CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg


ANHEDDU A DEFNYDD TIR

Cyfnodau Cynhanesyddol a Rhufeinig

Ceir awgrym o’r anheddu a defnydd tir cynharaf yn yr ardal gan hapddarganfyddiad bwyell garreg gaboledig o’r cyfnod Neolithig yn yr ardal sydd bellach yn goediog ger Cefn-y-maes, yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr ar ochr ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Mae darganfyddiadau o’r math hwn yn awgrymu bod cymunedau ffermio cynnar wedi dechrau clirio’r coedwigoedd ger ymylon yr ucheldiroedd. Nid yw’n annhebygol, er hynny, bod grwpiau crwydrol o helwyr-gasglwyr wedi manteisio hefyd ar ddyffrynnoedd yr iseldir ac ucheldiroedd Fforest Fawr, yn ystod y cyfnod Mesolithig blaenorol.

Nodwyd nifer o gymhlethfeydd pwysig o aneddiadau ac o ddefnydd tir cynnar yn ardal y dirwedd hanesyddol hefyd, gan gynnwys cytiau, waliau caeau segur a charneddau carega. Er nad oes yr un o’r rhain wedi’i ddyddio’n fanwl hyd yma, ymddengys yn debygol bod o leiaf rhai o’r olion hyn yn dod o fwy neu lai y cyfnod rhwng Oes yr Efydd a chyfnod y Rhufeiniaid. Mae’n debygol hefyd bod rhai ohonynt yn dyddio o’r cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol.

Ar y dechrau, roedd anheddu a defnydd tir yn gofyn clirio coetir a phrysg; yn ddiamau, rhan o broses raddol fyddai hyn a ddechreuodd yn yr ardaloedd a allai, o bosibl, fod yn fwy ffrwythlon a chysgodol. Awgryma sylfeini carreg y cytiau crwn ddyddiad yn Oes yr Efydd neu Oes yr Haearn. Er hynny, awgryma presenoldeb rhai adeiladau ar ffurf petryal naill ai barhad i’r cyfnod Rhufeinig a dechrau’r cyfnod canoloesol, neu ailddefnyddio safleoedd cynharach yn y cyfnod canoloesol cynnar, y cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Nid yw’r dehongliad o’r olion defnyddio tir ac anheddu hyn yn sicr, gan na fu unrhyw waith cloddio. Gwelir y cytiau fesul un neu mewn clystyrau bach, ac mae’n bosibl eu bod yn awgrymu anheddu tymhorol neu gydol y flwyddyn. Fe’u cysylltir weithiau ag amgaeadau bach â chloddiau o garreg lle byddai anifeiliaid o bosibl yn cael eu corlannu. Mae carneddau carega’n cynrychioli casglu cerrig a orweddai ar yr wyneb, naill ai i wella porfa neu i wella tir âr, ac maent i’w gweld yn aml mewn clystyrau helaeth ond llac neu mewn meysydd carneddau. Unwaith eto, gall waliau isel a chloddiau caeau fod yn gysylltiedig â chlirio caeau neu wella porfa, yn ogystal ag atal stoc rhag crwydro.

Mae’n debygol bod defnydd tir diweddarach wedi effeithio’n gryf ar ddosbarthiad yr olion sydd wedi goroesi. I raddau helaeth, daethpwyd o hyd i’r olion ar ymylon is yr ardaloedd o rostir heb eu hamgáu, rhwng uchder o tua 300 metr a 480 metr uwchben lefel y môr. Mae’n debygol bod gweithgareddau amaethyddol diweddarach, rhwng y cyfnod canoloesol a heddiw, wedi cuddio, gorchuddio neu symud olion defnydd tir ac anheddu cynharach ar dir is y mae’r mwyafrif ohono, bellach, yn rhan o dir amaeth sydd wedi’i amgáu yn nyffrynnoedd Mellte, Hepste a Chadlan heddiw. Fodd bynnag, mae’n debygol bod cyfuchlin uwch, sef tua 480 metr, yn derfyn uchaf eithaf manwl gywir i weithgareddau anheddu’r gorffennol.

