CPAT logo
Cymraeg / English
Adref
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd

Historic Landscape Characterisation

The Vale of Clwyd


Tirweddau Aneddiadau

Cynrychiolir y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch anheddu dynol yn Nyffryn Clwyd yn y cyfnod wedi Oes yr Iâ gan arfau fflint mesolithig a ddarganfuwyd tra’n cloddio yn Nhandderwen, ger Fferm Kilford, ger cymer Afon Ystrad ac Afon Clwyd, sy’n dyddio efallai i’r 5ed mileniwm CC. Mae’r safle wedi’i leoli ar yr aber trionglog graeanog a ffurfiodd lle y rhedai’r Ystrad i Lyn Clwyd, cyn lyn a ffurfiwyd gan ddðr tawdd rhewlif a gronnodd yn erbyn yr iâ a’r marianau ger ceg y dyffryn. Ni wyddys am ba hyd y goroesodd y llyn, cyn iddo lenwi â gwaddod, ond mae yna bosibilrwydd bod y dystiolaeth hon o weithgarwch dynol yn cynrychioli gwersylloedd hela dros dro ar ochr y llyn i grwpiau o helwyr a chasglwyr fel rhan o batrwm mudo tymhorol rhwng yr iseldiroedd arfordirol ger aber afon Clwyd a’r tiroedd hela yn ystod yr haf ar fynydd Hiraethog neu ar fryniau Clwyd. Er na ddarganfuwyd fawr ddim tystiolaeth bellach o weithgarwch dynol yn Nyffryn Clwyd yn y cyfnod Mesolithig neu’r cyfnod neolithig a’i dilynodd pan ddaeth aneddiadau’n fwy sefydlog yn ôl pob tebyg.

Mae tystiolaeth sylweddol o weithgarwch yn Nyffryn Clwyd yn ystod yr Oes Efydd, ond mae hyn yn ymwneud bron yn gyfan gwbl â beddrodau dynol, ac fe’u cynrychiolir gan garneddau yn yr iseldiroedd a ddarganfuwyd unwaith eto tra’n cloddio yn Nhandderwen, a ger Llysfasi a Chefn-coch, er enghraifft, a chan feddrodau yn yr ucheldiroedd ar hyd Bryniau Clwyd. Mae rhai o feddrodau’r ucheldiroedd wedi’u hadeiladu o gerrig a lle y mae’r rhain wedi goroesi mae’r beddrodau i’w gweld o hyd fel carneddau. O bridd yn bennaf yr adeiladwyd y beddrodau yn yr iseldiroedd ac at ei gilydd ymddengys iddynt gael eu haredig i ffwrdd ac felly dim ond drwy gyfrwng olion cnwd a welir drwy dynnu lluniau o’r awyr y down i wybod amdanynt. Er enghraifft mae'n bosibl bod beddrod gweddillion amlosgedig dyn ifanc a ddarganfuwyd mewn pot ger Llanrhaeadr, tra’n gwneud gwaith draenio, wedi’i orchuddio ar un adeg gan garnedd a lefelwyd ers hynny o ganlyniad i aredig. Mae tystiolaeth o fannau eraill ym Mhrydain yn awgrymu mai yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd y grwpiau llwythol y gwyddom amdanynt o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol a dechrau’r cyfnod hanesyddol ddatblygu ac mae’n bosibl y gall lleoliad amlwg beddrodau’r Oes Efydd yn y dirwedd fel ar gopaon Foel Fenlli a Moel y Parc er enghraifft ac ym mhen y bwlch rhwng Moel Llanfair a Moel Plas, a hyd yn oed rhai o feddrodau’r iseldiroedd efallai, gynrychioli’r tiriogaethau y bu gwahanol grwpiau llwythol neu deuluol yn byw ynddynt.

