CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg


FFINIAU A DYNODIADAU

Erbyn y canol oesoedd cynnar, roedd yr ardal yn rhan o gantref Cantref Mawr yn nheyrnas Brycheiniog, sef un o’r teyrnasoedd Prydeinig cynnar a oedd wedi dod i’r amlwg yng Nghymru erbyn y 7fed ganrif i’r 8fed ganrif OC. Gorchfygwyd y deyrnas gan Bernard de Neufmarché, y barwn Normanaidd, ar ddiwedd y 12fed ganrif, a pharhaodd i gael ei gweinyddu fel arglwyddiaeth mers hyd yr 16eg ganrif.

Roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol, os nad y cyfan ohoni, yn rhan o un o’r heldiroedd mwyaf yng Nghymru, a oedd yn eiddo i arglwyddi Brycheiniog. Fforest Fawr neu Fforest Fawr Brycheiniog oedd yr enw arno, ac roedd yn ymestyn tua 20 cilomedr o’r dwyrain i’r gorllewin a 12 cilomedr o’r gogledd i’r de (tua 12 milltir wrth 8 milltir). Erbyn y 1160au a’r 1170au, forestya de Brechonie (‘Fforest Brycheiniog’) oedd yr enw arno. Mewn dogfennau sy’n dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif, rhoddwyd yr enw Fforest y Brenin arno, gan i Harri’r VIII gymryd y tiroedd yn fforffed oddi wrth Ddug Buckingham ym 1521.

Yn dilyn Deddf Uno 1536, daeth Cantref Mawr i ffurfio cantref Defynnog (Devynock) yn y sir newydd, sef Sir Frycheiniog.

Yn ystod y Canol Oesoedd, roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan o blwyf eglwysig Penderyn yn archddiaconiaeth Brycheiniog, yn esgobaeth Tyddewi. Crëwyd plwyf eglwysig Hirwaun ym 1886 o blwyfi sifil Aberdâr ym Morgannwg a Phenderyn yn Sir Frycheiniog.

Erbyn y 19eg ganrif, roedd yr ardal yn rhan o blwyfi sifil Sir Frycheiniog, sef Penderyn, Ystradfellte, Glyn a Chantref. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, trosglwyddwyd Penderyn, a oedd yn ffurfio’r rhan fwyaf o ran ddeheuol yr ardal, i sir newydd Morgannwg Ganol, a throsglwyddwyd y cymunedau gogleddol i Gyngor Rhanbarth Brycheiniog yn sir newydd Powys. Pan aildrefnwyd llywodraeth leol ym 1996, fe is-rannwyd rhan ogleddol yr ardal rhwng cymunedau Ystradfellte a Llanfrynach yn awdurdod unedol Powys, a daeth rhan ddeheuol yr ardal yn rhan o gymuned Hirwaun yn awdurdod unedol newydd Rhondda Cynon Taf.

Parhau yn eiddo i’r Goron wnaeth y Fforest Fawr tan y gwerthwyd rhan ganol yr ardal ym 1819. Fodd bynnag, ni chafodd y gwerthiant hwn unrhyw effaith ar y rhostir heb ei gau yn ardal y dirwedd hanesyddol ac mae’n parhau, at ei gilydd, i fod yn Dir Comin.

Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn gorwedd yn gyfan gwbl o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a grëwyd ym 1957 â’r diben o warchod harddwch naturiol yr ardal, helpu ymwelwyr i fwynhau’r ardal a’i deall, a meithrin lles y bobl leol.

Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, dygwyd sylw at arwyddocâd hanesyddol y Fforest Fawr gyda chyhoeddi The Great Forest of Brecknock John Lloyd ym 1905, ac yn ddiweddarach gyda llyfr ag enw tebyg gan William Rees, a gyhoeddwyd ym 1966. Dygwyd sylw at bwysigrwydd archaeolegol yr ardal, o ran yr olion cynhanesyddol, canoloesol a diwydiannol sydd i’w gweld o hyd, gan waith maes a chyhoeddiadau’r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru yn ystod y 1990au, yn arbennig The Brecon Forest Tramroads gan Stephen Hughes (1990), Mynydd Du and Fforest Fawr: The Evolution of an Upland Landscape in South Wales gan David Leighton (1997), a’r Inventory, Prehistoric Burial and Ritual Monuments and Settlement to A. D. 1000 ar Sir Frycheiniog (1997).

Roedd gwell ymwybyddiaeth o’r olion archaeolegol sydd wedi goroesi’n ffactor o bwys pan gynhwyswyd ardal tirwedd hanesyddol Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glog yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gyhoeddwyd dan nawdd Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac ICOMOS UK yn 2001.

Mae ardal y dirwedd hanesyddol bellach hefyd yn gorwedd o fewn Geoparc y Fforest Fawr, a sefydlwyd i hybu datblygiad economaidd a threftadaeth ddaearegol yn yr ardal, ac a gafodd ei gydnabod gan Rwydwaith Byd-eang Geoparciau UNESCO yn 2005.

(yn ôl i’r brig)