Gwyddys am ardaloedd o ddefnydd tir ac anheddu cynnar mwy helaeth a mwy arwyddocaol yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan uchaf cysgodol dyffryn Hepste, yn ymestyn i ddyffrynnoedd isafonydd nant Hepste-fechan ac afon y Waun ac ar lethrau dwyreiniol, cysgodol Mynydd y Garn ac Waun Tincer. Cofnodir hefyd grwp arunig o gytiau crwn, sydd o bosibl yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol yng Ngharn Caniedydd, tuag ochr ddwyreiniol yr ardal, tua 400 metr uwchben lefel y môr. Yn rhannau dwyreiniol a deheuol ardal y dirwedd hanesyddol mae olion helaeth ac arwyddocaol o ddefnydd tir ac anheddu cynnar wedi goroesi mewn sawl man: ar lethrau dwyreiniol, cysgodol Cadair Fawr; ym mlaen nant Garwnant a nant Ffynnonelin; yn tremio dros Bant y Gadair a dyffryn Taf Fawr; ar lethrau deheuol, mwy cysgodol Cefn Cadlan; ar lethrau gogleddol y col sy’n ymestyn y tu hwnt i derfynau’r tir ffermio amgaeedig ym mlaen Cwm Cadlan; ac ar ochr ddeheuol Cwm Cadlan ac yn ymestyn i lethrau gogleddol, mwy agored Mynydd-y-glog.

Fel y nodir mewn adran ddilynol am henebion claddu a defodol cynhanesyddol Oes yr Efydd, mae arwyddion eglur bod y dirwedd eisoes wedi’i rhannu ar gyfer dibenion gwahanol y’u diffiniwyd yn eglur mewn cyfnod cynnar. Ymddengys fod clystyrau o garneddau cylch defodol a charneddau claddu, yn dyddio, mae’n debygol, o Oes yr Efydd, yn gorwedd ar ymylon uwch yr ardaloedd lle mae olion defnydd tir ac anheddu cynnar yn goroesi o hyd. Mwy na thebyg, maent yn dyddio o’r un cyfnod, yn rhannol o leiaf, ac yn aml maent wedi’u lleoli ar gribau a chopaon bryniau lleol lle gellid eu gweld o dir is.

Ffased arall o ddefnydd tir ac anheddu cynnar yw presenoldeb nifer o dwmpathau llosg. Nodwyd llond dwrn ohonynt, yn bennaf mewn ardaloedd o rostir heb eu hamgáu: islaw Cefn Esgair-carnau; yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr; gerllaw Afon y Waun tua blaen dyffryn Hepste; ac ar ymyl orllewinol Cefn Sychbant, yn tremio dros Gwm Cadlan. Ar y safleoedd hyn, gwelir casgliadau o gerrig llosg, lludw a golosg ac maent fel rheol wedi’u lleoli gerllaw nant. Awgryma dystiolaeth mewn mannau eraill eu bod yn debygol o fod yn dyddio o Oes yr Efydd. Y dehongliad mwyaf darbwyllol yw eu bod yn fath o faddon sawna, er ei bod yn bosibl i rai gael eu defnyddio fel safleoedd coginio. Ymddengys fod yr henebion hyn yn osgoi ardaloedd o ddefnydd tir ac anheddu cyfoes, yn yr un modd â dosbarthiad safleoedd claddu a defodol cynhanesyddol. Awgryma hyn unwaith eto raniad sylweddol o ran swyddogaeth y dirwedd yn y cyfnod cynhanesyddol cynnar.

Mae olion anheddu cynnar yn osgoi’r tir mwy agored a llai croesawus, sy’n ymestyn hyd at tua 730 metr uwch ben lefel y môr yn ardal y dirwedd hanesyddol, ac yn gyffredinol maent yn dod yn fwyfwy prin ar uchder rhwng tua 400 metr a 480 metr. Gwyddys am nifer o glystyrau bach o gytiau crwn ar yr uchderau hyn sy’n gynhanesyddol yn ôl pob tebyg, er enghraifft: yng Nghors y Beddau – ar yr ysbardun rhwng nant Ganol a nant Mawr, yn agos at nant Llywarch, ar Waun Llywarch; rhwng nant Llywarch ac afon y Waun; a hefyd mewn sawl lleoliad gerllaw afon y Waun. Anaml yn unig y’u cysylltir ag olion trin tir ar ffurf cloddiau caeau neu garneddau carega ac fe’u gwelir weithiau mewn cysylltiad â strwythurau ar ffurf petryal, sy’n fwy tebygol o fod yn cynrychioli hafodydd canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar. Byddai grwpiau teuluol yn byw ynddynt, ac fe’u cysylltir â manteisio ar borfeydd yr ucheldir yn dymhorol yn ystod misoedd yr haf, yn benodol ar gyfer magu gwartheg. Mae’r cysylltiad hwn yn codi cwestiwn, sef p’un a yw trawstrefa yn yr ardal yn deillio o’r cyfnod cynhanesyddol.

