CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Cwm Elan


CPAT PHOTO 86-C-140

Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Mae’r ardal anghysbell hon yn cynnwys y rhan fwyaf o dalgylch Afon Elan a’i his afon,Afon Claerwen,sy’n draenio ochr de ddwyreiniol Mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru.Mae’n cynnwys ardal eang o wastadedd uwchdir hynod ddyranedig rhwng tua 400 a 550m uwchben SO, gyda chymoedd rhiciog dwfn Elan a Chlaerwen yn darparu’r unig lwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws yr ardal hon o Gymru,sydd fel arall yn diarffordd ac yn wag.Syrthia lloriau’r cymoedd o dros 300m uwchben SO yn y gorllewin i 200m uwchben SO yn y dwyrain,o ble mae’r Afon Elan yn parhau i lifo am bellter byr y tu hwnt i’r ardal a ddisgrifir yma,i ymuno ag Afon Gwy i’r de o’r Rhaeadr.

Mae’r ardal hon yn enghraifft wych yng Nghymru o dirwedd sy’n dangos ymdrech ddynol ar raddfa fawr, gan ei bod wedi’i newid yn sylweddol gan gynlluniau peirianneg sifil mawr a oedd yn eiddo i’r diwydiant dwˆ r a’r stad o dan ei reolaeth yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrifoedd.Mae’r cynlluniau yn cwmpasu adeiladu cyfres o argaeau enfawr a gweithiau atodol yr ymgymerwyd â hwy mewn dau gam pwysig rhwng diwedd y 19eg a chanol yr 20fed ganrifoedd.Roedd y cam cyntaf yn un o gyflawniadau peirianneg sifil mwyaf y 19eg ganrif drwy Brydain gyfan,a bu sôn amdanynt unwaith fel ‘wythfed rhyfeddod y byd’.

Dechreuwyd adeiladu’r gyfres o argaeau,a adwaenir yn gyffredinol fel Cwm Elan,gan Gorffolaeth Birmingham, er mwyn cyflenwi dwˆ r i’r ddinas,ym 1893,gan ddechrau gydag Argae Caban-coch.Disgrifwyd y strwythur enfawr hwn a’i dri is-argae mewn adroddiad swyddogol cyfoesol fel ‘of cyclopean rubble embedded in concrete and faced upstream and down-stream with shaped stones arranged in snecked courses’.Erbyn pryd eu cwblhawyd ym 1904, roedd y Gorffolaeth wedi adeiladu nid yn unig yr ystod ddisgwyliedig o dyrau hidlo a falfiau,tanciau setlo, gwelyau hidlo a thai peiriannau a generaduron oedd yn angenrheidiol er mwyn rheoli lefel y dwˆ r a chynnal ei lif parhaus,ond roedd hefyd wedi amgáu’r rhan fwyaf o’r tir cyfagos oddi-amgylch y cronfeydd gyda chyfres o waliau cerrig enfawr a ffiniau cymhleth er mwyn diogelu’r dwˆ r rhag ei lygru.Roedd uchder y cronfeydd yn golygu bod dwˆ r yn gallu cyrraedd cyrion Birmingham drwy ddisgyrchiant yn unig,heb gost pwmpio, ar hyd cyfundrefn anhygoel o ddyfrbontydd wedi’u claddu, sy’n 126km o hyd.

Cyflogodd Corffolaeth Birmingham lafur uniongyrchol ar gyfer y cynllun a oedd yn cynnwys adeiladu rheilffordd er mwyn cludo deunyddiau o Reilffyrdd Cambria yn Rhaeadr, a bu’n rhaid adeiladu mwy na 50km o drac er mwyn gwasanaethu’r safleoedd adeiladu amrywiol.Rhwng 1906 a 1909,adeiladwyd gardd-bentref bychan,o ansawdd uchel, yn yr arddull Celf a Chrefft nodedig,oedd yn cynnwys casgliad taclus o dai ar wahân ac o dai pâr o gerrig wedi’u osod ar hyd glan deheuol Afon Elan,wrth droed y brif argae fel cartrefi i’r rheini a fyddai’n gweithio ac yn cynnal peiriannau ac offer cymhlethfa’r argae. Roedd y pentref yn cynnwys ysgol,siop a swyddfa stad.

Mae llawer o’r tirwedd urddasol hwn wedi goroesi fwy neu lai yn ddigyfnewid ers troad y ganrif gan i’r stad gael ei rheoli’n llym,er mwyn cadw purdeb y dwˆ r, gan fyrddau a chwmnïau dwˆ r naill ar ôl y llall.Mae’r tirwedd, felly, wedi osgoi nifer o’r tueddiadau diweddar o ran coedwigaeth ar raddfa fawr a gwelliannau amaethyddol eraill ar uwchdiroedd.Gwnaed darpariaeth ar gyfer ehangu’r cynllun gwreiddiol yn y dyfodol wrth adeiladu Argae Claerwen yn y cwm nesaf yn ystod 1948–52,gan wneud cymhlethfa Cwm Elan yn un o’r cynlluniau cyflenwi dwˆ r yfed mwyaf ym Mhrydain gyda chynhwysedd cyfunol o fwy na 100 biliwn litr o ddwˆ r. Ers preifateiddio’r cwmnïau dwˆ r, trosglwyddwyd perchenogaeth a rheolaeth Stad Cwm Elan i ymddiriedolaeth elusennol sy’n gyfrifol am ddiogelu treftadaeth unigryw’r ardal a pharhau i’w rheoli’n gydymdeimladol.Bydd hyn, gobeithio, yn cadw awyrgylch a thawelwch unigryw’r tirwedd.

Gwasgarwyd carneddau claddu a meini hirion trawiadol Oes yr Efydd yn helaeth ar draws yr ardaloedd uwchdir anghysbell ac anhygyrch sy’n amgylchynu’r cronfeydd dwˆ r, tra bod gwersyll-ymdeithio Rhufeinig yn Esgair Perfedd.Yn y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal yn rhan o stad helaeth Cwmteuddwr o dir pori comin a daliadau anghysbell a oedd yn eiddo i’r Abaty Sistersiaidd yn Ystrad Fflur, Ceredigion. Mae ffermydd ôl-ganoloesol yma hefyd,a nifer sylweddol o fwynfeydd a henebion diwydiannol o ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrifoedd. Er bod thema’r tirwedd llawer yn fwy trawiadol na’r safleoedd eilradd hyn,mae llawer o’r safleoedd hyn wedi eu diogelu cystal gan y stad fel eu bod yn ffurfio atodiad hanesyddol gwerthfawr i dirwedd sydd fel arall yn fodern.Mae gan yr ardal hefyd gysylltiadau pwysig â P. B.Shelley a fu’n mawrygu rhinweddau ei chymeriad tra’n barddoni yn Nant Gwyllt.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.