Yn ddiau roedd pobl yn dechrau cael cryn effaith ar y llystyfiant naturiol yn Nyffryn Clwyd rhwng y cyfnod Mesolithig a’r Oes Efydd, ond gwelir mai yn ystod yr Oes Haearn y gellir nodi am y tro cyntaf yr effaith bwysig gyntaf a gafodd y broses o anheddu gan bobl ar y dirwedd ffisegol, yn arwyddocaol iawn yng nghadwyn y pum bryngaer ar hyd Bryniau Clwyd - Foel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr Dyffryn Clwyd), Moel Arthur, Penycloddiau a Moel y Gaer (Bodfari). Mae’n debyg bod y safleoedd mawr a thrawiadol hyn yn cynrychioli canolfannau llwythol, ac mae maint y bryngaerau ar hyd Bryniau Clwyd yn dangos bod grwpiau cymdeithasol cymharol fawr a threfnus wedi datblygu yn ystod yr Oes Haearn. Mae’n debyg bod y bryngaerau’n perthyn i lwyth o’r enw y Deceangli, a orchfygwyd gan y fyddin Rufeinig tua OC 60, ac ymddengys fod ei diriogaeth wedi ymestyn o afon Conwy yn y gorllewin ac o afon Dyfrdwy yn y dwyrain. Gellir bod yn weddol sicr i bobl roi’r gorau i fyw yn y bryngaerau ar adeg y goresgyniad Rhufeinig.

Fel y nodir isod, fodd bynnag, nid oes sicrwydd a fyddai pobl yn byw yn y bryngaerau trwy gydol y flwyddyn ac a ydynt yn cynrychioli’r unig fath o anheddiad a fu yn ystod yr Oes Haearn. Mae tystiolaeth o fannau eraill ym Mhrydain yn awgrymu y gallai elfennau eraill o’r gymdeithas fod wedi’u gwasgaru ymysg mathau o aneddiaddau llai o faint a llai cnewyllol ar y tir is yn y dyffrynnoedd. Gwyddys am nifer o lociau pendant neu bosibl, llai o ran maint, â ffosydd o'u hamgylch o dystiolaeth olion cnwd yn y dyffryn, fel er enghraifft yn Llanynys, yn Nhy’n-y-wern i’r de o Ruthun, Bachymbyd, a Rhewl, a all gynrychioli aneddiadau amgaeëdig bach sy’n dyddio o’r Oes Haearn. Ni chloddiwyd yr un o’r safleoedd hyn, fodd bynnag, ac mae hefyd yn bosibl eu bod yn perthyn i gyfnodau cynhanesyddol cynharach neu i’r cyfnod Brythonaidd-Rhufeinig dilynol neu i ddechrau’r cyfnod canoloesol.

Ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, yn ystod y cyfnod Rhufeinig ac ar ddechrau’r Oesoedd Canol, mae'n debyg i fathau o aneddiadau nad oeddent yn amgaeëdig ddatblygu law yn llaw â’r cynnydd yn y boblogaeth er mwyn manteisio i'r eithaf ar botensial mawr Dyffryn Clwyd o ran amaethyddiaeth. Mae’n debyg bod olion gweithgarwch anheddu gan y Rhufeiniaid a mynwent a ddarganfuwyd tra’n gweithio ar ddatblygiad tai ar gyrion dwyreiniol Rhuthun yn cynrychioli dim ond un o nifer fawr o aneddiadau amaethyddol cyfoes yn y dyffryn sydd eto i'w darganfod. Cynrychiolir tystiolaeth arall o weithgarwch Rhufeinig gan ddarganfyddiadau damweiniol a’r hyn a all fod yn deml ger Llanfair Dyffryn Clwyd, darganfyddiadau damweiniol a’r hyn a all fod yn fynwent ger Bodfari, a darganfyddiadau damweiniol ger Llan‑rhudd. Hwyrach mai cyd-ddigwyddiad ydyw, ond mae dod o hyd i ddarganfyddiadau Rhufeinig mewn mannau neu ger mannau lle y sefydlwyd eglwysi yn ystod y cyfnod canoloesol yn awgrymu y gall fod rhywfaint o barhad wedi bod o ran anheddu ers y cyfnodau Rhufeinig hyd at ddechrau’r cyfnod canoloesol. Torrwyd yn y parhad hwn, mae'n debyg, am fod y dyffryn yn ardal ffiniol rhwng y teyrnasoedd Cymreig oedd yn datblygu a theyrnas Mercia yn Lloegr oedd yn ehangu o’r 7fed ganrif ac o ganlyniad i’r ehangu gan yr arglwyddi Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif.