Y cyfnod canoloesol cynnar hyd y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar

Yn ddiamau, roedd clirio coetir a phrysg bob yn dipyn yn parhau yn yr ardal hyd at ddechrau’r cyfnod canoloesol cynnar a thu hwnt. Erbyn hynny, mae’n debygol bod system o ddefnydd tir ac anheddu wedi dod i’r amlwg, gan fabwysiadu economi âr a bugeiliol gymysg a manteisio ar adnoddau’r iseldir a’r ucheldir. Ar y dechrau, ymddengys yn debygol bod pwyslais ar fagu gwartheg a ffermio llaeth, ond ar fugeilio defaid oedd y pwyslais yn ddiweddarach. Prin iawn yw tystiolaeth fanwl o ffurfiau’r anheddu, maint a dosbarthiad deiliadaethau a natur yr economi hyd ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, pan luniwyd y mapiau stad cyntaf a’r arolygon degwm. Fodd bynnag, mae’n debygol mai yn ystod y cyfnod hwn y seiliwyd anheddu ar batrwm o ddeiliadaethau bach, gwasgaredig gyda thrigfannau gydol y flwyddyn, neu hendrefydd, wedi’u cysylltu â phorfa, tir âr a dolydd wedi’u hamgáu ar y tir mwy ffrwythlon a chynhyrchiol yn y dyffrynnoedd is, cysgodol. Byddai porfeydd mwy helaeth y rhostir yn cael eu pori yn ystod misoedd yr haf, a byddai hyn, mewn rhai achosion neu ar rai adegau, yn cynnwys defnyddio hafodydd, sef trigfannau dros dro yn yr ucheldiroedd a gysylltir yn benodol â phori gwartheg. Nid oes enghreifftiau o’r elfennau enwau lleoedd hendre a hafod , sef trigfannau dros dro yn yr ucheldiroedd a gysylltir yn benodol â phori gwartheg. Nid oes enghreifftiau o’r elfennau enwau lleoedd.

Mae goroesiad nifer o dai fferm cynnar ar ffurf ty hir, fel Hepste-fawr yn ardal nodwedd y dirwedd hanesyddol Dyffryn Hepste, yn awgrymu datblygiad ffermydd iseldirol parhaol, sef yr hendrefydd, yn ystod y Canol Oesoedd. Ceir trafodaeth ynghylch hyn mewn adran ddilynol ar adeiladau. Yn ôl pob tebyg, ffermwyr rhyddfraint oedd yn dal y rhain yn bennaf yn y cyfnod hwn. Roedd y ffurf hon ar adeiladu’n amlbwrpas, ac yn aml byddai’n lletya pobl ac anifeiliaid, porthiant a grawn, o dan un to. Fel heddiw, roedd ffermydd cynnar yn wasgaredig yn ôl pob tebyg, ac yn sefyll yng nghanol eu caeau eu hunain. Er nad oes tystiolaeth benodol, mae’n debygol hefyd bod llawer o’r patrwm cyffredinol o gaeau bach afreolaidd wedi datblygu’n raddol erbyn o leiaf diwedd y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae’n debygol y byddai wedi clirio unrhyw olion cynharach o ddefnydd tir ac anheddu yn y broses, er y byddai peth amrywiad wedi parhau ger ymylon y rhostir heb ei amgáu o amgylch, gan ddibynnu ar yr amodau hinsoddol neu ddycnwch eu deiliaid. Ceir y cofnod dogfennol cyntaf o’r llechfeddiant rhostirol arunig ac ar wahân yn Hepste-fechan, er enghraifft, rhwng uchder o 330 a 370 metr, yn y 1780au, ond mae’n debygol ei fod yn cynrychioli goroesiad rhannol a gwelliant mewn cyfnod cynharach o lawer o weithgaredd defnydd tir. Byddai waliau o gerrig sychion a chloddiau carega’n diffinio caeau, fel mewn mannau eraill yn is i lawr yn nyffryn Hepste a dyffryn Cadlan.

Mae’n debygol bod llawer o’r patrwm modern o lonydd, traciau a rhydau wedi datblygu yn y cyfnod hwn hefyd, gan ddarparu mynediad i ffermydd unigol, ynghyd â lonydd gleision rhwng y caeau a fyddai’n rhoi rhwydd hynt i yrru da byw i fyny i borfeydd y mynydd yn y gwanwyn a’u dychwelyd i’r fferm yn yr hydref. Mae’n debygol bod gwahanol gaeau’n cael eu defnyddio at wahanol ddibenion erbyn y cyfnod hwn, gan ddibynnu ar ffrwythlondeb, draeniad naturiol, a’r cyfeiriad a wynebent. Byddai caeau sych yn fwy addas i’w trin, caeau nad oeddent yn draenio cystal yn borfa barhaol a chaeau is, mwy llaith, yn ddolydd gwair.

