CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg: Dyffryn Hepste
Cymuned Ystradfellte, Powys
(HLCA 1201)


CPAT PHOTO 2509-65 Dyffryn ucheldirol â phatrwm cydlynol mewn cyflwr da o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach afreolaidd yn gyffredinol, o darddiad canoloesol a chynharach gyda waliau o gerrig sychion a gwrychoedd yn ffiniau, ynghyd ag ardaloedd mwy o borfa wedi’i chau ar ymyl y rhostir.

Cefndir amgylcheddol a hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd yn nyffryn ucheldirol afon Hepste, sy’n llydan ond bas, ac yn cwmpasu ardal o tua 280 hectar. Lluniwyd ffiniau’r ardal nodwedd i raddau helaeth i gynnwys y tir fferm wedi’i gau yn y dyffryn, sydd yn bennaf ar uchder o rhwng 290 metr a 340 metr uwchben lefel y môr, ond mae wedi’i hymestyn i gynnwys porfa ucheldirol, wedi’i chau yn hanesyddol, yn benodol tua’r gorllewin, sy’n ymestyn hyd at tua 410 metr. Mae’r ffin dde-orllewinol braidd yn fympwyol ac, ar y cyfan, yn dilyn yr hyn a nodwyd yn y gofrestr o dirweddau hanesyddol. Er hwylustod, fe’i lluniwyd i gyd-fynd yn fwy pendant â llinell ffyrdd modern a ffiniau eiddo.

Calchfaen Carbonifferaidd, gan mwyaf, yw’r ddaeareg soled sy’n sylfaen i’r ardal, gyda pheth tywodfaen yn rhan orllewinol yr ardal ar Weunydd Hepste. Mae Pwll y Felin, sef llyncdwll mawr y mae afon yn draenio iddo, ar ochr dde-orllewinol yr ardal. Yn bennaf, priddoedd lôm sy’n draenio’n araf ac sy’n ddwrlawn yn dymhorol sydd yn rhannau isaf yr ardal sy’n ymylu ar afon Hepste. Yn hanesyddol, roedd y tir yn gweddu orau i ffermio llaeth a magu stoc ar laswelltir parhaol neu dymor byr, â pheth tyfu cnydau grawn mewn ardaloedd sychach. Ar y tir uwch tua’r gorllewin ac ar ochr ogleddol yr ardal, mae’r priddoedd yn gyfuniad o lomau sy’n ddwrlawn yn dymhorol a lomau sychach, sy’n hanesyddol wedi cynnal porfa rostirol gwael neu o werth cymedrol.

