bellach â ffensys pyst-a-gwifrau. Rhai pyst-a-gwifrau yw'r ffiniau diweddarach, fel arfer, er bod rhai waliau cerrig i'r de o Dan-y-graig, ynghyd â ffensys rheiliau haearn ar hyd Afon Alwen, sy'n debygol o fod wedi eu codi yr un adeg ag y ffurfiwyd Cronfa Ddwr Alwen yn yr 20fed ganrif. Mae'r ffermydd yn gysylltiedig â phatrwm amlwg o blanhigfeydd coed coniffer a choed collddail a lleiniau cysgodol, ac roedd rhai o'r rhain yn bodoli yn y 1870au. Mae deiciau a godwyd fel rhan o'r gwelliannau a wnaed ar ddiwedd y 19eg ganrif yn draenio'r ardaloedd gwlyb i'r de o Lyn Aled a rhwng Tan-y-graig ac Afon Alwen. Mae'n debygol bod dyddodion mawnog gwlyb yn parhau i oroesi yn yr ardal, fodd bynnag, ac mae gan y rhain arwyddocâd posibl o ran deall hanes defnydd tir a thyfu cnydau ar Fynydd Hiraethog.

Gellir croesi'r ardal ar y ffordd newydd o Bentrefoelas i Ddinbych (A543) a adeiladwyd fel ffordd dyrpeg newydd yn gynnar yn y 19eg ganrif, trwy Sportsman's Arms a Bylchau, gan ddisodli'r ffordd hyn dros y rhos a oedd yn croesi Afon Alwen yn Nant Heilyn ac yn rhedeg ar hyd esgair Cerrig Caws i'r de o Dan-y-graig ac oddi yno i Nantglyn.

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion YACP,
mapiau degwm a dosraniadau Henllan a Nantglyn

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.