CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Gwergwy, Llanynys, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Dinbych a Llandyrnog, Sir Ddinbych
(HLCA 1061)


CPAT PHOTO 811.04A

Iseldir o ddolydd anghyfannedd o gwmpas cymer Afon Clywedog ac Afon Clwyd, gyda ffosydd draenio, afonydd wedi eu cloddio a'u camlesu gydag ychydig o ffyrdd.

Cefndir hanesyddol

Yn dod ar hyd y ffin rhwng plwyfi eglwysig canoloesol Llanynys a Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, ac yn weinyddol ar hyd y ffin rhwng cwmwd Ceinmeirch yng nghantref Rhufoniog a chwmwd Colion yng nghantref Dyffryn Clwyd

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Iseldir o ddolydd gwastad â draeniad gwael yng nghanol y dyffryn o gwmpas cymer Afon Clywedog ac Afon Clwyd, rhwng oddeutu 30-40m uwch lefel y môr, heb ddim aneddiadau cyfoes.

Mae'r ardal wedi ei draenio'n helaeth ond mae'n llanw â dwr yn ôl y tymor. Cyflawnwyd y gwaith draenio pennaf ar ôl y cyfnod canoloesol, dengys cynlluniau 1780 y cwrs newydd a dorrwyd ar gyfer Afon Clwyd. Mae'r nodweddion gweledol a luniwyd i leddfu'rdraeniad naturiol gwael yn cynnwys afonydd wedi eu camlesu a ffosydd draenio ar ymylon caeau a draeniau agored mewn rhai caeau gyda argloddiau ar hyd Afon Clywedog ac Afon Clwyd, er bod peth tystiolaeth yn dangos lleiniau yn y rhyngafondir rhwng Afon Clywedog ac Afon Clwyd yn ystod y cyfnod canoloesol.

Cymysgedd o gaeau unionlin bychain, canolig a mawr y gellir eu cyrraedd ar hyd lonydd a llwybrau troed, rhai ohonynt mewn ceuffyrdd, yn rhedeg lawr o'r ucheldir. Ardal o gaeau hirgul wedi eu ffinio â ffosydd draenio i'r gogledd-ddwyrain o Lanrhaeadr, mae rhai o'r lleiniau ar ymyl yr iseldir yn yr ardal hon, ger fferm Llwyn Mawr â choedlannau bychain o ynn a gwern. Yn aml ceir gwrychoedd draenen wen gwasgaredig heb eu cynnal yn dda, gyda choed gwern, poplys a helyg uchel ar hyd y prif ddyfrgwrs. Ysguboriau 19eg ganrif? bychain o friciau neu gerrig yng nghorneli nifer o gaeau, llawer ohonynt bellach yn adfail. Mwy na thebyg mai twmpathau sychu yw nifer o'r twmpathau hir ac isel yn y mannau gwlypach ar yr iseldir, ond mae eu dyddiadau'n ansicr

Bu'r ardal eang hon â draeniad gwael tuag at ganol y dyffryn yn llyffetheirio'r cysylltiad rhwng ochr ddwyreiniol a gorllewinol y dyffryn, Pont Drefechan, sef pont gerrig o ddechrau'r 19eg ganrif ar y ffordd rhwng Pentre Llanrhaeadr a Llanynys yw un o'r ychydig o ffyrdd cyhoeddus sy'n croesi'r ardal. Â arglawdd rheilfforddddatgymaledig Corwen i'r Rhyl trwy'r ardal, gan dorri ar draws ffiniau nifer o gaeau, â'u patrwm yn amlwg wedi eu sefydlu cyn adeiladu'r rheilffordd yn y 1850au. Roedd cyn Orsaf Reilffordd Llanrhaeadr ar y ffordd i'r dwyrain o Bentref Llanrhaeadr

Ffynonellau

Denbighshire Record Office, Ruthin, PD/68/1/2

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.