CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr and Mynydd-y-glôg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg: Mynydd y Garn
Cymunedau Ystradfellte, Glyn Tarrell a Llanfrynach, Powys
(HLCA 1198)


CPAT PHOTO 2509-86

Ardal o rostir eang ag olion pwysig o ddefnydd tir, anheddu a chladdu cynhanesyddol, ynghyd â thystiolaeth o aneddiadau tymhorol o’r canol oesoedd a chyfnodau diweddarach, a chorlannau.

Cefndir amgylcheddol a hanesyddol

Dyma ardal helaeth o ychydig yn llai na 2,500 hectar o rostir, heb ei gau a heb ei wella gan mwyaf, ar sgarp deheuol Fforest Fawr. Mae’n disgyn o dros 730 metr uwchben lefel y môr ar gopa Fan Fawr tua’r gogledd i tua 300 metr ar hyd ymylon y tir wedi’i gau, ymhellach i’r de. Yn torri ar draws y rhostir mae dyffrynnoedd nentydd bach ond dwfn afon Hepste, yn draenio tua’r de, isafonydd afon Mellte tua’r gorllewin, ac afon Taf Fawr tua’r dwyrain. Ymleda’r ardal tua’r de yn fasn bas uwchlaw blaen y tir wedi’i gau yn rhan isaf dyffryn Hepste. Mae sgarpiau creigiog, serth sy’n tremio dros ddyffryn afon Mellte, yn diffinio’r ardal ar yr ochr orllewinol ond, ar yr ochr ddwyreiniol, mae’r tir yn disgyn yn serth i ddyffryn Taf Fawr. O amgylch blaenddyfroedd y nentydd, ac yn is i lawr tua blaen dyffryn Hepste, ceir ardaloedd dirlawn helaeth gyda sgrïau a brigiadau creigiog ar wyneb y llethrau mwy agored tua’r dwyrain, ac ar dir mwy garw Mynydd y Garn, Gwaun Cefnygarreg a Charn y Goetre i’r gorllewin.

Hen Dywodfaen Coch yw’r ddaeareg solet gan mwyaf yn rhan ogleddol yr ardal, hyd at Fan Fawr, a’r ymyl ddwyreiniol, o Bant Brwynog i Bant y Waun. Calchfaen Carbonifferaidd yw gwahanfa ddwr rhan isaf dyffryn Hepste yn bennaf, gyda llyncdyllau niferus, ar wahân i Waun Cefnygarreg ac ardaloedd Cefn Cadlan a Garn Ddu, sydd o dywodfaen gan mwyaf er bod yno rai llyncdyllau. Mae’r priddoedd, at ei gilydd, yn gorchuddio Hen Dywodfaen Coch neu ddyddodion drifft tywodfaen sydd, gan mwyaf, yn ddirlawn yn dymhorol, yn asidig a chyda haenlin fawnaidd ar yr wyneb sy’n cynnal rhostir gwlyb o borfa wael ei hansawdd. Tua’r gorllewin, ceir ardaloedd llai o dir wedi’i ddraenio’n well ar ben tywodfaen yn ardal Gwaun Cefnygarreg, a thir wedi’i ddraenio’n well yn cynnal porfa rostirol o well ansawdd pori ar ben calchfaen yn ardal Garn Ganol.

Mae ffiniau’r ardal nodwedd yn dilyn, i raddau helaeth, y rheiny a nodir yn y gofrestr o dirweddau hanesyddol, sef ffiniau sy’n cael eu diffinio’n dopograffig ar hyd y sgarp sy’n nodi terfynau dyffryn Mellte i’r gorllewin a dyffryn Taf Fawr i’r dwyrain. Yr eithriad i hyn yw’r ffin ddwyreiniol sydd wedi’i hymestyn, er hwylustod, at ymyl y planhigfeydd coed modern o amgylch blaen dyffryn Taf Fawr. Lluniwyd ffin eithaf mympwyol tua’r de, rhwng yr ardal hon ac ardal nodwedd Cefn Cadlan – Cefn Sychbant, ar hyd llinell cefnffordd yr A4059 a llwybr troed ar draws y rhostir.