Roedd yr ardal gyfan fwy neu lai eisoes wedi’i chau erbyn i amgaead Fforest Brycheiniog (Fforest Fawr) ddod i feddiant Christie ym 1818, ac roedd rhan ohoni’n gorwedd yn union i’r gogledd a’r dwyrain. Dengys fapiau Stad Tredegar yn dyddio o 1780?81 yr eiddo yn Nhir-yr-onen. Gwelir llawer o eiddo a ffiniau eraill am y tro cyntaf ar fap degwm Penderyn a’r rhestr atodol ym 1840. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi sifil Ystradfellte a Chantref yn Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ychydig o dystiolaeth o hanes anheddu a defnydd tir dyffryn Hepste a ddaw o enwau lleoedd. Ceir y cofnod dogfennol cyntaf o’r enw ‘Dyffryn Hepste’ ym 1503. Tybir bod enw’r afon yn deillio o’r elfennau hesb a te(u) o bosibl oherwydd y ffaith bod yr afon yn sych o dro i dro gan ei bod yn llifo dros galchfaen mandyllog. Mae’r enwau Ty-mawr a Neuadd yn rhan isaf y dyffryn, yn rhoi awgrym o dai hyn ac, o bosibl, uwch eu statws yn wreiddiol. Gwelwyd yr ail am y tro cyntaf yn y ffurf ‘Tyr y noyadd’ ym 1618. Er hynny, mewn llawer achos, mae’n amlwg bod yr elfennau enwau lleoedd wedi’u defnyddio i wahaniaethu tai a allai fod ond ychydig yn fwy na’r cyfartaledd. Gwelir yr elfen ‘tyr’, ‘tir’ mewn cyfran sylweddol o enwau ffermydd eraill yn y dyffryn hefyd, gan gynnwys Tirmawr, Tir-dyweunydd, Tir-yr-onen a Thir-Shencyn-Llewelyn (a ailenwyd yn Llwyncelyn), a chofnodir yr olaf o’r rhain am y tro cyntaf ym 1819. Mae’r enwau Llwyn-y-fedwen (a gofnodwyd am y tro cyntaf ym 1650) a Thir-yr-onen (sy’n cynnwys yr elfen ‘onn’) yn cyfeirio at y llystyfiant. Fel y nodwyd uchod, mae enw’r hen fferm debygol yn Heol-las yn deillio o’r trac sy’n arwain o’r ffermydd ar waelod y dyffryn i borfeydd y mynydd y tu hwnt i flaen y dyffryn. Ychydig o dystiolaeth o ddefnydd tir blaenorol a geir o enwau lleoedd. Er hynny, mae’r enw ardal Gweunydd (neu Gwaunydd) Hepste, sef yr ardal wedi’i chau ar ymyl y rhostir ar ochr dde-orllewinol yr ardal, a’r enw fferm Tir-dyweunydd, ill dau yn cynnwys lluosog ‘gwaun’.

Awgryma bresenoldeb dau gylch cytiau, mewn ardal o borfa rostirol wedi’i chau i’r gogledd o fferm Heol-las, anheddu cynhanesyddol. Mae’r rhain yn ffurfio rhan o’r dystiolaeth helaeth o ddefnydd tir ac anheddu cynnar yn y rhostir heb ei gau tua’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain a guddiwyd, yn ôl pob tebyg, yn ystod clirio a chau tir yn ddiweddarach yn rhannau isaf y dyffryn.

Nodweddir rhannau isaf yr ardal gan batrwm o gaeau bach afreolaidd, yn llai na 3 hectar o faint yn gyffredinol, yr ymddengys eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau tir, yn ôl pob tebyg o’r cyfnod canoloesol o leiaf. Awgryma’r patrymau caeau consentrig o amgylch Llwyn-y-fedwen a Blaen-hepste fod y rhain ac, o bosibl, ffermydd eraill gerllaw ymyl y rhostir, wedi dechrau fel llechfeddiannau arunig, fel Hepste-fechan sy’n gorwedd yn y rhostir tua’r gogledd-ddwyrain, efallai tua diwedd y cyfnod canoloesol i ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Awgryma clystyrau o gaeau ar ffurf fwy rheolaidd gerllaw’r ffermydd yn Nhirmawr, Tir-dyweunydd, Llwyncelyn a Hepste-fawr ad-drefnu ffiniau caeau, yn ystod y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Y tu hwnt i’r rhain, mae patrwm o amgaeadau afreolaidd mwy o lawer ar hyd ymyl y rhostir heb ei gau sy’n dyddio, yn ôl pob tebyg, o ddiwedd y cyfnod canoloesol i ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn gyffredinol, mae’r rhain yn fwy nag 8 hectar o faint, ac yn amgáu ardaloedd o borfa arw y mae peth ohoni bellach wedi dychwelyd yn rhostir unwaith eto. Mae rhan o’r amgaeadau rhostirol hyn ar Weunydd Hepste, ar ochr orllewinol yr ardal nodwedd, bellach yn ffurfio rhan o ardal fwy helaeth o goetir conwydd a blannwyd gyntaf yn ail hanner yr 20fed ganrif.

