CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg


ADEILADAU YN Y DIRWEDD

Mae adeiladau sy’n dal i sefyll i’w gweld yn hanner yr ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol yn unig, sef dyffrynnoedd Mellte, Hepste a Chadlan. Mae’r rhain yn nodweddiadol o’r mathau o gymunedau ffermio sydd wedi goroesi o amgylch ymylon rhostir eang Fforest Fawr. Yr unig Adeilad Rhestredig sydd wedi’i ddynodi yw Hepste-fawr. Ond er nad oes tystiolaeth ddogfennol wedi goroesi, mae ffurf a chymeriad cyffredinol yr adeiladau hynny sydd wedi goroesi’n cynrychioli mynegiant hanfodol a chydlynol o hanes cymdeithasol ac economaidd yr ardaloedd o dir ffermio wedi’i amgáu sy’n rhan o’r dirwedd hanesyddol ers o leiaf diwedd y cyfnod canoloesol hyd heddiw.

Ffermdai a thai allan ffermydd yw mwyafrif yr adeiladau sydd wedi goroesi. Mae’n debygol bod rhai adeiladau sydd wedi goroesi’n tarddu o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Fodd bynnag, oherwydd y modd mae rhai wedi’u hadeiladu ar draws y llethr, ac oherwydd bod eu tai allan wedi’u trefnu mewn llinell, ymddengys fod nifer o’r rhain, ynghyd â rhai o’r ffermdai a ailadeiladwyd yn y 19eg ganrif, yn deillio o dai hirion canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar a fyddai’n darparu llety ar gyfer pobl yn y pen uchaf ac anifeiliaid yn y pen isaf. Ceir adeiladau ar y ffurf hon yn nyffryn Hepste, ac fe’u cysylltir ar y cyfan â hwsmonaeth gwartheg cynnar. Mae’r rhain yn cynnwys Hepste-fawr y sonnir amdano yn The Welsh House gan Iorwerth Peate (1940), a’r ffermdy yn Neuadd. Roedd y ffermdai sy’n dyddio o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yn nyffryn Cadlan, sef Nant-maden, Coed Cae Du a Gelli-ffynnonau-isaf gynt, wedi’u trefnu mewn llinell ar draws y llethr, sy’n awgrymu ailadeiladu strwythurau sy’n tarddu o’r cyfnod canoloesol neu’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar.

Mewn rhai achosion, ceir awgrymiadau bod ffermdai cwbl newydd wedi’u hadeiladu yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, i ddisodli strwythurau cynharach. Roedd y ffermdai diweddarach hyn, mewn cyferbyniad, yn dilyn yr arferiad cyffredinol o adeiladu ar hyd y gyfuchlin, fel y ffermdy yn Llwyn-celyn y mae ei gynllun a’i simnai fawr yn awgrymu ei fod yn tarddu o’r 18fed ganrif. Fodd bynnag, ymddengys fod nifer dda o’r ffermdai sy’n gysylltiedig â ffermydd a allai fod o darddiad canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar wedi’u hailadeiladu’n sylweddol, neu wedi’u disodli gan dai newydd a adeiladwyd yn eu lle, yn ystod y 19eg ganrif. Gorwedda’r ffermdy yn Nhirmawr, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, ar hyd y gyfuchlin; mwy na thebyg, fe ddisodlodd hwn adeilad cynharach o darddiad canoloesol y mae hen lwyfan ty yn ei gynrychioli. Cysylltir y ffermdy o’r 19eg ganrif yn Nhir-dyweunydd â rhes o adeiladau wedi’u trefnu ar draws y llethr, sy’n awgrymu ei fod o bosibl yn cynnwys ty cynharach. Yn yr un modd, ymddengys fod trefniad llinellol yr adeiladau fferm yn Beili-helyg, â’i ffermdy, ysgubor yd a beudy o’r 19eg ganrif, yn cynrychioli ailadeiladu casgliad cynharach o adeiladau. Roedd casgliadau eraill o adeiladau fferm wedi mabwysiadau trefniad syml o dai allan yn gyfochrog â’r ffermdy, neu ar ongl sgwâr iddo. Unwaith eto, mae’n debygol bod ffermdai a thai allan diweddarach y 19eg ganrif yn Nhai-hirion a Gelli-ffynonnau-uchaf, sydd ill dau â’u manylion mewn brics melyn, ar safle ffermydd â tharddiad cynharach.

Mae llawer o’r adeiladau fferm sydd wedi goroesi’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ac yn dangos yr economi ffermio cymysg oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod hwnnw. Ffermydd â thenantiaid oedd mwyafrif y ffermydd yn yr ardal yn y cyfnod hwn, ac mae’n debygol, felly, bod rhai o’r stadau â deiliadaethau yn yr ardal wedi dylanwadu ar lawer o’r gwelliannau hyn. Mae’n bosibl y’u cynhaliwyd law yn llaw â’r ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach a awgrymwyd uchod. Mae adeiladau fferm nodweddiadol yn cynnwys ysguboriau yd bach, gyda holltau awyru a drysau yn y canol, stablau, beudai a granarau. Byddent weithiau wedi’u cyfuno’n un strwythur a gellir gweld enghreifftiau ar nifer o ffermydd, gan gynnwys Hepste-fawr, Tirmawr a Neuadd yn nyffryn Hepste, ac ym Meili-helyg, Garw-dyle a Choed Cae Du yn nyffryn Cadlan. Mae tystiolaeth o waith adeiladu mwy helaeth yn Wern-las, lle mae trefniad adeiladau’r fferm yn awgrymu dylanwad fferm fodel y 19eg ganrif. Efallai fod tystiolaeth yma, ac mewn mannau eraill yn yr ardal, o ddylanwad llesol Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, a sefydlwyd yng nghanol y 18fed ganrif. Gwnaeth Walter Davies ddwyn sylw yn ei General View of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales, a gyhoeddwyd ym 1814, at y gwelliannau mewn adeiladau ac arfer ffermio yr oedd Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, a sefydlwyd ym 1755, wedi’u hysbrydoli: “Their improvements gradually extended to the remotest corners of the county; even in the hundreds of Dyfynog and Buallt, we recognise the superior buildings and farm-yards of the Brecon Society”. Mae’n nodi, yn arbennig, ffurf nodweddiadol yr ysgubor yd yn Sir Frycheiniog, gyda “double folding-doors on each side of the barn floor, for convenience, especially during precarious harvests, of driving in a load of grain under cover”.

Nid yw llawer o’r hen fythynnod a thyddynnod yn yr ardal wedi goroesi; mae pâr o fythynnod o ddiwedd y 19eg ganrif o’r enw Gelli-neuadd ar ochr y ffordd yn enghraifft brin o gartrefi gweithwyr. Maent ar y lôn i’r gogledd o Benderyn, ac mae’n debygol mai gweithwyr amaethyddol neu weithwyr chwarel oedd yn byw yno.

Buddsoddwyd llai o lawer mewn adeiladau yn ystod yr 20fed ganrif, ar wahân i nifer o achosion o adnewyddu ffermdai a bythynnod. Serch hynny, ceir rhai eithriadau fel ambell helm brin ac adeiladau diweddar â ffrâm o ddur ar gyfer wyna a storio gwair a gwellt, ac ambell strwythur symudol neu dros dro a wnaed o ddefnyddiau nad ydynt yn draddodiadol.

(yn ôl i’r brig)