O ran nodweddion y dirwedd hanesyddol yn yr ardal, gellid bod wedi ei rhannu o gwmpas y llinell cyfuchlin 400 metr, gan fod y safleoedd sy’n is na’r uchder hwn yn fwy dwys, ac ymddengys eu bod yn cynrychioli hyd a lled anheddu gydol y flwyddyn ar ei fwyaf mewn cyfnod cynharach. Uwchben y lefel hon, mae tystiolaeth o anheddu a defnydd tir yn fwy prin o lawer, ac ymddengys y byddent yn bennaf yn dymhorol eu natur. Fodd bynnag, mae’n anodd diffinio’r union ffin gan nad oes unrhyw raniadau ffisegol.

Mae’r rhan fwyaf o’r ardal yn Dir Comin cofrestredig, ar wahân i ran o Waun Cefnygarreg. Roedd rhan ogleddol a rhan orllewinol yr ardal, i’r gorllewin o afon Hepste a Nant y Cwrier ac i’r gogledd o Nant yr Eira, yn rhan o amgaead Fforest Brycheiniog (Fforest Fawr) a ddaeth i feddiant Christie ym 1818. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi sifil Glyn, Ystradfellte, Cantref a Phenderyn yn Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ardal eang yw hon, sydd heddiw yn rhostir heb ei wella, i raddau helaeth, gydag un llechfeddiant arunig o gaeau bach afreolaidd yn Hepste-fechan, sydd tua 6 hectar ei faint ac o bosibl yn tarddu o ddiwedd y cyfnod canoloesol neu gynharach. Cododd y Cominwyr ffensys pyst-a-gwifrau modern yn ddiweddar ar hyd Nant yr Eira tuag at ochr ogledd-ddwyreiniol yr ardal, er mwyn atal anifeiliaid rhag crwydro o’r naill ochr o’r mynydd i’r llall. Mae’r gyfran o Waun Cefnygarreg sydd wedi’i chau ac sydd wedi’i chynnwys yn yr ardal nodwedd hon yn ffurfio ardal o borfa rostirol wedi’i chau â waliau o gerrig sychion.

Nid oes sicrwydd o ran hynafiaeth yr enw lle Fan Fawr, sef y pegwn uchaf ond un yn y Bannau; mae’r enw’n tarddu o’r elfennau ban a mawr. Ymddengys na chofnodwyd yr enw cyn 1900 ac, yn ôl pob golwg, cyfeirir ato yn ffynonellau cynnar y 19eg ganrif fel ‘y-Fan-dringarth’ ar ôl afon Dringarth, sef enw a nodir 2 cilometr ymhellach i’r gorllewin ar fapiau modern.

Rhy tystiolaeth enwau lleoedd ryw awgrym o ddefnydd tir blaenorol, ond gweddol brin yw tystiolaeth yn ymwneud ag anheddu neu ddiwydiant. Mae’n bosibl fod hyn yn awgrymu bod llawer o’r dystiolaeth hon yn berthnasol i gyfnod cynharach na chanol y 19eg ganrif ymlaen, pan oedd mwyafrif y mapiau cynnar o’r ardal yn cael eu llunio. Dengys nifer o enwau lleoedd sy’n cynnwys yr elfennau cors a brwyn dir corsiog yng Nghors y Beddau a Phant Brwynog.