Fodd bynnag arosodwyd arglwyddiaethau Dinbych a Rhuthun, sef dwy o arglwyddiaethau’r Gororau, a sefydlwyd yn y 1280au gan Edward I, ar batrwm anheddu a strwythur plwyfol a oedd wedi'u hen sefydli, gydag eglwysi canoloesol o fewn yr ardal dirwedd hanesyddol ym Modfari, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfarchell, Llanynys, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Llandyrnog, Llangynhafal, Llangwyfan, Llanfwrog, Llan‑rhudd, Llanychan a Llanfair Dyffryn Clwyd. Mae’n debygol bod ystod o wahanol fathau o aneddiadau wedi bodoli yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach gan gynnwys aneddiadau bond a rhydd, aneddiadau cnewyllol bach a ffermydd a daliadau mwy gwasgaredig, ond hyd yn hyn nid oes fawr ddim tystiolaeth fanwl o Ddyffryn Clwyd ynghylch ffurf yr aneddiadau hyn. Mae hyd yn oed natur anheddiad a gysylltir â phob un o’r eglwysi hyn yn aneglur, er bod astudiaeth fanwl o Lanynys wedi awgrymu i glwstwr o dai a gerddi ddatblygu yma o amgylch cae agored oedd yn gymharol fach ac a gynhwysai ar yr ynys hon o dir âr rhwng afon Clywedog ac afon Clwyd stribedi o dir yr oedd ganddynt berchenogion gwahanol. Efallai bod aneddiadau tebyg wedi bodoli o amgylch rhai neu bob un o’r eglwysi eraill a’r trefgorddau a oedd yn gysylltiedig â hwy. Erbyn hyn mae’r patrwm anheddu cynnar yn anodd i’w ddehongli o ganlyniad i’r anheddiad ehangu ar ddiwedd y cyfnod canoloesol ac o ganlyniad i ddaliadau unigol gyfuno dros amser.

Mae’n anochel bod creu dwy arglwyddiaeth y Gororau ar ddiwedd y 13eg ganrif wedi torri ar y patrwm anheddu rywfaint, gan fod gweinyddwyr yr arglwyddiaethau yn awyddus i sicrhau eu potensial economaidd a manteisio i'r eithaf arno. Crëwyd maenorau newydd ar y patrwm Seisnig yn Ninbych ac yn Kilford. Roedd cymhelliad gwleidyddol i lawer o’r newidiadau hyn. Cyfunwyd tir a gymerwyd oddi ar lwythau brodorol neu a gaffaelwyd ganddynt a hynny trwy fforffed yn ddaliadau mwy o faint ac fe’u rhoddwyd i deuluoedd Seisnig a symudodd i mewn, a fyddai trwy hynny yn dangos mwy o deyrngarwch i’r cyfundrefnau newydd. O ganlyniad roedd tueddiad i greu ystadau mwy o faint ar y tiroedd brasach yn y dyffryn gan ail-leoli trigolion lleol yn yr ardaloedd mwy anghysbell. Datblygodd patrymau anheddu newydd a gydymffurfiai’n fras â’r hyn a sefydlasid yn arglwyddiaethau hþn y Gororau yng Nghymru oedd wedi’u rhannu’n Saesonaethau ac yn Frodoriaethau. Felly sefydlwyd Saesonaethau gydag aneddiadau Seisnig yn ganolbwynt iddynt yn y dyffryn, o amgylch canolfannau gweinyddol newydd pob arglwyddiaeth, sef y bwrdeistrefi castell a sefydlwyd yn syth ar ôl goresgyniad Cymru yn Rhuthun a Dinbych, a hynny yng nghanol ardal oedd yn y bôn yn dal yn frodorol ei natur a lle y parhâi’r system lwythol Gymreig o ddal tir. Cyfrannodd y gwahanol anghyfiawnderau a ddioddefwyd gan y Cymry o dan y Saeson at y gwrthryfel a arweiniwyd gan Owain Glyn Dðr, a ddechreuodd gydag ymosodiad ar dref a chastell Rhuthun ym mis Medi 1400.