Fel y nodwyd uchod, gwyddys fod hafodydd, sef aneddiadau haf dros dro a oedd yn ddiamau wedi’u cysylltu â’r ffermydd iseldirol hyn, yn yr ardaloedd o rostir uwch nad oeddent wedi’u hamgáu. Yn aml, byddent yn sefyll mewn mannau mwy cysgodol ger nant a roddai ddwr at ddibenion y cartref ac i stoc ei yfed. Yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol, islaw Fan Fawr, cofnodwyd grwpiau o lwyfannau adeiladau ar ffurf petryal, ag olion cytiau hir wedi’u hadeiladu o garreg sydd, i bob golwg, yn cynrychioli hafodydd, ar hyd afon Hepste, islaw’r cyfuchlin 380 metr. Ceir nifer o glystyrau bach o gytiau ar ffurf petryal sy’n dyddio, mae’n debyg, o’r canol oesoedd, ar uchder o rhwng 430 a 480 metr ar Gors y Beddau, ar Waun Llywarch. Cysylltir yr aneddiadau uwch hyn weithiau ag amgaeadau bach gyda chloddiau o’u hamgylch. Mae’n bosibl y’u defnyddiwyd ar gyfer rheoli stoc ond anaml iawn, os o gwbl, y gellir eu cysylltu â thystiolaeth o drin tir. Gwyddys hefyd am glystyrau arwyddocaol o sylfeini carreg a llwyfannau tai ar ffurf petryal tebyg yn rhan ddwyreiniol a deheuol yr ardal mewn sawl man: rhwng tua 380 metr a 420 metr ar lethrau dwyreiniol cysgodol Cadair Fawr; ym mlaen nant Garwnant a nant Ffynnonelin; yn tremio dros Bant y Gadair a dyffryn Taf Fawr; rhwng tua 350 metr a 450 metr ar lethrau deheuol, mwy cysgodol Cefn Cadlan; ar lethrau gogleddol y col sy’n ymestyn y tu hwnt i derfynau’r tir ffermio amgaeedig ym mlaen Cwm Cadlan; ac yn cadw’n agos at ffin ddeheuol y tir wedi’i amgáu yng Nghwm Cadlan, i’r dwyrain o ffermydd Cae’r Arglwydd, Wernlas a Beili-helyg ac yn ymestyn i lethrau gogleddol mwy agored Mynydd-y-glog, ar uchder o rhwng tua 300 metr a 380 metr uwch ben lefel y môr. Ymddengys mai ychydig o’r trigfannau ucheldirol, anghysbell hyn yn ardal y dirwedd hanesyddol, os unrhyw rai o gwbl, sydd wedi datblygu i fod yn ffermydd llaeth â phreswylwyr parhaol o’r math a ddatblygodd mewn ardaloedd eraill yn ucheldir Cymru.

Byddai hela adar ac anifeiliaid gwyllt er cynhaliaeth wedi parhau yn y cyfnod hwn er, fel y nodwyd uchod yn yr adran ar ffiniau, erbyn diwedd yr 11eg ganrif, yn dilyn y goncwest Eingl-Normanaidd o deyrnas Brycheiniog, roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan o heldir helaeth Fforest Fawr neu Fforest Fawr Brycheiniog a oedd yn eiddo i arglwyddiaeth mers Brycheiniog, ac a oedd o bosibl wedi meddiannu hawliau mwy hynafol a ddaliwyd yn gynharach gan dywysogion brodorol y deyrnas.

Diffiniwyd graddau’r goedwig ganoloesol yn fras yn unig ac nid oedd map ohono hyd ddechrau’r 19eg ganrif. Yn ei hanfod, ardal o dir heb ei amgáu oedd y goedwig, lle cedwid hawliau’r helfa. Ymhen amser, nodwyd helfeysydd eraill, llai, yn ardal ehangach Fforest Fawr, fel Fforest Cadlan, i’r gogledd o Fynydd-y-glog. Mae’n debygol, fodd bynnag, bod ffiniau Fforest Fawr wedi amrywio o’r cyfnodau cynnar, ac y byddai wedi lleihau’n raddol wrth i lechfeddiannu cyfreithlon neu anghyfreithlon o dir, a oedd â’r potensial i fod yn dir ffermio gwell, feddiannu’r ymylon allanol.

Nid oes llawer o dystiolaeth ddogfennol o’r arglwyddiaeth yn rheoli ac yn gweinyddu’r goedwig, er ei bod yn debygol ei bod yn cael ei llywodraethu dan gyfraith fforest yn yr un modd â helfeydd a choedwigoedd canoloesol eraill tebyg ym Mhrydain. Cyfraith oedd hon a oedd yn dwyn ynghyd hawliau, arferion a rheoliadau lleol a oedd yn rheoli gweithgareddau’r rheiny a oedd yn byw yn y goedwig neu gerllaw, fel hawliau pori, hawliau i gasglu tanwydd, i dyllu am gerrig ac i losgi calchfaen. Awgrymwyd y gallai arglwyddi canoloesol Brycheiniog fod wedi defnyddio Castell Coch fel llety dros dro yn ystod cyrchoedd hela i’r Fforest Fawr enfawr. Castell canoloesol o garreg yw hwn, yng ngodre deheuol Fforest Fawr, ychydig y tu allan i ardal y dirwedd hanesyddol ym mlaen dyffryn afon Mellte.