Yn ôl y disgwyl, mae gwaun yn un o’r elfennau mwyaf cyffredin mewn enwau lleoedd, ac fe’i gwelir yn Afon y Waun, Waun Llywarch, Pant y Waun, Waun Tincer, Waun Dywarch, Llynnau’r Waun, a Gwaun Cefnygarreg. Mae hyn yn pwysleisio y bu manteisio economaidd a hanesyddol ar dir yr ardal yn bennaf ar gyfer porfa arw, er efallai bod ynysoedd o laswellt gwell mewn rhai ardaloedd is. Mae’n bosibl bod yr elfen botel yn yr enw lle Carn y Botel yn awgrymu’r arfer o gasglu gwair tenau’r mynydd yn hanesyddol ar ardal o Fynydd y Garn. Efallai fod yr enw Ton Teg a roddwyd i’r llethr i’r gogledd o Hepste-fechan yn awgrymu ardal o well porfeydd yn hanesyddol. Nifer fach yn unig o enwau lleoedd sy’n cyfeirio at ffermio anifeiliaid, gan gynnwys yr elfen ychen yn enw Nant yr Ychen a’r elfen ffald yn Ffald Newydd; dyma enw a welwyd gyntaf ar fapiau’r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym 1890, mewn ardal lle gwyddys am gorlan a nifer o amgaeadau carreg ar lannau Afon y Waun, i’r gogledd-ddwyrain o Hepste-fechan.

Oni bai ei bod yn tarddu o garw, mae’n bosibl bod yr elfen yn enw nentydd Garwnant Fawr a Garwnant Fach, Nant Carw (enw cynharach ar Nant Sychbant) yn deillio o carw. Mae hyn o ddiddordeb gan fod yr ardal nodwedd yn rhan o goedwig hela ganoloesol gynt Fforest Fawr, ac yn gorwedd ar ei hymylon. Yn yr un modd, gwelir yr elfen iwrch yn enw’r nant o’r enw Nant Iwrch.

Gwelir yr elfen carn (neu’r lluosog carnau) mewn enwau lleoedd yn aml yn yr ardal drwyddi draw, er enghraifft yng Ngharn y Goetre, Carn Ganol, Carn y Botel, Talcen y Garn, Cefn Esgair?carnau, Cefn Nantygeugarn, Mynydd y Garn, Garn Ddu, Carn a Nant y Geugarn. Yn gyffredinol, ymddengys bod hyn yn dynodi brigiadau creigiog naturiol, yn enwedig yn yr ardal o galchfaen i’r gogledd o ddyffryn Hepste, yn ardal Mynydd y Garn. Gall yr elfen bedd (neu’r lluosog beddau) yng Nghors y Beddau a Bedd Llywarch naill ai gyfeirio at safleoedd beddau neu, o bosibl, at ffurf hynafol ar ddeiliadaethau tir teuluol Cymru.

Mae’n syndod cyn lleied o gofnodion enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â safleoedd echdynnu a phrosesu yn yr ardal nodwedd. O’r rheiny y mae’r Arolwg Ordnans yn eu cofnodi, mae’r elfen odynau yn enw’r brigiadau creigiog yn Nhwyn yr Odynau; nid yw’n syndod y saif dwy odyn gerllaw a gofnodwyd ar argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym 1886. Cyfeiria’r enw Cwar Llwyd, sy’n cynnwys yr elfen cwar, at chwarel gerrig fach segur mewn ardal o Hen Dywodfaen Coch, sy’n anarferol o uchel i fyny’r bryn uwchben Waun Llywarch.

Dengys yr elfen rhyd lwybrau cysylltiadau, ac fe’i gwelir yn yr enwau Rhyd Uchaf a Rhyd ap Siôn; felly hefyd yr elfen bosibl rhiw yng Nghefn yr Henriw sy’n arwain i fyny at Fan Fawr.

Mae’r ardal nodwedd yn cynnwys nifer o ardaloedd arwyddocaol o anheddu a defnydd tir hynafol ar wahanol uchderau, yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hyd y cyfnodau canoloesol a thu hwnt.

