CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Prif Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Rhôs, Rhuthun, Llanynys a Llangynhafal, Sir Ddinbych
(HLCA 1047)


CPAT PHOTO 811.05A

Ffermydd a phlastai mawr gwasgaredig, rhai'n tarddu o gyfnod ôl-ganoloesol cynnar, mewn tirwedd o gaeau mawr ac yn aml yn hir a throellog wedi eu ffinio â ffosydd draenio a chloddiau'n ffinio â'r Clwyd, gyda pheth parcdir i'r de.

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad ar hyd y ffin rhwng plwyfi eglwysig hynafol Llanynys, Llandyrnog a phlwyf bychan Llanychan. Yn nhermau gweinyddiaeth roedd ar y ffin rhwng cwmwd gorllewinol Colion a chwmwd dwyreiniol Dogfeilyn, y ddau o fewn cantref hynafol Dyffryn Clwyd. Mae'n debygol i'r ardal fod o dan ddwr yn ôl y tymor cyn iddi gael ei draenio, o'r 16eg ganrif ymlaen efallai, ac nid yw'n syndod bod archaeoleg gynharaf bendant yr ardal yn cael ei hadlewyrchu yn yr adeiladau ôl-ganoloesol cynnar.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Iseldir gwastad yng ngwaelod y dyffryn rhwng oddeutu 35-60m uwch lefel y môr rhwng cymerau afonydd Clwyd a Chlywedog. Mae'r tir dan ddwr yn ôl y tymor a byddai ei ddefnydd wedi ei gyfyngu cyn i'r gwaith draenio gael ei gyflawni.

Nodweddir yr anheddiad gan nifer o blastai mawr gwasgaredig a nifer o ffermydd bychain a bythynnod gwasgaredig 18fed a'r 19eg ganrif o gerrig neu friciau. Cychwynnodd rhai o'r ffermdai mwyaf eu hoes fel plastai 16eg a 17eg ganrif hanner coediog a ailfodelwyd neu a ailadeiladwyd yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Plastai hanner coediog 16eg a dechrau'r 17eg ganrif oedd Plas-yn rhos a Glan Clwyd a ailadeiladwyd gyda waliau cerrig allanol yn ystod y 18fed ganrif, ty 17eg ganrif hanner coediog a ehangwyd â briciau a cherrig yn ystod y 18fed ganrif yw Rhydonen. Ffermdai 18fed ganrif yw'r ffermdai eraill fel Plas-yr-esgob, sydd fel nifer o rai eraill yn yr ardal wedi eu peintio'n wyn. Adeiladwyd ty hanner coediog a briciau diwedd y 19eg ganrif, yn ôl pob tebyg, ym Mhlas Llanychan yn lle'r ty cynharach hanner coediog o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Weithiau ceir ffrâm goediog wedi ei mewnlenwi â briciau i'r tai allan sy'n gysylltiedig â'r ffermydd neu maent o gerrig a briciau, weithiau mae iddynt wal fuarth o gerrig. Y tai diweddaraf gyda ffermydd plas cysylltiedig sy'n tueddu i fod mewn clwstwr o barcdir tuag at ran ddeheuol yr ardal cymeriad, gan gynnwys Plas y Dyffryn a ailenwyd yn ddiweddar (Claremont a Clwyd Hall School gynt). Fila 19eg ganrif o friciau a cherrig nadd, gyda phorthordy o friciau, llidiart porthordy, stablau a gerddi â waliau, a Phlas Gwyn, fila diwedd 19eg/dechrau 20fed ganrif wedi ei rendro. Mae'r tai 18fed a'r 19eg ganrif lleiaf yn aml wedi'u rendro, fel Galsynys a Thyddyn-isaf.

Anheddiad cnewyllol cymharol ddiweddar yn Rhewl, wedi ei sefydlu ar y ffordd dyrpeg rhwng Dinbych a Rhuthun a'r ddwy bont – Pont Rhyd-y-cilgwyn a Phont Rhyd-y-gwaed – yn croesi Afon Clywedog, yn cynnwys tafarn, nifer o dai calchfaen a chapel, ac eglwys genhadol 19eg ganrif o goed gydag ysgol a thy 20fed ganrif.