Roedd tuedd i arwyddocâd coedwigoedd agored o’r math hwn ddirywio tua diwedd y Canol Oesoedd, oherwydd gost ac anawsterau cynnal stociau helfilod, a daeth parciau ceirw amgaeedig i’w disodli. Daeth Fforest Fawr yn eiddo i’r Goron ym 1521 ac felly y parhaodd hyd ddechrau’r 19eg ganrif, sef cyfnod pan sefydlwyd yr hawliau comin sy’n parhau hyd heddiw.

Diwedd y cyfnod ôl-ganoloesol a’r cyfnod modern

Fel y nodwyd uchod, mae’n debygol bod llawer o’r ffin rhwng y rhostir heb ei gau a’r tir ffermio wedi’i gau o amgylch ymylon y mynydd wedi dod yn weddol sefydledig erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol yn y Fforest Fawr drwyddi draw. Cynrychiolwyd hyn gan batrwm o gaeau afreolaidd, bach fel rheol, yn y dyffrynnoedd. Fodd bynnag, roedd cau ardaloedd sylweddol o borfeydd mynydd o amgylch ymylon y rhostir, a oedd yn parhau i gadw at hawliau tramwy a oedd eisoes yn bodoli, yn nodwedd neilltuol o ffermio ôl-ganoloesol. Mae’n debyg i hyn ddigwydd yn ystod y cyfnod rhwng yr 17eg ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Yn nodweddiadol, roedd yr amgaeadau mwy hyn rhwng 10 hectar ac 20 hectar ond ambell dro roeddent yn 70 i 80 hectar, a byddent yn cael eu cerfio o’r rhostir comin, yn aml gyda ffiniau uchaf a oedd yn nodweddiadol grwm. Mewn rhai rhannau o Gymru, gelwir porfeydd rhostiroedd amgaeedig sydd heb eu trin o amgylch ymylon y mynydd weithiau'n ffridd, er mewn rhannau o dde Cymru, ymddengys fod y term coedcae neu coetgae yn fwy cyffredin. Yn y cyd-destun hwn, mae’n debygol fod enw fferm Coed Cae Du gerllaw ymyl y rhostir ar ochr ogleddol Cwm Cadlan yn arwyddocaol.

Mae tystiolaeth o borfeydd rhostiroedd amgaeedig yn uchel ar ochr ddwyreiniol dyffryn Mellte i’r gogledd-ddwyrain o fferm Goitre, ar Waun Cefnygarreg, ar ochr ogleddol fwy cysgodol dyffryn Hepste, o amgylch ymylon Cwm Cadlan ac ar ymylon deheuol Mynydd-y-glog. Nid oes sicrwydd ynghylch union ddyddiad rhai o’r ffiniau hyn, ond mae mapiau stad o’r 18fed ganrif yn dangos old banks ar ymyl y rhostir ger Pen-fathor yn nyffryn Mellte ac ym mhen dwyreiniol Cwm Cadlan, sy’n awgrymu bod rhai o’r ffiniau hyn yn deillio o leiaf o’r 17eg ganrif. Dengys y ffiniau diweddarach hyn, y mae eu hyd yn ymestyn hyd at ddegau o gilomedrau, amrywiaeth o ddulliau adeiladu, gan gynnwys cloddiau, cloddiau ag arwyneb, waliau o gerrig sychion sy’n sefyll, a waliau gyda ffosydd. Mewn rhai achosion, ceir tystiolaeth o ddilyniant adeiladu, gyda waliau cerrig sychion weithiau’n amlwg yn gorwedd ar ben cloddiau cynharach o bridd. Mae’n debygol mai diben yr amgaeadau mynydd newydd hyn oedd sicrhau defnydd preifat o’r ardaloedd gwell o borfa’r rhostir, i atal stoc rhag crwydro ledled y mynydd, ac efallai hefyd i reoli bridio.

Mae’r symudiad cyffredinol tuag at ffermio defaid yng Nghymru tua diwedd y canol oesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol yn cael ei adlewyrchu i raddau yng nghofnod archaeolegol yr ardal. Yn anad dim, mae dyfodiad corlannau cerrig sychion wedi’u lleoli’n strategol, mewn mannau cyfleus i gasglu’r preiddiau sy’n cael eu symud i lawr o’r bryniau, yn dangos hyn. Oherwydd gofynion beunyddiol llai beichus trin defaid, daeth trawstrefa i ben, a gadawyd yr hafodydd, er y byddai bugeiliaid unigol weithiau angen cysgodfannau llai.