Mae ardal bwysig o anheddu a defnydd tir cynnar a adawyd yn segur yn ymestyn hyd at arwynebedd o tua 70 hectar yn rhan uchaf dyffryn afon Hepste, ar uchder o rhwng 320 metr a 400 metr uwchben lefel y môr. Mae’n ymestyn i ddyffrynnoedd isafonydd Nant Hepste fechan ac Afon y Waun, ac i lethrau cysgodol Mynydd y Garn a Waun Tincer sy’n wynebu’r dwyrain. Ymddengys fod yr olion defnydd tir ac anheddu hyn ar dir is yn arwyddion o anheddu a gweithgarwch amaethyddol gydol y flwyddyn yn ystod cyfnodau o hinsawdd ffafriol, yn ôl pob tebyg yn y cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol ychydig y tu hwnt i derfynau modern cau tir. Ymhlith yr olion sydd i’w gweld mae clystyrau o garneddau carega yr ymddengys eu bod yn arwyddion o drin tir, a chytiau crwn cynhanesyddol niferus o gerrig sychion. Mae rhai o’r rhain yn gysylltiedig â chloddiau a waliau llinellol afreolaidd o gerrig sychion, a rhai ohonynt yn ffurfio amgaeadau crwm afreolaidd o rhwng 0.4 hectar a 3 hectar mewn maint. Gwelir hefyd grwpiau o lwyfannau adeiladu ar ffurf petryal ag olion cytiau hir wedi’u hadeiladu o garreg, wedi’u clystyru’n arbennig ar hyd afon Hepste, islaw’r gyfuchlin 380 metr. Mae’n debygol eu bod yn cynrychioli anheddu a defnydd tir yn y cyfnod canoloesol hyd ddechrau’r cyfnod ôl?ganoloesol. Yn gyffredinol, mae’r cytiau crwn rhwng 4.5 metr a 10 metr mewn diamedr a mwyafrif y carneddau carega rhwng 2 fetr a 10 metr mewn diamedr. Cofnodir hefyd grwp arunig o gytiau crwn, sydd o bosibl yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol, yng Ngharn Caniedydd, tuag ochr ddwyreiniol yr ardal, rhwng 400 metr a 410 metr uwchben lefel y môr. Mae llechfeddiant rhostirol ar wahân, tua 6 hectar mewn maint yn Hepste-fechan, ar uchder o rhwng 330 metr a 370 metr. Dangosir y llechfeddiant, sydd â waliau’n ei rannu’n nifer o gaeau bach, am y tro cyntaf ar fap o Stad Tredegar â’r dyddiad 1780?81, ond mae’n debygol ei fod yn dangos gwelliant a goroesiad rhannol gweithgaredd defnydd tir mewn cyfnod cynharach o lawer.

Daw olion anheddu yn fwy prin ar dir uwch. Gwyddys fod nifer o glystyrau bach o gytiau crwn, yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol yn ôl pob tebyg, a chytiau ar ffurf petryal, yn dyddio o’r cyfnod canoloesol yn ôl pob tebyg, yn ogystal ag amgaeadau bach â chloddiau o’u hamgylch yma ac acw ar uchder o rhwng 430 metr a 480 metr ar Gors y Beddau — ar y sbardun rhwng Nant Ganol a Nant Mawr, ger Nant Llywarch, ar Waun Llywarch — rhwng Nant Llywarch ac Afon y Waun a hefyd mewn ambell le gerllaw Afon y Waun. Nid yw’r olion uwch hyn o aneddiadau cynnar yn cael eu cysylltu mor aml ag olion trin tir ar ffurf cloddiau caeau neu garneddau carega. Yn gyffredinol, ymddengys yn fwy tebygol eu bod yn dyddio o’r cyfnod canoloesol o leiaf, fel hafodydd, sy’n gysylltiedig â thrawstrefa a manteisio ar borfeydd ucheldirol yn dymhorol yn ystod misoedd yr haf. Mae’n debygol hefyd fod nifer fach o gysgodfannau bras o garreg ar lethrau uwch y mynydd yn arwydd o fugeilio anifeiliaid hyd at yn weddol ddiweddar.

Gwelir enwau personol mewn nifer o enwau lleoedd, gan gynnwys ap Siôn yn Rhyd ap Siôn a Llywarch yn Waun Llywarch a Nant Llywarch.

