CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Basn Caersws


Y DIRWEDD WEINYDDOL

Y grŵp gwleidyddol cynharaf y gwyddys amdano yn yr ardal yw’r llwyth brodorol o’r enw yr Ordofigiaid a oedd yn byw yng nghanol Cymru ar adeg y goncwest Rufeinig yn y ganrif 1af OC.

Nid oes unrhyw dystiolaeth o sefydlu gweinyddiaeth sifil yn ystod cyfnod rheolaeth y Rhufeiniaid rhwng canol i ddiwedd y ganrif 1af OC a dechrau’r 5ed ganrif, ac mae’n bosibl mai byddin y Rhufeiniaid oedd yn gweinyddu’r ardal gydol y cyfnod hwn.

Ymddengys ei bod yn bosibl bod yr ardal yn rhan o deyrnas fechan neu gantref Arwystli erbyn dechrau’r cyfnod canoloesol. Fe’i cofnodwyd gyntaf yn Llyfr Domesday 1086 (fel ‘cantref Arvester’) ac mae ei enw’n awgrymu ei fod yn deillio o enw personol.

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach, gorweddai teyrnas fechan Arwystli rhwng dwy deyrnas fwy pwerus, sef Gwynedd i’r gorllewin a Phowys i’r dwyrain. Bu’n destun anghydfodau treisgar rhwng y ddwy deyrnas. Digon aneglur yw ei hanes cynnar ond erbyn diwedd yr 11eg ganrif, Roger de Montgomery, sef iarll Normanaidd oedd y deiliad. Roedd wedi cyfeddiannu’r diriogaeth o’i ganolfan grym ymhellach i’r dwyrain ond fe’i dychwelwyd i ddwylo teyrnlin frodorol yn ystod hanner cyntaf y 12fed ganrif. Bu brenhinoedd Gwynedd a Phowys yn ymladd yn ffyrnig dros Arwystli am gyfnod o tua chanrif a hanner, a chofnodwyd llawer o ladd a dinistrio adeiladau yn y cyfnod hwn. Er mai rhostir yn unig oedd llawer o’r cantref, roedd yn cynnwys peth tir ffrwythlon prin mewn dyffrynnoedd, yn enwedig yn nyffryn Hafren a’i llednentydd. Roedd iddo hefyd rywfaint o arwyddocâd strategol o ran darparu coridor cysylltiadau rhwng canol Cymru a’r Gororau. Roedd llanw a thrai o ran teyrngarwch yn y cyfnod hwn rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Gwynedd, rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Powys, rhwng brenhinlin Powys a Choron Lloegr, a hyd yn oed rhwng teyrnasoedd cystadleuol Gwynedd a Phowys. Parhaodd hyn tan gyfnod o sefydlogrwydd cymharol yn dilyn concwest Edward I o Gymru yn y 1280au, pan ddychwelwyd yr ardal i Gruffudd ap Gwenwynwyn a oedd yn rheoli Powys ar y pryd.

Roedd ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan o Arwystli Iscoed, sef cwmwd mwyaf dwyreiniol neu israniad weinyddol y cantref. Stiwardiaid oedd yn ei weinyddu o ddechrau’r 13eg ganrif yn ôl pob tebyg. Daeth Pen-prys, ym mhlwyf Llanwnog, sydd bellach yn fferm o’r enw Park tua 2 gilomedr i’r gorllewin o Gaersws, yn ganolfan faenorol Arwystli Iscoed erbyn diwedd y 1290au. Mae’r ddau safle â ffos yn ardal y dirwedd hanesyddol, sef The Moat a Rhos Ddiarbed, wedi’u lleoli ar y tir sy’n codi i’r de o’r dyffryn. Maent yn bell o’r canolfannau poblogaeth cynnar, ac mae’n debygol eu bod yn cynrychioli canolfannau gweinyddol cymharol fyrhoedlog a oedd yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd Roger de Montgomery ar ddiwedd y 12fed ganrif.