Mae’r lôn fodern ar hyd y dyffryn, ynghyd â phatrwm sydd wedi goroesi’n rhannol o lonydd glas a ddefnyddiwyd ar gyfer trafnidiaeth ac i yrru anifeiliaid, yn cynrychioli llwybrau hynafol yn y dyffryn. Ymhlith y lonydd glas hyn mae un sy’n rhedeg ar hyd ochr orllewinol afon Hepste, heibio i Hepste-fawr, a Heol-las â’i henw arwyddocaol, sy’n arwain at borfeydd rhostirol Fforest Fawr tua’r gogledd. Gellir olrhain lôn arall ar ochr ddwyreiniol afon Hepste, yn rhedeg o Lwyncelyn, heibio i Neuadd a Thirmawr ac eto allan i’r rhostir tua’r gogledd. Gellid defnyddio’r lonydd glas â rhydau neu sarnau dros afon Hepste i gyfathrebu rhwng un ochr y dyffryn a’r llall, rhwng Tirmawr a Llwyn-y-fedwen a rhwng Llwyncelyn a Thir-dyweunydd. Ymddengys yn debygol fod ffermydd Tirmawr, Neuadd a Llwyncelyn, ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, wedi creu prif fynedfeydd o gyfeiriad arall er mwyn manteisio ar y ffordd dyrpeg newydd o Hirwaun i Aberhonddu (A4059), ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Cyn hynny, ymddengys mai’r unig ffordd i fynd i’r ffermydd hyn oedd ar hyd y lonydd glas a’r rhydau a groesai afon Hepste, gan ymuno â’r llwybr ar ochr orllewinol y dyffryn.

Mae waliau o gerrig sychion yn cynrychioli mwyafrif y ffiniau caeau a’r lonydd glas, ond bellach mae ffensys pyst-a-gwifrau’n aml wedi’u hychwanegu at y rhain, er mai gwrychoedd yw rhai o’r ffiniau diweddarach a ad-drefnwyd. Deunydd clirio caeau, gan gynnwys cyfran fawr o glogfeini crwn Hen Dywodfaen Coch sy’n deillio, yn ôl pob tebyg, o ddrifft rhewlifol sydd, i raddau helaeth, yn ffurfio rhai o’r ffiniau cynharach tebygol o gerrig sychion. Mae rhai o’r ffiniau, sy’n diweddarach yn ôl pob tebyg, yn enwedig y rheiny sy’n diffinio ffiniau’r ardaloedd o borfa arw wedi’i chau ar hyd ymyl y rhostir, wedi’u gwneud o galchfaen neu dywodfaen o chwareli.

Nodweddir anheddu heddiw gan batrwm cydlynol o ffermydd bach gwasgaredig ucheldirol, yn deillio o’r cyfnod canoloesol neu’n ddiweddarach. Yn gyffredinol, mae tua 200 metr i 800 metr rhyngddynt ac maent yn nodweddiadol o economi ffermio cymysg. Mae ffurf neu drefniant adeiladau’n arwydd o ffermydd cynharach. Yn achos y ty hir o gerrig yn Hepste-fawr, dengys cynllun y llawr fod teulu’r fferm a’u hanifeiliaid yn byw o dan un to, ac mae’n debygol ei fod yn tarddu o’r cyfnod canoloesol neu’r canol oesoedd hwyr. Gosodwyd yr adeilad, y mae The Welsh House Iorwerth Peate (1940) yn cyfeirio ato, ar draws y llethr, ac roedd mynediad uniongyrchol gynt rhwng y breswylfa, â’i lle tân agored, a llety’r gwartheg. Mae’r ffermdy yn Neuadd wedi’i osod ar draws y llethr yn yr un modd ac mae o bosibl â tharddiad tebyg. Gorwedda’r ffermdy yn Nhirmawr, ar y llaw arall, ar hyd y gyfuchlin. Mae’n debygol i hwn ddisodli adeilad cynharach o darddiad canoloesol y mae llwyfan ty segur yn ei gynrychioli. Gwyddys am drigfannau segur eraill sy’n deillio o’r cyfnod canoloesol neu’r cyfnod ôl-ganoloesol ar ymyl y rhostir i’r dwyrain o Dirmawr y mae llwyfan ty, amgaead a charneddi clirio’n eu cynrychioli.

