CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Basn Caersws: Rhos Ddiarbed
Cymunedau Llandinam a Mochdre, Powys
(HLCA 1185)


CPAT PHOTO 06-C-106

Tirweddau caeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig o darddiad canoloesol neu gynharach o bosibl, ar y tir sy'n codi tua de a dwyrain Basn Caersws. Cestyll mwnt a beili canoloesol sy’n gysylltiedig â’r goncwest Eingl-Normanaidd. Anheddiad bach eglwysig cnewylledig o darddiad canoloesol cynnar a chanoloesol yn Llandinam. Dylanwadwyd ar ei ddatblygiad gan y gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, a chan ddyfodiad y rheilffyrdd a nawdd y teulu Davies ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgorddau maenorol Maes-mawr a Llandinam ym mhlwyf degwm Llandinam yn Sir Drefaldwyn, a threfgordd Penstrowed ym mhlwyf degwm Penstrowed.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Gwaelod llethr sy’n codi’n raddol yn gyffredinol ar hyd ochr ddeheuol dyffryn Hafren rhwng Penstrowed a Llandinam, ar uchder o rhwng 130 metr a 280 metr. Priddoedd mân lomog sy’n ddirlawn yn dymhorol dros ddyddodion drifft rhewlif cleiog sydd yno gan fwyaf. Yn hanesyddol, bu’r tir yn gweddu orau yn economaidd i fagu da byw a pheth ffermio llaeth ar laswelltir parhaol a thyfu peth grawn yn y gaeaf. Caeau afreolaidd mawr a bach yw’r tirweddau caeau yn bennaf. Mae’n debygol eu bod yn cynrychioli clirio a chau tir bob yn dipyn o gyfnodau canoloesol neu gynharach ymlaen. Fodd bynnag, mae yna batrymu caeau mwy rheolaidd yn yr ardaloedd i’r de o Gaetwp a chaeau ag iddynt ochrau syth rhwng Fferm Maes-mawr a The Moat. Mae’n debygol bod y rhain yn cynrychioli cau tir neu ad-drefnu tirwedd sy’n gysylltiedig â daliadau stadau yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Caewyd ardal fach o gomin sy’n cwmpasu dyffrynnoedd y nentydd ychydig i’r gorllewin o Blas Dinam o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ceir lleiniau troellog o goetir hynafol lled-naturiol ar hyd ochrau serth nifer o ddyffrynnoedd nentydd, ynghyd â nifer o ardaloedd cymharol fach o blanhigfeydd conwydd yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif ar rai llethrau mwy serth. Mae newidiadau modern o ran defnydd tir yn cynnwys y maes ymarfer golff a sefydlwyd ger The Moat.

Mae mwyafrif yr enwau lleoedd yn yr ardal yn ymwneud â nodweddion anheddu cymharol ddiweddar. Fodd bynnag, mae’r elfen coetirol celli yn Gelli-dywyll yn arwydd o lystyfiant a defnydd tir hanesyddol, a’r elfen rhos yn Rhos Ddiarbed yn awgrym o borfa arw.

Mae olion cnydau o lociau bach ar ffurf petryal â ffosydd o'u hamgylch yn awgrymu anheddu a defnydd tir cynnar o gyfnod y Rhufeiniaid o bosibl. Darganfuwyd y rhain trwy gyfrwng awyrluniau ger Gellidywyll ac ar lethr graddol i’r de o Neuadd Llandinam. Ymddengys eu bod yn cynrychioli clwstwr o ffermydd o’r fath yn ardal Caersws. Tybir bod llwybr y ffordd Rufeinig tua’r de o Gaersws i Gastell Collen yn gorwedd yn rhannol o dan gefnffordd yr A470 bresennol sy’n rhedeg trwy’r ardal.

