CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Basn Caersws


YR AMGYLCHEDD NATURIOL

Topograffeg

Mae Basn Caersws ar lawr rhan uchaf dyffryn Hafren rhwng y Drenewydd a Llandinam, ac ym mhentref Caersws mae ei ganolbwynt. Yno, ar uchder o rhwng tua 120 metr a 230 metr, mae’n ehangu i rhwng 1 cilomedr ac 1.5 cilomedr o led ger cymer Afon Hafren ag Afon Carno, Afon Trannon ac Afon Cerist. Mae dyffryn Afon Carno yn culhau i tua 200 metr o led ger Pontdolgoch tua’r gogledd, ac mae dyffryn Hafren yn culhau i tua 300 metr o led ger Llandinam, ac mae’n dechrau culhau ychydig mwy tua’r Drenewydd i’r dwyrain.

Mae’r bryniau’n codi, yn raddol i ddechrau, i’r de o’r afon hyd uchder o tua 220 metr, ac yna â llethrau mwy serth i fyny at y rhostir sy’n codi i tua 430 metr ar ffin de-ddwyrain ardal y dirwedd hanesyddol. I’r gorllewin, mae dau ysbardun bryniog ar ymylon y basn, gyda llethrau serth o boptu iddynt. Mae un o’r rhain rhwng Afon Hafren ac Afon Cerist, ac yn codi i uchder o tua 270 metr, ac mae’r ail rhwng Afon Cerist ac Afon Carno, ac yn codi i uchder o tua 290 metr. Yn gyffredinol, mae’r tir yn codi’n fwy graddol i’r gogledd hyd uchder o tua 250 metr, ond mae’n codi’n fwy serth yn union i’r gogledd o Lanwnog, lle mae’r bryniau’n cyrraedd uchder o 350 metr.

Daeareg a phriddoedd

Mae’r ddaeareg soled sy’n sylfaen i’r ardal gyfan yn cynnwys llechi a thywodfeini Silwraidd yn rhannau canolog a rhannau de-orllewin yr ardal, gyda sialau a grutiau i’r gogledd ar Alltwnnog ac i’r de-ddwyrain ar Allt y Gaer a Bryn Penstrowed.

Cafnau rhewlifol dwfn yw dyffrynnoedd Afon Hafren, Afon Carno ac Afon Trannon. Ar lawr y prif ddyffrynnoedd, ceir dyddodion trwchus o glai, dan haenau graeanog wedi’u dyddodi gan ddŵr tawdd rhewlifol, hyd at 68 metr o ddyfnder gyda’i gilydd. Mae yna waddodion llifwaddodol siltiog drostynt, wedi’u dyddodi gan afonydd, gyda pheth cerrig gro, o ganlyniad i ailweithio gro cynharach. Ffurfiwyd drymlinoedd sydd wedi goroesi fel cnyciau isel unigryw o Glai Clogfaen yn nyffryn Cerist, yn nyffryn y nant i’r gorllewin o Gefn Carnedd, a rhwng Caersws a Llanwnog, ac i’r gogledd-ddwyrain o Gaersws i gyfeiriad Gwynfynydd.

Mae’r priddoedd mewn rhanbarthau cul ar hyd gorlifdir dyffryn Afon Hafren ac Afon Carno yn perthyn i gyfres Teme yr Arolwg Pridd. Priddoedd dwfn siltiog, athraidd a heb gerrig ydynt, gydag isbriddoedd graeanog mewn mannau. Maent yn gweddu orau i ffermio llaeth a magu da byw ar laswelltir parhaol a glaswelltir dros dro, gyda pheth tyfu cnydau grawn lle nad oes llawer o berygl o lifogydd. Mae dyffryn Cerist a’r ardal ar hyd Nant Manthrig i’r gogledd o Gaersws tua Llanwnog yn perthyn i gyfres Conway. Priddoedd mân siltiog a chleiog sy’n ddwfn a heb gerrig sydd yma, ac sy’n cael eu heffeithio gan ddŵr daear. Maent yn gweddu orau i laswelltir parhaol ar gyfer ffermio llaeth a magu da byw. Mae’r priddoedd ar y tir sy’n codi islaw’r bryniau i’r gogledd o Afon Cerist, rhannau o’r tir sy’n codi o amgylch Cefn Carnedd rhwng Afon Cerist ac Afon Hafren, y tir sy’n codi’n raddol yn nyffryn Carno i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o Lanwnog, a llethrau gorllewinol isel bryniau Bryn Penstrowed yn yr ardal rhwng Moat Farm a Neuadd Bronfelin, yn perthyn i gyfres Dinbych 1. Priddoedd mân lomog a siltiog wedi’u draenio’n dda yw’r rhain, dros greigiau. Maent yn gweddu i ffermio llaeth a thyfu cnydau grawn yn yr ardaloedd is, a magu da byw, coetir neu borfa arw ar diroedd uwch mwy serth. Mae’r priddoedd ar y tir sy’n codi’n raddol i’r gogledd-ddwyrain o Landinam yn perthyn i gyfres Brickfield 3 ac mae’r tir i’r gogledd o Gaersws ac i’r dwyrain o Lanwnog yn perthyn i’r gyfres Cegin. Mae’r cyntaf o’r rhain yn briddoedd mân cleiog a siltiog sy’n ddirlawn yn dymhorol, er mai priddoedd mân lomog wedi’u draenio’n dda sydd i’w cael mewn mannau; maent yn gweddu orau i fagu da byw a pheth ffermio llaeth ar laswelltir parhaol, a pheth tyfu cnydau grawn mewn mannau sychach. Priddoedd tebyg yw cyfres Cegin, sy’n gweddu orau i fagu da byw ar laswelltir parhaol, a ffermio llaeth ar dir is.