Ymddengys, fodd bynnag, fod mwyafrif y ffermdai wedi’u hailadeiladu’n sylweddol, neu ffermdai newydd wedi’u hadeiladu yn eu lle cyn diwedd y 19eg ganrif. Gwelir hyn yn achos ffermdy Llwyncelyn, sy’n deillio o’r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg, er bod iddo darddiad cynharach tebygol, fel nifer o rai eraill. Cysylltir y ffermdy o’r 19eg ganrif yn Nhir-dyweunydd â rhes o adeiladau yn is i lawr y llethr, sy’n awgrymu ei fod o bosibl yn cynnwys ty cynharach. Mae’r ffermdy a thai allan yn Nhai-hirion, o ddiwedd y 19eg ganrif, gerllaw ceg y dyffryn, o garreg gyda manylion mewn brics. Cofnodir enw’r fferm am y tro cyntaf ar ddechrau’r 19eg ganrif, sy’n awgrymu sylfaen cynharach. Dengys ysguboriau yd sy’n nodweddiadol fach, gydag holltau awyru a drysau yn y canol ar gyfer certi, stablau, beudai a granarau, fuddsoddiad pellach mewn amaethyddiaeth yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Byddent weithiau wedi’u cyfuno’n un strwythur a gellir gweld enghreifftiau o hyn mewn nifer o ffermydd, gan gynnwys Hepste-fawr, Tirmawr a Neuadd.

Mae’n amlwg bod nifer o ffermydd bach wedi’u gadael yn segur yn ystod rhan olaf y 19eg ganrif, o bosibl o ganlyniad i gyfuno tyddynnod yn unedau economaidd mwy hyfyw. Ymhlith yr enghreifftiau mae ty rhwng Tirmawr a Thir-yr-onen, a thyddyn posibl ar ymyl y rhostir i’r gorllewin o Lwyn-y-fedwen, a oedd wedi’u gadael neu wedi mynd yn adfeilion erbyn y 1880au. Mae’n bosibl mai’r ysgubor arunig yn Heol-las yw’r cyfan sydd ar ôl bellach o hen gymhlyg o adeiladau fferm a adawyd yn y 19eg ganrif. Gadawyd ffermydd eraill, fel Blaen Hepste, am resymau tebyg yn y 1920au.

Mae nifer o olion diwydiannol yn dyddio, yn ôl pob tebyg, o rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 20fed ganrif yn yr ardal. Yn eu plith mae dwy odyn galch ger Fferm Neuadd a oedd ar waith erbyn y 1880au, ac odynnau calch unigol i’r gorllewin o Flaen Hepste, ac i’r dwyrain o Fferm Tirmawr. Roedd y rhain hefyd ar waith erbyn y 1880au, a dywedir bod yr olaf yn dal i fod ar waith hyd at y 1920au neu’r 1930au. Dangosir chwareli cerrig bach, heb ddyddiad, i’r gogledd o fferm Tir-dyweunydd ac i’r gogledd o fferm Hepste-fawr fel hen chwareli yn y 1880au. Mae’n bosibl y’u defnyddiwyd fel ffynhonnell cerrig ar gyfer adeiladau neu waliau caeau, neu ar gyfer gweithfeydd calch.

Mae’r ardal yn cynnwys nifer o ddyddodion palaeoamgylcheddol posibl gan gynnwys, er enghraifft, mawnog a ddangoswyd ar argraffiadau cynharach yr Arolwg Ordnans, yn ymylu cwrs dwr yn arwain i Bwll y Felin. Ffynonellau Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig; Haslam 1979; Jones a Smith 1972a; Leighton 1997; Morgan a Powell 1999; Peate 1944; CBHC 1997; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Stad Tredegar, Stad Aberhonddu Cyf. 2, 1780-81; Kain a Chapman 2004; Chapman 1991; Owen a Morgan 2007; Peate 1944; Peate 1963; Powell 1988/89; Smith, J. T., 1963; Smith, P. 1975.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.