Cofnodwyd nifer o dwmpathau llosg yn yr ardal nodwedd. Yn nodweddiadol, twmpathau ar ffurf pedol o gerrig llosg y gellir eu dehongli orau fel rhyw fath o faddon sawna yw’r rhain, er ei bod yn bosibl i rai gael eu defnyddio fel safleoedd coginio. Tybir eu bod yn dyddio o ganol i ddiwedd Oes yr Efydd. Gorwedda’r enghreifftiau y gwyddys amdanynt yn yr ardal yn nodweddiadol gerllaw nentydd ac ar gyrion tystiolaeth o ddefnydd tir ac anheddu cyfoes posibl, neu ar wahân i’r dystiolaeth honno. Gwyddys am un safle ar lan isafon fach nant Garwnant Fawr ar ochr ddwyreiniol Cefn Esgair-carnau, yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr. Nodwyd un arall ar lan un o isafonydd Afon y Waun, ar ymyl gweithgarwch anheddu y gwyddys amdano.

Mae carneddau crwn o gerrig rhydd, rhwng tua 6 a 18 metr mewn diamedr ac yn is nag 1 metr o uchder ar y cyfan, yn gydran bwysig o’r dystiolaeth o weithgarwch a defnydd tir cynnar yn yr ardal nodwedd. Cynrychioli henebion claddu sy’n dyddio o ddechrau Oes yr Efydd mae’r rhain, ac ni chloddiwyd unrhyw rai ohonynt yn y cyfnod modern. Ychydig o’r henebion sydd ag enwau penodol unrhyw hynafiaeth er, fel y nodwyd uchod, maent wedi arwain at yr elfennau carn a carnau a welir yn aml mewn enwau lleoedd yn yr ardal. Mae dwy eithriad yn unig, sef Carn Caniedydd a Garn Wen. Ymddengys fod a wnelo’r elfen â charneddau claddu cynhanesyddol ac mae’n bosibl, yn yr enghraifft gyntaf, bod Caniedydd yn cyfeirio at chwiban y gwynt yn y lle agored hwn, neu iddo ddeillio o enw personol, neu ei fod â chysylltiadau traddodiadol neu chwedlonol. Yn gyffredinol, saif yr henebion ar uchder o rhwng 350 metr a 450 metr, gan osgoi’r tir uchel a’r tir isel. Mae eu gwasgariad, i raddau helaeth, yn cyd-fynd â’r olion anheddu a defnydd tir cynnar yn hytrach na’n gorymylu â nhw, ac mae’n debygol eu bod, yn rhannol o leiaf, yn dyddio o’r un cyfnod.

Mae’r henebion i’w gweld fesul un, mewn parau neu mewn clystyrau mwy, ac yn gyffredinol ymddengys eu bod wedi’u lleoli’n fwriadol ar lethr neu gopa, lle gellid eu gweld o dir is. Saif mwyafrif y safleoedd yn yr ardal nodwedd fwy neu lai o amgylch ymylon rhan uchaf dyffryn Hepste a’i isafonydd – ar lethrau dwyreiniol Mynydd y Garn, llethrau deheuol Ton Teg a llethrau gorllewinol Cefn Esgair-carnau, sydd ag enw arwyddocaol. Gwelir grwpiau eraill, llai eu maint ar y llethrau gorllewinol sy’n tremio dros Ben-fathor yn nyffryn afon Dringarth, ac ar y llethrau dwyreiniol uwchben Pant y Gadair a Thwyn Garreg-wen, sy’n tremio dros ddyffryn Taf Fawr. Ymddengys fod mwyafrif yr henebion mewn cyflwr da, er y bu ychydig o dyllu i mewn i rai ohonynt, tra bod eraill wedi’u haddasu’n gysgodfannau defaid.