Afonydd a nentydd

Mae rhannau o loriau dyffrynnoedd y prif afonydd dan ddŵr am gyfnodau’n rheolaidd. Fodd bynnag, mae llifogydd dyffryn Hafren wedi’u lleihau ers adeiladu argae Clywedog yn y 1960au, a’r gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd ger Caersws, ar y cyd, mae'n debyg, ag adeiladu Rheilffordd y Cambrian ym 1863 a Rheilffordd y Fan ym 1871, ac yn ystod yr 20fed ganrif.

Mae ymyl gorlifdir a llawr dyffryn y rhan hon o Afon Hafren yn eithaf diddorol, ac mae’n ffurfio rhan o safle Adolygiad Cadwraeth Daearegol (ACD) Hafren Uchaf. Mae hanes manwl o esblygiad llawr y dyffryn a sianel yr afon wedi’i ddarganfod o astudiaethau o nodweddion geomorffolegol hynafol a mwy diweddar llawr dyffryn Hafren sydd wedi datblygu mewn ymateb i newidiadau naturiol, megis yr hinsawdd, yn ogystal â gweithgaredd dynol.

Dengys llawr y dyffryn gyfres o gerlannau afon, sianeli hynafol a bwâu llifwaddod o’r cyfnod Holosen a’r cyfnod Pleistosenaidd (cyfnodau hyd at tua 12,000 CC), sy’n dangos bod sianelau’r afon wedi bod wrthi’n mudo ac y bu gwaddodi llifwaddodol dros y 10,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae’n debygol bod y gerlan gynharaf yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Defensaidd Hwyr (tua 23,000 i 8,000 CC) fel casgliad o ddyddodion allolchi dŵr tawdd rhewlifol trwchus a graeanog, a gladdwyd gan ddyddodion diweddarach yn ardal y dirwedd hanesyddol. Mae yna awgrymiadau bod Afon Hafren wedi bod â chwrs mwy plethedig, o leiaf yn achlysurol. Mae’r rhan fwyaf o’r gorlifdir wedi bod yn gymharol sefydlog, a chydag un sianel afon, ers o leiaf 2,000 CC mae’n debyg, ac yn bendant ers tua 70 OC pan adeiladwyd y ffordd Rufeinig i’r dwyrain o Gaersws ar ei arwyneb, yn agos at sianel yr afon heddiw. Mae gwaddodiad ers hynny wedi arwain at gladdu’n rhannol y ffordd Rufeinig i’r dwyrain o Gaersws gan sawl centimetr o lifwaddod â graen main. Yn lleol, mae’r ffordd Rufeinig wedi cael effaith ar waddodiad yn y dyffryn; mae gan lawr llifwaddodol y dyffryn i’r gogledd o’r ffordd natur fwy cyfnewidiol o ran topograffeg na’r hyn sydd i’r de o’r ffordd. Mae astudiaethau wedi dangos bod sianel Afon Hafren yn parhau i gael ei hailweithio gan gasgliad o ystumiau sydd wedi bod yn weithredol ers y 3ydd ganrif OC i'r 6ed ganrif OC, ac sy’n gweithio'u hunain i lawr yr afon mewn ardal rhwng sawl metr i sawl can metr o led mewn mannau. Mae'r hen ystum afon i’r dwyrain o Gaersws yn dangos hyn yn glir. Mae’n amlwg ei bod wedi dinistrio rhan o’r ffordd Rufeinig i’r gogledd o’r afon sy’n arwain at y gaer Rufeinig.