Mae'n bosibl bod yr eglwys a gysegrwyd i Sant Llonio yn Llandinam yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol. Erbyn y cyfnod canoloesol, roedd yn eglwys glas, yn un o’r ddwy fam-eglwys yng nghantref Arwystli, ac mae’n bosibl ei bod wedi ffurfio canolbwynt anheddiad cnewylledig bach o gyfnod cynnar. Mae’r enw Llandinam yn ymddangos gyntaf ar ddechrau’r 13eg ganrif, ac mae’n cyfuno’r elfennau llan a dinam (caer fach), ond nid oes cysylltiad agos rhwng dinam ac unrhyw safle penodol. Ymddengys fod y ddau gastell pridd ym mwnt a beili Bronfelin a Moat Farm ar y tir sy’n codi i’r de o Afon Hafren yn gysylltiedig â chyfnod y goncwest Eingl-Normanaidd tua diwedd yr 11eg ganrif. Er ei bod yn bosibl mai arwyddocâd milwrol byrhoedlog a gawsant, ymddengys eu bod wedi parhau, efallai fel canolfannau maenorol, hyd ddiwedd y cyfnod canoloesol.

Mae ardal nodwedd y dirwedd hanesyddol yn cynnwys nifer o dirweddau anheddu neilltuol a chymharol amrywiol. Mae hyn yn cynnwys yr anheddiad cnewylledig bach yn Llandinam, sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod hwnnw, patrwm gwasgaredig o ffermydd yn dyddio o’r cyfnod canoloesol a diweddarach, clwstwr o fythynnod llechfeddiannu o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif mae’n debyg yn Little London, a’r plasty a’r adeiladau cysylltiedig o’r 19eg ganrif ym Mhlas Dinam.

Ar wahân i’r eglwys ganoloesol, mae’r adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yn Llandinam yn dyddio o’r 17eg ganrif, ac yn cynnwys sawl adeilad bach brodorol heb dir, wedi’u clystyru mewn patrwm anffurfiol sy’n atgofus o sgwatio. Defnyddiwyd fframiau pren yn yr adeiladau cynharaf, ond ymddengys fod hyn wedi parhau ar gyfer y rhai â statws is: mae yna sawl bwthyn, fel ym mhentref Llandinam er enghraifft, ac ar ochr y ffordd i’r de o’r pentref, sydd â’r pren hirfain sy’n nodweddiadol o fframio o ddiwedd y 18fed ganrif neu hyd yn oed ddechrau’r 19eg ganrif. Mae yna hefyd sawl tŷ da o gerrig sy’n fwy sylweddol yn y pentref, yn dyddio o’r 18fed ganrif. Dylanwadwyd ar ddatblygiad diweddarach Llandinam gan y gwelliannau i’r ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, gan ddyfodiad y rheilffordd ar ddiwedd y 19eg ganrif, a chan nawdd y teulu Davies ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae’r Lion Inn, ar ochr y ffordd, yn bodoli o ganlyniad i’r gwelliannau i’r ffordd dyrpeg. Felly hefyd Pont Llandinam dros Afon Hafren sy’n dyddio o 1846 ac a adeiladwyd o haearn bwrw. David Davies, y diwydiannwr enwog o Gymru a oedd yn frodor o Landinam oedd un o’r contractwyr ar gyfer y bont. Newidiodd peth o gymeriad canolbwynt diweddarach y pentref gyda’r cynlluniau i ledu a sythu’r ffordd a gyflawnwyd ar gefnffordd yr A470 heddiw yn ail hanner yr 20fed ganrif. Cwblhawyd rheilffordd Llanidloes i’r Drenewydd, a orweddai’n agos at yr afon yn Llandinam, ym 1859. Davies oedd y contractwr ar gyfer hwn hefyd. Caewyd y rheilffordd am y tro olaf yn y 1960au, ond mae safle’r hen orsaf a'r cilffyrdd i’w gweld o hyd yn y dirwedd. Codwyd y cerflun cain efydd o David Davies ar ben dwyreiniol y bont ‘trwy danysgrifiad cyhoeddus’ ym 1893, dair blynedd wedi ei farwolaeth. Gwelir ef yn gwisgo dillad bob dydd ac yn archwilio cynllun o Ddociau’r Barri. Davies hefyd oedd contractwr a phrif gymwynaswr eglwys amlwg ar ochr y ffordd, Eglwys Bresbyteraidd Cymru (yr enwad a elwid y Methodistiaid Calfinaidd gynt). Adeiladwyd hon mewn arddull Gothig Ffrengig ym 1873, a byddai Davies a’i deulu yn addoli yno’n rheolaidd. Roedd yna gapel Methodistiaid Wesleaidd yn y pentref hefyd. Mae sawl adeilad diweddarach yr oedd disgynyddion Davies yn gymwynaswyr iddynt yn dylanwadu ar gymeriad y pentref hefyd, yn enwedig Institiwt Llandinam â llyfrgell ac ystafelloedd cyfarfod, a adeiladwyd rhwng 1905 a 1910, a Threlonydd, sef stad fechan o fythynnod a gynlluniwyd o amgylch grîn anffurfiol, a adeiladwyd tua 1918 yn dai i weithwyr stad oedd wedi ymddeol. Mae’r bythynnod wedi’u hadeiladu mewn arddull Celf a Chrefft plaen, â ffenestri bychain a waliau allanol plastr garw gwyn.

