CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Creigiau Llwydion
Cymunedau Llangernyw, Llansannan a Phentrefoelas, Conwy
(HLCA 1102)


CPAT PHOTO cs013128

Rhostir heb ei amgáu ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, ynghyd â mannau unigol fu'n gorgyffwrdd â'r rhostir ers y canol oesoedd a chyfnodau diweddarach.

Cefndir hanesyddol

Er mai cymharol ychydig o dystiolaeth sydd yn dal ar gael ar y tir ei hun, gellir casglu gwybodaeth am hanes defnydd cynnar o dir yr ardal trwy astudio dyddodion mawn ar Gefn Mawr, i'r gorllewin o Lyn Aled. Mae'r dystiolaeth gynharaf o weithgaredd dynol yn tarddu o'r cyfnod tua 3000 CC, er mai cymharol ychydig o effaith a gafwyd ar yr amgylchedd naturiol hyd nes y cyfnod rhwng 1900 CC a 1000 CC, lle cafwyd crebachiad yn nifer y rhywogaethau coetirol a chynnydd mewn glaswelltydd a pherlysiau. Ymddengys bod y dyddodion mawn o'r cyfnod rhwng 1000 CC a 200 CC yn dystiolaeth o weithgaredd amaethyddol ac o losgi, er mwyn rheoli'r rhostir grug, o bosibl. Yn y cyfnod rhwng 2000 CC a'r presennol gwelir cynnydd cyson yn y rhostir grug ac yn y mawn, oherwydd y newid yn yr hinsawdd, o bosibl.

Mae'r ardal o fewn plwyfi degwm y 19eg ganrif, sef Gwytherin, Llanfair Talhaiarn, Llansannan a Thiryrabad-isaf (Pentrefoelas). Ychydig o waith maes archeolegol a wnaed yn y rhan fwyaf o'r ardal dros y blynyddoedd diweddar, ar wahân i arolwg trylwyr o'r ymylon dwyreiniol yn ystod y 1990au.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Bron 18km² o rostir wedi'i wella ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, yn tremio dros ddyffryn Cledwen yw'r ardal nodwedd. Saif i'r gogledd o Lyn Alwen ac i'r gorllewin o Lyn Aled a chronfa ddwr Aled Isaf, ar uchder o rhwng 290 a 465 o fetrau dros y Datwm Ordnans, ac mae'n cynnwys copaon Bryn Euryn, Pen Bryn y Clochydd a Chefn Mawr yn ogystal â chopa Creigiau Llwydion. Mae'r ardal yn wynebu'r gogledd a'r dwyrain yn bennaf. Mae'r dwr yn llifo i system Afon Elwy i'r gogledd drwy nentydd Wauneos, Nant Caledfryn a Nant Goch, sy'n llednentydd Afon Cledwen, i'r gogledd-ddwyrain drwy nentydd Nant Bach ac Afon Aled, ac i system afon Dyfrdwy i'r de drwy Afon Alwen.

Gwelir tystiolaeth o'r anheddu yn nifer y mannau lle ceir gorgyffwrdd unigol â'r tir comin lle roedd dau neu dri fferm, o amgylch blaen nant neu ger llynnoedd uwchdirol Llyn Alwen a Llyn Aled, ac o fewn grwpiau o gaeau o rhwng 35 a 60 o ran maint, ar uchder o 370m dros y Datwm Ordnans. Mae nifer o ffermydd yn gysylltiedig ag enwau hafotai, fel yn Hafod-gau a Phant-y-fotty, a allai fod wedi tarddu o'r tai tymhorol canoloesol neu ôl-ganoloesol a droswyd yn ffermydd parhaol wedi hynny. Gwelir hefyd anheddau eraill a oedd o bosibl yn rhai tymhorol yn dyddio o'r canol oesoedd neu'n ddiweddarach, ond nad ydynt efallai wedi cael eu trosi yn ffermydd parhaol. Maent i'w gweld yn llwyfannau neu sylfeini tai hir unigol ar y llethrau deheuol ar flaen Afon Alwen, heb gysylltiad â chaeau, ond ceir hefyd nifer o ffermydd diweddarach, megis Rhwngyddwyffordd, na chodwyd mohonynt tan ar ôl tua chanol y 19eg ganrif. Ymddengys i lawer o'r ffermydd hyn gael eu gadael ar ddiwedd y 19eg ganrif neu ddechrau'r 20fed ganrif. Mae rhai ohonynt wedi dadfeilio, er bod eraill yn cael eu defnyddio fel stordai, neu wedi eu trosi yn gorlannau. Ar eu ffurf wreiddiol, roedd llawer o anheddau'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif yn adeiladau isel, un llawr, carreg â simnai yn y canol, ac yn aml iawn doedd ganddynt ond un adeilad atodol y tu allan, ac weithiau cut moch. Roedd rhai o'r tai yn gysylltiedig â'r chwareli cerrig bychain, sef ffynhonnell y deunyddiau adeiladu.