Gwyddys fod llond dwrn o gorlannau yn yr ardal, naill ai o amgylch ymylon y rhostir, fel uwchben Pen-fathor-uchaf a Garreg-fawr yn y gorllewin, neu mewn mannau cyfleus eraill i hel y defaid o’r bryniau, fel ar ymyl ddwyreiniol Mynydd y Garn ac ar hyd Afon y Waun. Mae llawer o’r rhain yn segur bellach. Er bod rhai o’r strwythurau hyn o bosibl ar safleoedd hafodydd cynharach, mae’n bur debyg eu bod yn cynrychioli cyfnod o ffermio defaid yn ddwys yn dilyn bwrw’r system ganoloesol, sef trawstrefa wedi’i seilio ar ffermio llaeth a gwartheg, i’r cysgod. Hefyd, mae’n debygol bod rhai enghreifftiau’n tarddu o’r gwelliannau amaethyddol ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Ceir tystiolaeth ddogfennol o rai o’r corlannau ger Pen-fathor yn y 1770au. Rhy’r ddwy gorlan ar Glog-las arwyddion pellach ynghylch dyddiadau. Disgrifir y ddwy ohonynt fel Old Sheepfold ar fapiau’r Arolwg Ordnans yn y 1880au. Felly hefyd Ffald-newydd gerllaw Afon y Waun, a welir ar fap yr Arolwg Ordnans ym 1890.

Ymddengys fod ardal helaeth o hyd at tua 200 hectar ym mlaenddyfroedd afon Hepste a’i hisafonydd wedi’i draenio, efallai yn ystod cyfnod diwethaf yr ail ryfel byd neu’n fuan wedi hynny, gan rwydwaith o sianeli draenio syth, hyd at 400 metr o hyd â thua 8 metr i 18 metr rhyngddynt. Gellir gweld y rhain yn fwyaf clir o’r awyr. Yn ôl pob tebyg, y bwriad oedd gwella potensial pori’r borfa rostirol islaw Fan Fawr. Bellach, mae mwyafrif y ffosydd draenio wedi llenwi â llaid i raddau helaeth, ac wedi’u herydu nes eu bod yn dilyn llwybrau mwy afreolaidd ac yn aml yn edrych fel cyrsiau dwr naturiol.

Bu ychydig o weithgarwch diwydiannol gynt yn ardal y brigiadau calchfaen ger ffin orllewinol yr ardal nodwedd, ac yn cynrychioli hyn mae grwpiau o odynau calch a chwareli bach ger ymyl y rhostir, a ddefnyddiwyd yn ddiamau i gynhyrchu calch amaethyddol. Mae hen draciau’n cysylltu un clawdd o odynau ar Garn y Goetre â ffermydd Garreg?fawr a Llwyn-onn. Mae yna o leiaf un enghraifft o odyn ddwbl. Saif rhes arall o odynau gerllaw Twyn yr Odynau, â’i enw arwyddocaol, sy’n cynnwys yr elfen enw lle odynau, i’r de-ddwyrain o’r fferm gynt ym Mhen-fathor-uchaf. Mae ambell un o’r odynau mewn cyflwr cymharol dda, gyda gwaith maen yn sefyll, ond twmpathau wedi’u gorchuddio â glaswellt yw eraill. Dengys mapiau’r Arolwg Ordnans yn y 1880au rai o’r odynau, er bod o leiaf un enghraifft o ddisgrifio’r strwythur fel ‘Old Limekiln’.

Mae rhan o ffin ddeheuol yr ardal yn dilyn llinell y ffordd dyrpeg gynharach o’r 19eg ganrif, o Hirwaun i Aberhonddu (yr A4059 fodern), a gellir gweld olion nifer o chwareli bach a cherrig milltir ar ochr y ffordd hyd heddiw.

Mae i ardaloedd mawnog, priddoedd claddedig a dyddodion eraill yn yr ardal botensial sylweddol ar gyfer ail-greu newid amgylcheddol a defnydd tir yn y gorffennol.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Leighton 1997; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr 1983; Kain a Chapman 2004; Chapman 1991; awyrluniau fertigol yr RAF fis Tachwedd 1945 a mis Mai 1946; Powell 1998/99.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.