Ym mlynyddoedd diweddarach y canol oesoedd cynhaliwyd y llysoedd cwmwd, sef y pentreflysoedd ar gyfer Arwystli Iscoed, yn Llandinam a Chaersws bob yn ail, sef y ddwy brif ganolfan boblogaeth yn yr ardal. Roedd llawer o diroedd yn Llanwnog ym meddiant esgob Bangor ar ddechrau’r 14eg ganrif, ac roedd ei denantiaid yn dod dan awdurdodaeth y llys esgobol yn ôl pob tebyg.

Yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, cafodd Arwystli ei ailfeddiannu gan y teulu Cherlton, arglwyddi Powys, ym 1401, ynghyd ag arglwyddiaeth Cyfeiliog ac arglwyddiaeth Caereinion, oddi wrth Syr Edmund Mortimer a oedd yn arglwydd amlwg y Mers, ac a oedd wedi’u meddiannu cyn hynny. Yn ddiweddarach, daeth yr arglwyddiaeth i ddwylo’r teulu Dudley, trwy’r teulu Tiptoft, ac fe werthwyd yr arglwyddiaethau i’r Goron yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII.

Gyda Deddf Uno 1536, rhannwyd arglwyddiaeth Arwystli yn drefgorddau maenorol a oedd yn tarddu, yn ôl pob tebyg, o ddechrau’r cyfnod canoloesol a’r cyfnod canoloesol ac a fu’n arwyddocaol tan ganol y 19eg ganrif. O fewn ardal y dirwedd hanesyddol cafwyd trefgorddau Escob a Castle, Wig, Caersws a Surnant ym mhlwyf Llanwnog, Trewythen, Carnedd, Gwernerin, Maes-mawr a Llandinam ym mhlwyf Llandinam, Bodaioch ym mhlwyf Trefeglwys, a Phenstrowed ym mhlwyf Penstrowed.

Yn dilyn y Ddeddf Uno, gweinyddwyd yr ardal fel rhan o Gantref Arwystli, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gantref Llanidloes yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Fe’i rhannwyd yn ddwy ranbarth, sef uchaf ac isaf, a oedd yn cyfateb yn fras i gymydau canoloesol Arwystli Uwchcoed ac Arwystli Iscoed. Roedd Basn Caersws yn y rhanbarth isaf, a oedd yn cynnwys plwyfi Llandinam, Llanwnog a Phenstrowed a rhan o blwyf Carno.

Mae ardal y diwedd hanesyddol heddiw yn bennaf yng nghymunedau Caersws a Llandinam, ond mae’n cynnwys rhannau bychain o gymunedau Mochdre ac Aberhafesb. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, mae’r cymunedau hyn yn rhan o sir newydd Powys, a ddaeth yn awdurdod unedol ym 1996.

Ffiniau eglwysig

Mae’r plwyfi eglwysig yn y rhan fwyaf o’r ardal yn rhan o ddeoniaeth Arwystli yn esgobaeth Bangor, heblaw am ardal fechan o blwyf Aberhafesb sydd yn rhan o esgobaeth Llanelwy.

Gwyddys am ddwy eglwys sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol, yn Llandinam a Llanwnog. Llandinam yw’r unig un o’r ddwy a restrir fel eglwys (ecclesia) yn nhrethiad y Pab Nicholas tua 1291 OC. Roedd hefyd yn eglwys gyd-gyfranedig, ac roedd sawl gweinidog yn rhannu ei bywoliaeth. Awgryma hyn mai clas o’r cyfnod canoloesol cynnar ydoedd yn wreiddiol yn ôl pob tebyg, a’i bod yn ganolfan eglwysig o bwys yn y rhanbarth. Ynghyd ag eglwys Llangurig, roedd yn un o’r ddwy fam-eglwys yn Arwystli, gydag eglwys yn y naill gwmwd a’r llall.

Amlygir statws eglwys Llandinam ar ddiwedd y 13eg ganrif gan y cymeriad Cynyr ap Cadwgan, abad y clas yn Llandinam. Roedd yn awdurdod ar gasglu testunau cyfreithiol Cymraeg ac fe sefydlodd linach o wŷr dysgedig yn y gyfraith.

(yn ôl i’r brig)