Mapiau stad, a welwyd gyntaf yn ail hanner y 18fed ganrif, a rhestrau a mapiau degwm y 1840au, sy’n darparu’r dystiolaeth gynhwysfawr gyntaf o ddefnydd tir ac anheddu yn ardal y dirwedd hanesyddol. Maent yn dangos mwyafrif y ffermydd a’r bythynnod presennol ar ymyl ddwyreiniol dyffryn Mellte, dyffryn Hepste a Chwm Cadlan er, yn amlwg, mae rhai adeiladau wedi diflannu ers hynny. Erbyn canol y 19eg ganrif, dangosir mwyafrif y ffermydd fel deiliadaethau o rhwng 15 hectar a 60 hectar (40 erw i 140 erw), a thenantiaid oedd yn y mwyafrif o’r rhain. Roedd llawer ohonynt wedi dod i feddiant stadau fel Tredegar, Penmailard a Bodwigiad a ddechreuodd ddod yn amlwg yn yr ardal o tua diwedd yr 17eg ganrif ymlaen.

Rhy tystiolaeth enwau lleoedd o fapiau stad a mapiau degwm sawl awgrym ynghylch statws cymdeithasol ac annibyniaeth gynt rhai o’r ffermydd a oedd wedi tarddu, mae'n debyg, yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn nyffryn Hepste, mae'r elfen 'mawr' yn Nhy-mawr a Hepste-fawr, a Neuadd yn rhan isaf y dyffryn, yn rhoi awgrym o'r tai hyn ac, o bosibl, uwch eu statws yn wreiddiol. Gwelwyd neuadd am y tro cyntaf yn y ffurf ‘Tyr y noyadd’ ym 1618. Er hynny, mewn llawer achos, mae’n amlwg bod yr elfennau enwau lleoedd wedi’u defnyddio i wahaniaethu tai a allai fod ond ychydig yn fwy na’r cyfartaledd. Mae defnyddio’r elfen neuadd efallai’n eironig yn achos Gelli-neuadd, sef pâr o fythynnod gweithwyr o’r 19eg ganrif ar ochr y ffordd ar y lôn ar hyd dyffryn Cadlan i’r gogledd o Benderyn. Mae’r elfen ‘tir’ mewn enwau lleoedd i'w gweld hefyd mewn cyfran sylweddol o enwau ffermydd eraill yn y dyffryn, gan gynnwys Tir mawr, Tir-dyweunydd, Tir-yr-onen a Thir-Shencyn-Llewelyn (a ailenwyd yn Llwyncelyn); cofnodir yr olaf o’r rhain am y tro cyntaf ym 1819. Fel rheol, mae’r ffermydd hyn, fel y tai yr awgrymwyd a oedd â statws uwch yn wreiddiol, wedi’u gosod yn eu caeau eu hunain. Mewn cyferbyniad, mae’n bosibl bod nifer o fythynnod a thyddynnod yn cynrychioli llechfeddiannu diweddarach, ar hyd lonydd a thraciau. Gelwir enghreifftiau unigol yn nyffryn Hepste a dyffryn Cadlan, yn arwyddocaol, yn Heol-las, a dangosir eraill â’r elfen tyle (llwybr serth) yn yr enw Garw-dyle ar ymyl ddeheuol dyffryn Cadlan.

Rhy tystiolaeth enwau lleoedd ac enwau caeau, yn enwedig o arolwg y degwm, hefyd peth dystiolaeth ynghylch llystyfiant a defnydd tir blaenorol. I ryw raddau, mae’n debyg i’r hyn sydd yno heddiw, ond mewn ffyrdd eraill, mae’n wahanol iawn. Yn ôl y disgwyl, mae enwau sy’n cyfeirio at goed i’w gweld yn eithaf aml yn nyffrynnoedd cysgodol dyffryn Hepste a Chwm Cadlan, gydag enwau fel Llwyn-y-fedwen, Tir-yr-onen, Gelli-ffynnonau-isaf a Gelli-ffynnonau-uchaf a Beili-Helyg. Ychydig o awgrym o ddefnydd tir blaenorol a geir o dystiolaeth enwau lleoedd, er bod yr enw ardal Gweunydd (neu Gwaunydd) Hepste, sef yr ardal sydd wedi’i chau ar ymyl y rhostir ar ochr dde-orllewinol yr ardal, a’r enw fferm Tir-dyweunydd ill dau yn cynnwys lluosog gwaun. Mae’r elfen gweirglodd ar enw cae, a’r ffyrdd amrywiol o’i sillafu, ac enwau fel ‘Cae Clover’, yn awgrymu glaswelltir o ansawdd gwell. Mae draeniad gwael yn cyfyngu ar ddefnydd tir rhywfaint o dir y dyffryn sydd wedi’i gau, a dengys yr elfen gwern hyn yn enwau ffermydd Gwern-pawl ac Wernlas ac enw’r nant Gwern Nant-ddu. Hefyd ceir yr elfen garw yn yr enwau ffermydd Pant-garw a Garw-dyle (Garw-dylau gynt) a brwyn yn enwau rhai caeau. Er hynny, yn wahanol i heddiw, mae’n amlwg o’r arolwg degwm fod pwyslais mwy o lawer ar ffermio âr yn y 19eg ganrif a, gellid tybio, mewn cyfnodau cynharach. Adlewyrchir hyn yn yr elfen haidd a welir yn achlysurol mewn enwau caeau fel ‘Cae’r Haidd’ ar fferm Coed Cae Ddu.