Gwelir olion gweithgareddau amaethyddol yn nifer y tomenni hel cerrig yn yr ardal rhwng Llyn Alwen, Llyn Aled a chronfa ddwr Aled Isaf. Mae rhai yn gysylltiedig â'r mannau lle bu gorgyffwrdd â'r tir comin ers y canol oesoedd a chyfnodau diweddarach, er bod eraill, fel y rhai ar ymyl orllewinol Aled Isaf, yn unigol ac yn dyddio o gyfnod cynharach. Gwelir gwrymiau tyfu cnydau, fel y rhai yn Waen-isaf-las, mewn nifer o gaeau amgaeëdig. Yn gyffredinol, mae ffiniau'r caeau sy'n gysylltiedig â'r mannau sy'n gorgyffwrdd â'r rhostir wedi eu llunio o gloddiau canolig eu maint o bridd a cherrig, ac mae ffensys modern pyst-a-gwifrau wedi eu codi arnynt. Cadwyd rhai o'r caeau amgaeëdig yn ardaloedd pori wedi'u gwella, er gwaethaf y ffaith bod yr anheddau yn wag, er bod hen gaeau wedi newid yn ôl i fod yn llystyfiant grug rhostirol garw mewn achosion eraill. Mae corlannau, cysgodfeydd defaid a chafnau dipio defaid o gerrig neu byst-a-thun yn nodweddiadol o ymylon y rhostir, dyffrynnoedd y nentydd a'r ardaloedd rhostirol mwy pellennig. Mae rhai o'r rhain wedi eu gadael yn segur, ac eraill yn dal i gael eu defnyddio. Roedd rhai o'r rhain i'w gweld ar rifynnau cynnar mapiau'r Arolwg Ordnans, ac roeddent eisoes ar gael erbyn diwedd y 19eg ganrif.

Mae llawer o henebion carreg gwasgaredig yn dangos claddfannau cynhanesyddol, gan gynnwys y garnedd gladdu fawr a thrawiadol Boncyn Crwn, ar esgair ger ymyl y rhostir ac yn weladwy o'r tir isel, yn ogystal â'r garnedd â'r gist gladdu ar Foel-y-gaseg, yng nghanol ardal y rhostir. Mae'n bosibl bod y ddau fel ei gilydd yn nodi tiriogaeth cymunedau o'r Oes Efydd a oedd yn ecsploetio'r rhos. Gwyddys am feini hirion cynhanesyddol posibl yn yr ardal. Nodir rhai o'r ffiniau llawer mwy diweddar rhwng plwyfi degwm Llanfair Talhaiarn a Gwytherin, Llanfair Talhaiarn a Llansannan, a Llansannan a Thiryrabad-isaf (Pentrefoelas) â grwpiau hynod o gerrig, a rhai ohonynt yn ymddangos bob 50m - 100m. Mewn rhai achosion mae'r rhain yn cyfateb i'r cerrig nod a ddangosir ar y mapiau degwm o ganol y 19eg ganrif ac ambell waith yn dyddio yn ôl i ddiwedd y 18fed ganrif neu'n gynt.

Yr unig drafnidiaeth a chysylltiadau a oedd yn bosibl oedd y rheiny ar y llwybrau a'r traciau, rhai ohonynt yn hynafol iawn, a oedd yn cysylltu porfeydd yr uwchdiroedd â'r ffermydd ar yr iseldir ym mhlwyfi Gwytherin, Llanfair Talhaearn a Llansannan. Gwelir olion torri mawn i'r cartref yn y twmpathau mawn a'r llwyfannau sychu yn llawer o ddyffrynnoedd y nentydd i'r gorllewin o gronfeydd dwr Llyn Aled ac Aled Isaf ac yn nyffryn Nant Goch, ar flaen Afon Cledwen.

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion Ymddiriedolaeth Archeoleg Clwyd Powys;
Davies 1977;
mapiau degwm a dosraniadau Gwytherin,
Llanfair Talhaearn a Llansannan;
Owen a Silvester 1993.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.