CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg

Nodweddu’r Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg


TRACIAU, FFYRDD, RHEILFFYRDD A PHIBELLI

Mae tirweddau a gaewyd ers amser maith yn ardaloedd nodwedd dyffryn Hepste a Chwm Cadlan yn diogelu patrwm o lonydd yn rhedeg ar hyd y dyffrynnoedd, gan arwain at ffermydd a bythynnod. O gyfnodau cynnar, roeddent yn darparu modd o symud buchesi o anifeiliaid trwy’r caeau wedi’u cau i’r porfeydd ucheldirol o amgylch, ac yn ôl. Bellach, mae metlin wedi’i osod ar rai o’r lonydd, ond mae eraill yn parhau fel lonydd glas heb fetlin, weithiau gyda wal o boptu i atal stoc rhag crwydro. Weithiau byddai lonydd glas yn cysylltu ffermydd ar ddwy ochr y dyffryn, gyda rhydau a sarnau’n croesi nentydd. Mae ambell enghraifft o’r enw lle ‘Heol-las’ yn awgrymu llwybrau cynharach o’r fath.

Mae nifer o’r llwybrau hynafol hyn yn parhau ar draws y rhostir i gysylltu â lleoedd yn nyffrynnoedd cyfagos Taf Fawr i’r dwyrain ac afon Mellte i’r gorllewin. Mae’r elfen ’cwrier’ yn enw Nant y Cwrier, sef y nant sy’n llifo o’r gogledd i ben dyffryn Hepste, ac sydd fwy neu lai yn gyfochrog am ran o’i chwrs â’r A4059, yn awgrymu hynt llwybr troed cynharach ar draws y mynyddoedd i gyfeiriad Aberhonddu. Mae llawer o’r llwybrau cynnar hyn, rhai ohonynt yn ôl pob tebyg yn tarddu o’r canol oesoedd neu’n gynharach, yn parhau fel rhan o rwydwaith o lwybrau troed cyhoeddus a llwybrau caniataol y mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bellach yn eu rheoli.

Mae traciau eraill, byrrach yn nhirweddau amgaeedig dyffryn Hepste, Cwm Cadlan ac ymyl ddwyreiniol dyffryn Mellte yn arwain at chwareli ac odynau calch sy’n dyddio’n bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth hefyd wedi creu rhwydwaith o lwybrau amwynder mewn blynyddoedd diweddar yn ardaloedd nodwedd coediog Coed Penmailard a Chefn y maes.

Dwy ffordd fodern yn unig sy’n croesi ardal y dirwedd hanesyddol. Yr A4059, rhwng Hirwaun ac Aberhonddu yw’r gyntaf. Er iddi gael ei huwchraddio’n fwy diweddar, ymddengys iddi gael ei hadeiladu o’r newydd fel ffordd dyrpeg fwy neu lai ar ei hyd yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ddechrau’r 19eg ganrif, gan adael y llwybr mwy hynafol ar hyd dyffryn Hepste am y tir uwch i’r de. O’r herwydd, rhaid oedd creu mynedfeydd o gyfeiriad arall i nifer o’r ffermydd ar ochr ddeheuol y dyffryn, sef Llwyncelyn, Neuadd a Thirmawr yn benodol, i allu mynd ohonynt yn uniongyrchol i’r ffordd dyrpeg. Cysylltir y ffordd dyrpeg â nifer o gerrig milltir sydd wedi goroesi o’r cyfnod, ynghyd â chwareli bach ar ochr y ffordd, sef ffynhonnell defnyddiau i adeiladu’r ffordd yn ôl pob tebyg. Yr ail ffordd yw’r ffordd fodern annosbarthedig o flaen Cwm Cadlan i Gronfa Ddwr Llwyn?on yn nyffryn Taf Fawr. Mae’n debyg y rhoddwyd metlin arni am y tro cyntaf tua diwedd y 19eg ganrif neu ddechrau’r 20fed ganrif, ond roedd yn dilyn hynt llwybr mwy hynafol yn cysylltu Cwm Cadlan a dyffryn Taf Fawr.

Mae cwrs hen reilffordd yn ffurfio nodwedd arbennig o’r dirwedd ar hyd rhan o ffin orllewinol yr ardal. Roedd hon yn rhan o’r rheilffordd a redai tua’r de i Benderyn, a adeiladwyd i gludo defnyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu Cronfa Ddwr Ystradfellte i gyflenwi dwr i Gastell-nedd, rhwng 1907 a 1914.

Rhed Llwybr Taf, sef llwybr troed a llwybr beicio pellter hir o Aberhonddu i Gaerdydd, drwy goetir tuag at gornel de-ddwyrain yr ardal nodwedd.

Mae llwybr pibell nwy fodern yn croesi rhan ddeheuol yr ardal am tua 2 cilometr. Gellir gweld ei ffordd?fraint 20 metr o led hyd y man lle mae’n ymuno â gwaith nwy Bryn Du, ychydig y tu allan i’r ardal nodwedd.

(yn ôl i’r brig)