Caeau mawr ac weithiau'n hir a thonnog, â ffosydd draenio gyda'u hechelinau hir yn gyfochrog â chyfeiriad y draeniad ac weithiau wedi eu rhannu gan ffensys pyst a gwifren. Tir pori'n bennaf gyda chnydau porthi ar y tir sydd wedi ei ddraenio orau. Gwrychoedd o ddraenen wen gydag ambell ysgawen a rhywogaethau eraill a chyda choed poplys, gwern, a bedw talach gwasgaredig, yn enwedig ar hyd cwrs y nentydd a'r afonydd cloddiog, a hen goed deri mawr mewn rhai caeau. Rhai gwrychoedd wedi'u plannu'n ddiweddar . Ambell bostyn giât o garreg ar ochr y priffyrdd. Waliau o flociau calchfaen ar ochr y ffordd wrth y fynedfa i Blas Dyffryn a waliau cerrig a briciau ar ochr y ffordd ym Mhlas Gwyn. Awgryma ffurf y tir a'r tai cysylltiedig bod y tirwedd yn ei hanfod yn deillio o ddraenio a chau dolydd gwael eu draeniad ar ochr afon Clwyd yn y 16eg a dechrau'r 17eg ganrif.

Lonydd, troellog bychain yw mwyafrif y ffyrdd cyhoeddus yn yr ardal. Hyd yn oed ar y tir gwastad mae'r lonydd yn tueddu i redeg mewn ceuffyrdd rhwng 0.5 – 1.0m o ddyfnder, sy'n awgrymu bod cysylltu'n anodd yn ystod rhai o'r tymhorau cyn bod ffyrdd yn cael eu hwynebu a'u draenio. Mae'r ardal yn cynnwys nifer o bontydd bychain ond pwysig sy'n croesi afon Clwyd ac sy'n debygol o fod wedi disodli pontydd pren neu ryd ganoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar, ac yn bwysig ar gyfer cynnal cysylltiadau rhwng cymunedau dwyreiniol a gorllewinol y dyffryn. Pontydd 18fed a dechrau'r 19eg ganrif yw'r pontydd cerrig presennol, fel Pont Perfa a Pont Llanychan, gyda bwa sengl neu ddwbl a chanllaw cerrig gyda copinau cerrig, rhai â thorddyfroedd ac ail bont lif yn achos rhai. Mae Pont Clwyd, sef pont bwa sengl rhwng Llandyrnog a Llanynys yn anghyffredin oherwydd mai llechfaen mawr unionsyth, heb gopinau yw ei chanllaw. Ambell bont fferm yn rhoi mynediad i dir ar ochr ddwyreiniol afon Clywedog o ffermydd yn y gorllewin Mae cwrs cyn reilffordd Corwen i'r Rhyl a adeiladwyd yn 1850au a oedd yn torri'n bendant ar draws ochr orllewinol yr ardal, yn parhau i gael ei ddangos gan ffiniau caeau wedi eu sythi, ategion pontydd, bwthyn ceidwad y porth a lonydd cyfoes yn ailddefnyddio cwrs y cyn-lwybrau.

Mae ardaloedd bychain o barcdir yn parhau mewn clystyrau tua de'r ardal cymeriad, gan gynnwys Plas y Dyffryn gyda hen goed deri, poplys a phinwydd gwasgaredig, mae'r ardd goediog o gwmpas y cyn-reithordy 18fed ganrif a'r parcdir a thir â nodweddion parcdir yn amgylchu Plas Gwyn a fferm Plas Gwyn wedi ei isrannu'n rhannol gan wrychoedd, ffensys pyst a gwifrau ac afon â rhes o goed wrth ei hymyl gyda deri a phoplys gwasgaredig.

Ffynonellau

Hubbard 1986

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.