Ffermydd gwasgaredig iawn sy’n nodweddu tirwedd wledig yr ardal nodwedd. Mae’n debygol bod rhai ohonynt wedi tarddu fel ffermydd rhydd-ddaliad yn y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol (fel yn achos The Moat a Neuadd Bronfelin, mae’n debyg), a rhai o ganlyniad i welliannau gan Stadau Dinam a Neuadd Llandinam yn y 19eg ganrif. Mae Porth-gwibedyn yn enghraifft o draddodiadau adeiladu canoloesol hwyr yn yr ardal, yn tarddu o dŷ neuadd ffrâm nenfforch. Mae’n debygol i’r fferm fechan yng Nghaetwp gael ei hadeiladu neu ei hailadeiladu fel rhan o Stad Dinam; adeiladwyd hi mewn arddull Gothig o ddiwedd y 19eg ganrif.

Mae’n debygol fod y clwstwr o fythynnod a thai bychan ar yr ardal uwchdirol yn Little London i’r gogledd-ddwyrain o Landinam, a gofnodwyd yn gyntaf ym 1740 dan ei enw Cymraeg, ‘Lundain vach’, wedi tarddu o lechfeddiannau ar y tiroedd comin heb eu cau a oedd yn fwy helaeth yn yr ardal ar un adeg. Ystyriwyd bod y trac sy’n rhedeg ar hyd cyfuchlin y bryn yn y man hwn yn cynrychioli ffordd porthmyn gynharach.

Mae’r plasty Fictoraidd gwych ym Mhlas Dinam mewn arddull Celf a Chrefft syml. Fe’i hadeiladwyd, ynghyd â chyfres o swyddfeydd cysylltiedig i’r dwyrain o’r tŷ a’r gerddi, ar safle newydd yn y 1870au ar gyfer Capten J. O. Crewe-Read o Neuadd Llandinam. Yn ddiweddarach, prynodd David Davies ef, a bu ei fab yn byw yno.

Dengys yr enw lle Waulk Mill ar Nant Ffinnant, ychydig i’r gogledd o Landinam, fod pŵer dŵr wedi’i ddefnyddio yn yr ardal nodwedd yn y gorffennol, ac mae’n awgrymu melin wlân gynharach.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anon 1886; Cadw 1999; Davies 1977; Evans 2004; Fisher 1917; Garbett-Edwards 1987; Lea 1975; Haslam 1979; Hogg a King 1963; Jones 1869; Jones 1983; Lewis 1833; Cymdeithas Achyddol Sir Drefaldwyn 1997; Morgan 2001; Pryce 2002; CBHC 1911; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991; Spurgeon 1965-66; Stephenson 2005; Zaluckyj 2006

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.