Adlewyrchir yn gryf y pwyslais gynt ar economi âr a bugeiliol gymysg yn yr adeiladau fferm sydd wedi goroesi, fel y nodir yn yr adran ddilynol ar adeiladau brodorol. Mae’n amlwg unwaith eto o’r adeiladau sydd wedi goroesi y gwnaed buddsoddiadau sylweddol mewn adeiladau fferm newydd ac mewn ffermdai newydd a ffermdai wedi’u hadnewyddu ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif. Mae’n bosibl bod stadau lleol a chyrff fel Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog a sefydlwyd ym 1755 wedi dylanwadu ar hyn. Mae’r cofnod archaeolegol hefyd yn adlewyrchu nifer o welliannau eraill mewn dulliau ffermio a oedd yn digwydd ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif. Mae clystyrau o gaeau ar ffurf fwy rheolaidd yn agos at y ffermydd yn Nhirmawr, Tir-dyweunydd, Llwyncelyn a Hepste-fawr yn nyffryn Hepste ac yn agos at y ffermydd yng Nglyn-perfedd, Garw-dyle, Gelli-dafolog, Wernlas a Nant-maden, gan gynnwys rhai â ffiniau syth, yn awgrymu ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach yn ystod y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Rhoddwyd cynnig ar wella draeniad caeau wedi’u cau mewn rhai ardaloedd gyda ffosydd agored a draeniad tanddaearol, a thrwy adeiladu grynnau amaethu (neu ‘gribau amaethu’ i roi enw arall arnynt) a welir mewn rhai ardaloedd. Fel y nodir yn yr adran ar ddiwydiant isod, codwyd odynau calch mewn nifer o ardaloedd a fyddai’n cynhyrchu calch amaethyddol i wella ffrwythlondeb y pridd.

Gwerthodd y Goron rannau o Fforest Fawr ym 1819 oherwydd cost Rhyfeloedd Napoleon, gan greu’r amgaead unigol mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, ychydig oedd yr effaith uniongyrchol ar ardal y dirwedd hanesyddol gan mai rhan ganol y Fforest yn unig a werthwyd, yn dilyn gwrthwynebiad y cominwyr ac eraill. Cadwyd y tir heb ei gau yn ardal yr astudiaeth fel un o nifer o flociau sylweddol o dir comin.

Gwelodd diwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif ostyngiad cyffredinol yn elw ffermio, a chyflwyniad mecaneiddio yn ogystal â diwydiannu de Cymru. Fe dynnodd hyn bobl oddi wrth y tir, gan arwain at gyfuno ffermydd a gadael rhai ffermydd a bythynnod yn segur, sydd hefyd wedi gadael ei ôl ar y dirwedd. Yn nyffryn Hepste, er enghraifft, roedd ty rhwng Tirmawr a Thir-yr-onen, a thyddyn posibl ar ymyl y rhostir i’r gorllewin o Lwyn-y-fedwen, wedi’u gadael neu roeddynt yn adfeilion erbyn y 1880au. Mae’n bosibl mai’r ysgubor arunig yn Heol-las yw’r cyfan sydd ar ôl bellach o hen gasgliad o adeiladau fferm a adawyd yn y 19eg ganrif. Gadawyd ffermydd eraill, fel Blaen Hepste, am resymau tebyg yn y 1920au. Yng Nghwm Cadlan, roedd y ffermydd a bythynnod yng Ngwern-pawl a Blaen-cadlan-isaf eisoes yn adfeilion yn y 1880au, ac ymddengys fod y rheiny yng Nghae’r Arglwydd, Gelli-ffynnonau-isaf a Blaen-cadlan-uchaf oll wedi’u gadael o ddechrau’r 20fed ganrif ymlaen.