Arweiniodd y dirywiad yn system llwythau Cymru ynghyd â’r duedd i dalu arian yn lle’r gwasanaethau arferol a gyflenwid gan daeogion ac effeithiau heintiau’r Pla Du, yn enwedig yn ystod y 1340au a’r 1360au at newidiadau pwysig o ran y patrwm anheddu yn Nyffryn Clwyd o’r 14eg ganrif ymlaen, a arweiniodd yn raddol at dirwedd a nodweddid gan ystadau cyfunol mawr yn y dyffryn a ffermydd gwasgaredig pob un â’i pherchennog ei hun ar y mynydd-dir oddi amgylch. Parhaodd y broses i mewn i’r cyfnod ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Parhâi bwrdeistrefi Dinbych a Rhuthun oedd â'u siarteri a'u monopolïau masnachol eu hunain i ffynnu fel canolfannau masnachol a ddarparai farchnad ar gyfer nwyddau a gynhyrchid yn lleol, ond wrth i'r anheddiad ehangu yn ystod yr Oesoedd Canol ac ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol crëwyd aneddiadau cnewyllol newydd a bwriwyd rhai o'r canolfannau cynharach i'r cysgodion. Efallai i Fodfari, Llanynys, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Llandyrnog, a Llanfair Dyffryn Clwyd i gyd oroesi fel aneddiadau cnewyllol bach, ond yn y pen draw ynyswyd pob un o'r eglwysi yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfarchell, Llangynhafal, Llangwyfan, Llan‑rhudd, a Llanychan wedi’u hamgylchynu gan gaeau a dim llawer mwy.

Crëwyd canolfannau poblogaeth newydd o ganlyniad i symudiadau o ran y boblogaeth, yn enwedig yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, wrth gyffyrdd pwysig, ar hyd y ffyrdd tyrpeg newydd neu mewn mannau oedd yn gysylltiedig â melinau, chwareli, capeli anghydffurfiol, gefeiliau, ysgolion, a thir amgaeëdig. Mae'r rhain wedi dod yn nodweddion arbennig o bwysig yn y dirwedd wledig yn Nyffryn Clwyd. Mae enghreifftiau o'r aneddiadau newydd hyn yn cynnwys Graig-fechan, Craig-adwy-wynt, Pentre-Llanrhaeadr, yr aneddiadau newydd yn Llangynhafal a Llanbedr Dyffryn Clwyd, Waun Aberchwiler, Hên-efail, Rhewl, Hirwaun, Gellifor, Hendrerwydd, Ffordd-las ac Aifft. Mae'r 20fed ganrif wedi gweld y rhain a chanolfannau poblogaeth cynharach yn ehangu, ac mae hefyd wedi bod yn dyst i nifer o ddatblygiadau hirgul ar hyd rhai ffyrdd gwledig, fel rhwng Rhuthun a Rhewl, Gellifor a Hendrerwydd, a Llandyrnog a Llangynhafal ac i duedd fwy diweddar at greu nifer o ystadau gwledig bach newydd neu at addasu ffermydd at ddibenion amlbreswyliaeth, fel ar fferm Llwyn-celyn i'r gogledd o Lanrhaeadr.