Mae graddiant Afon Hafren yn y darn o’i gorlifdir sydd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn llai nag ydyw yn yr ardaloedd i fyny ac i lawr yr afon. Bu cyflenwad cynyddol o waddodion yn nyffryn Hafren yn y cyfnodau hanesyddol oherwydd nifer o resymau, yn cynnwys dirywiad yn yr hinsawdd yn gysylltiedig â’r Oes Iâ Fach, rhwng tua 1590 a 1850 OC. Cafwyd hefyd ehangu ffermio âr a chau caeau yn helaeth yn y 19eg ganrif, a bu cyfnod dwys o fwyngloddio metel yn nalgylch pen uchaf Afon Hafren ar ddiwedd y 19eg ganrif. Arweiniodd hyn oll at gyfraddau cynyddol o waddodiad yng ngorlifdir yr afon.

Gwnaed newidiadau artiffisial i sianel afon Hafren i lawr yr afon o Landinam ym 1859, gydag adeiladu’r rheilffordd i Lanidloes. Cafodd sianel yr afon hefyd ei sythu gyda sianel wedi’i pheiriannu dros ddarn un cilomedr o hyd o’r afon, ger Neuadd Llandinam, yn ôl pob tebyg rhwng 1840 a 1886, er mwyn osgoi'r bygythiad i eiddo mae’n debyg. Ers hynny, fodd bynnag, mae’r afon wedi dychwelyd i fod â hynt ymdroellog. Cafodd llwybr rhan isaf Afon Cerist / Afon Trannon ei sythu rhwng dechrau’r 1830au a diwedd y 1840au, mewn ymgais i leddfu llifogydd mae’n debyg. Tua 1871, trowyd tua 5 milltir o Afon Cerist i sianel ddofn ffug, er mwyn galluogi adeiladu Rheilffordd y Fan, i’r gorllewin o Gaersws. Cynhaliwyd gwaith peiriannu sylweddol ar afon Trannon tua diwedd y 1970au.

Roedd tir mwyaf gwerthfawr y gorlifdir yn cael ei bori hyd at fin yr afon, a hyn gafodd y bai am golli coed ger glannau nentydd, a’r niwed a fu o ganlyniad i lannau afonydd yn nyffryn Hafren rhwng y Trallwng ac Amwythig.

Hanes amgylcheddol

Cafwyd peth tystiolaeth o hanes llystyfiant cynnar ar gyfer Basn Caersws wrth ddadansoddi dyddodion mawn ychydig i’r gorllewin o Gaersws ar orlifdir Afon Hafren, ger ei chymer ag Afon Cerist ac Afon Trannon. Mae’r dyddodion mawn yn cynrychioli cynnydd sydyn mewn ardal lle mae draeniad yn cael ei rwystro ger cymer Afon Hafren ag Afon Carno, yn y cyfnod Neolithig tua 3,500 CC, dros gyfnod o tua 300 mlynedd. Yn dilyn hyn, roedd yna gyfnod o tua 2,000 o flynyddoedd rhwng y mawn uchaf ac adeiladu’r ffordd Rufeinig i’r gorllewin o Gaersws. Mae'n bosibl bod y ffordd hon wedi gwasanaethu mwyngloddiau plwm yng nghyffiniau’r Fan a Dylife, neu ei bod ar y ffordd i’r gaer fechan yng Nghae Gaer ger Llangurig. Dengys gweddillion planhigion yn rhan Neolithig y dilyniant drawsnewid o gynefinoedd dirlawn agored i ffen gyda gwern. Mae mawn sy’n cronni’n cynnwys paill rhanbarthol o goetir derw cymysg, lle mae’n ymddangos mai derw, cyll, pisgwydd, pinwydd a pheth gwern oedd yno’n bennaf. Parhaodd ardaloedd mawr cymharol gaeedig o brysg a choed yng nghyffiniau’r safle. Yn ddiweddarach, sychodd y tir rhywfaint a bu cynnydd mewn cyll a phinwydd a gostyngiad mewn gwern. Fodd bynnag, awgryma ehangu diweddarach mewn gwern bod ffen gwern wedi’i greu, a bod coetir derw cymysg wedi parhau, ond nid oes arwydd pendant o ddylanwad dynol cynnar ar yr amgylchedd yn y cyfnod hwn, hyd yma.

(back to top)