Yn codi o gyflwr dirwasgedig amaethyddiaeth ar ddechrau’r 20fed ganrif, gwnaed cynigion i roi gwahanol fathau o welliannau amaethyddol ar waith yn ucheldiroedd Cymru. Y bwriad oedd cynyddu ffyniant amaethyddol ac atal y broses o ddiboblogi gwledig a oedd yn effeithio ar yr ardaloedd hyn. Fodd bynnag, ychydig o newidiadau a wnaed i ffermio’r ucheldir tan yr ail ryfel byd, pan ddywedodd Is-Gomisiwn Tir Amaethyddol Cymru fod yr ardaloedd hyn mewn ‘advanced state of dereliction’. Pan gyhoeddwyd y rhyfel, daeth holl amaeth Prydain dan reolaeth uniongyrchol Pwyllgorau Gwaith Sirol y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth (War Ag) a oedd yn gyfrifol am gynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Ar sail tystiolaeth awyrluniau, ymddengys fod galwadau am amaethyddiaeth yng nghyfnod y rhyfel i’w gweld yn yr ymdrechion sylweddol a wnaed i wella porfeydd mewn ardaloedd helaeth o rostiroedd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn y cyfnod hwn. Gwelwyd systemau helaeth o gafnau draenio a duriwyd, mae’n debyg, â pheiriant ym mlaen Afon y Waun, Nant Llywarch, Nant Iwrch a Nant yr Ychen, sef isafonydd afon Hepste yn y rhostir islaw Fan Fawr. Dengys awyrluniau modern batrymau o ffosydd draenio cyfochrog, hyd at 400 metr o hyd a thua 8 i 18 metr rhyngddynt, a duriwyd mewn ardal o bron iawn 200 hectar o dir dwrlawn ym mlaen y nentydd, ar uchder o tua 400 i 600 metr uwchben lefel y môr, â’r bwriad o ddraenio ardaloedd dwrlawn. Erbyn heddiw, mae mwyafrif y ffosydd draenio wedi siltio i raddau helaeth, ac maent wedi erydu i ffurfio cyrsiau mwy rheolaidd i’r fath raddau nes eu bod yn aml yn edrych fel dyfrffosydd naturiol ar y ddaear. Mae awyrluniau'r RAF a dynnwyd ym 1945 a 1946, yn union ar ôl yr ail ryfel byd, yn eu dangos mewn cyflwr fel newydd ac yn amlwg roedd y gwaith newydd ei gwblhau. Fel arall, mewn cyferbyniad â diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ychydig o fuddsoddi sylweddol a wnaed mewn ffermio sydd wedi gadael ei ôl ar y dirwedd ers tua dechrau’r 20fed ganrif, ar wahân i nifer o adeiladau amaethyddol â ffrâm o ddur. O ganlyniad i golli sgiliau angenrheidiol a natur weddol lafurddwys cynnal a chadw waliau caeau o gerrig sychion a phlygu gwrych yn y modd traddodiadol, dadfeilio mwyfwy wnaeth ffiniau hynafol a thraddodiadol y caeau, ac mae’n debygol y bu mwy a mwy o ddibynnu ar ffensys pyst a gwifrau o ddechrau’r 20fed ganrif.

Mae rhai newidiadau o ran defnydd tir oherwydd gostyngiad mewn elw yn ystod y cyfnod hwn hefyd yn amlwg, gan gynnwys dychwelyd rhai ardaloedd o borfa wedi’u gwella a’u cau yn borfa arw. Hefyd, o tua chanol yr 20fed ganrif, bu’r Comisiwn Coedwigaeth yn plannu coetir conwydd ar ardaloedd a fu’n gaeau gynt, yn bennaf ar ochr orllewinol yr ardal yng Ngweunydd Hepste ac ar ochr ddwyreiniol yr ardal ym Mhenmailard a Chefn-y-maes. Mae’r olaf o’r rhain, sy’n tremio dros ddyffryn Taf Fawr, yn rhan o stad fawr o fwy na 2,300 erw o dir yn rhan uchaf dyffryn Taf Fawr, a brynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ym 1946. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi creu nifer o fannau picnic a llwybrau trwy’r coetir mewn blynyddoedd diweddar, gan hybu gwerth amwynder yr ardaloedd coediog hyn. Ceir hefyd Llwybr Taf, sef llwybr troed a llwybr beicio pellter hir rhwng Aberhonddu a Chaerdydd.

Mae creu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym 1957, ynghyd â mentrau cadwraeth a hamdden diweddarach o tua’r 1990au hyd heddiw, yn dechrau cael peth effaith weladwy ar y dirwedd hanesyddol. Ymhlith mesurau cadwraeth bu creu nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gan gynnwys gwarchodfa natur yn canolbwyntio ar ardal o ddolydd gwlyb yng Nghwm Cadlan, sydd hefyd wedi’i dynodi yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop, y bu Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yn paratoi’r ffordd ar ei gyfer, a chreu nifer o ffermydd sydd wedi ymuno â Thir Gofal, sef cynllun amaeth-amgylchedd y Cynulliad Cenedlaethol.

(yn ôl i’r brig)