Mae elfennau cynharaf yr amgylchedd adeiledig sydd wedi goroesi yn Nyffryn Clwyd i'w canfod yn adeiladwaith rhai eglwysi canoloesol, y cestyll canoloesol a nifer o adeiladau eraill yn Rhuthun a Dinbych. Yn achos yr adeiladau canoloesol hyn ac adeiladau cerrig eraill sy'n dyddio i ddiwedd yr Oesoedd Canol ac i'r cyfnod ôl-ganoloesol ymddengys mai deunyddiau cymharol leol a ddefnyddiwyd yn bennaf i'w hadeiladu. Felly, mae bythynnod a ffermdai ar lethrau dwyreiniol y dyffryn wedi'u hadeiladu'n bennaf o siâl Silwraidd a gloddiwyd yn lleol tra bod y rhai sydd ar ochr orllewinol y dyffryn wedi'u hadeiladu'n bennaf o galchfaen carbonifferaidd a gloddiwyd. Mae rhai adeiladau cerrig tua chanol y dyffryn yn tueddu i fod wedi'u hadeiladu naill ai o siâl neu o galchfaen neu'n achlysurol o welyau o dywodfaen coch Triasig a Phermaidd y gellir eu gweld yn amlwg mewn nifer o leoedd yn y dyffryn. Ar achlysuron prin, fel yn achos wal mynwent Llanynys, adeiladau fferm cynnar yn Dregoch Ucha i'r de o Waun Aberchwiler, a rhannau o nifer o adeiladau yn nyffryn Clywedog i'r gorllewin o Rhewl, defnyddiwyd meini mawr crynion o welyau nentydd neu feini crwydr rhewlif a symudwyd wrth glirio caeau. Lle y defnyddiwyd carreg o ansawdd gwaeth mae yna duedd i'r adeiladau fod wedi'u rendro, fel yn achos llawer o ffermdai a'r eglwysi yn Llandyrnog, Llangwyfan a Llangynhafal - sydd i gyd ar ochr ddwyreiniol y dyffryn. Mae'n debyg bod cyfran uchel o'r tai yn y trefi, y ffermdai a'r adeiladau fferm cynnar wedi'u hadeiladu o bren, a dim ond cyfran fach ohonynt sydd wedi goroesi, yn bennaf dim ond yn achos rhai o'r tai mwy o faint a mwy mawreddog, gan gynnwys er enghraifft yr ysguboriau ffrâm nenfforch ym Machymbyd sy'n dyddio, mae'n debyg, o'r 15fed ganrif/dechrau'r 16eg ganrif, a neuaddau ffrâm nenfforch yn Hendre'r ywydd-uchaf (sydd wedi'u hailadeiladu erbyn hyn yn amgueddfa Sain Ffagan), Hendre'r ywydd, a Phlas Iago, a'r tai ffrâm nenfforch yn Neuadd Euarth, o ddiwedd yr 16eg ganrif/dechrau'r 17eg ganrif, Caerfallen, Llwyn-ynn (sydd wedi'i ddymchwel erbyn hyn i raddau helaeth), Plas Coch, Plas-yn-llan, Plâs-yn-rhôs, Glan Clwyd, Rhydonen, Rhyd-y-cilgwyn a Ffynnogion, er bod fframiau pren wedi'u llenwi â brics wedi goroesi yn achos nifer o adeiladau fferm, fel yn Fron-vox a Phlâs Draw.

O tua chanol yr 17eg ganrif ymlaen ymddengys mai carreg a ddefnyddiwyd fwyaf ar gyfer adeiladu. Defnyddiwyd brics am y tro cyntaf yn yr 17eg ganrif, fel yn achos y tþ brics a berthynai i deulu Salusbury ym Machymbyd Fawr, a dechreuwyd eu defnyddio'n fwy ac yn fwy aml ar gyfer tai, bythynnod, adeiladau fferm a waliau o ddechrau i ganol y 18fed ganrif ymlaen. Mae gan ysgubor yn Dre Goch Ganol, er enghraifft, ddyddiad o 1752 wedi'i osod yn y gwaith brics. Toeau llechi yw'r toeau presennol sydd ar adeiladau traddodiadol ac ar adeiladau a godwyd cyn y cyfnod modern a hynny bron yn ddieithriad, ond mae'n debyg bod yna duedd i ddefnyddio llechi ers diwedd yr 16eg ganrif ymlaen. Cyn y dyddiad hwnnw mae'n debyg bod y mwyafrif o'r adeiladau naill ai â thoeau gwellt neu â thoeau teils pren. Ymddengys na châi teils cerrig eu defnyddio yn yr ardal, a hynny mae'n debyg oherwydd y diffyg cerrig addas yn yr ardal.