CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Basn Caersws: Carnedd
Cymunedau Caersws a Llandinam, Powys
(HLCA 1184)


CPAT PHOTO 06-C-85

Bryngaer Oes yr Haearn ar gefnen pen bryn. Tirweddau o gaeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig yn tarddu o bosibl o’r cyfnod canoloesol ac yn ddiweddarach. Ceir ardaloedd o weddillion coetiroedd llydan-ddeiliog ar y llethrau mwyaf serth a phlanhigfeydd conwydd a rhai porfeydd agored ar dir a gaewyd yn gyntaf ar ddechrau'r 19eg ganrif. Tirlun plasty â gerddi, gyda phorthdy ac adeiladau eraill cysylltiedig, a adeiladwyd ar gyfer David Davies ym Mroneirion.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Trewythen, Gwernerin, Carnedd a Llandinam ym mhlwyf degwm Llandinam yn Sir Drefaldwyn.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Ysbardun bryniog rhwng Afon Cerist ac Afon Trannon i’r gogledd ac Afon Hafren i’r de, gyda llethrau bryniau serth, a chefnen Cefn Carnedd yn ben ar y cwbl, ar uchder rhwng 130 a 270 metr. Priddoedd mân siltiog a lomog wedi’u draenio’n dda sydd yma gan fwyaf, dros greigwely siâl, gyda rhai brigadau creigiog moel mewn mannau. Yn economaidd, magu da byw oedd yn gwneud orau ar y tir uchel, a choetiroedd collddail a chonwydd a phorfa arw ar y llethrau mwy serth. Caeau afreolaidd mawr a bach sydd i'w gweld yn bennaf yn y dirwedd caeau. Ymddengys eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau tir o gyfnod canoloesol neu gynharach, sy’n gysylltiedig â ffermydd gwasgaredig. Mae’n debyg bod rhai o'r ffermydd hyn yn dyddio o’r cyfnod canoloesol.

Roedd cyfran sylweddol o ben bryn Cefn Carnedd, yn ogystal â rhai rhannau dwyreiniol yr ardal yn cynnwys Waun Dingle a’r llethrau uwchben Broneirion, yn destun deddf seneddol o ran cau tir ar ddechrau’r 19eg ganrif. Elfen neilltuol o’r dirwedd yw ardaloedd o goetiroedd llydan-ddeiliog lled-naturiol a hynafol wedi’u hailblannu ar y llethrau mwyaf serth heb eu hamaethu a dyffrynnoedd ag ochrau serth y nentydd, yn ogystal â nifer o barseli o goetir conifferaidd yn arbennig ar y llethrau y naill ochr i Gefn Carnedd. Mae’n debygol i lawer ohono gael ei blannu’n wreiddiol tua chanol y 19eg ganrif mewn ardaloedd o dir comin gynt.

Nid oes llawer o arwyddocâd i enwau lleoedd ar wahân i enwau coedwigoedd diweddar sy’n ymwneud yn bennaf â phlanhigfeydd o’r 19eg ganrif ar Ystad Dinam, er bod yr elfennau enwau lleoedd gwaun yn Waun Dingle, gwern yn Gwern-eirin, meirog yn Coed Meirog a rhedyn yn yr enw Caer’rhedyn hefyd yn awgrymu cyfyngiadau hanesyddol ar ddefnydd tir.

Mae’r fryngaer o Oes yr Haearn ar y gefnen pen bryn yng Nghefn Carnedd yn awgrymu anheddu a defnydd tir cynhanesyddol diweddarach yn yr ardal.

Mae bythynnod a ffermydd gwasgaredig yn cynrychioli’r anheddu presennol yn yr ardal, ynghyd â Broneirion a’i gasgliad o adeiladau cysylltiedig. Mae ffermydd gwasgaredig iawn yn cynrychioli anheddu cynharach o’r cyfnod canoloesol a diwedd y cyfnod hwn, megis Middle Gwern-eirin a’r bwthyn ffrâm bren cyfagos ar ochr y ffordd yn Little House. Mae hwn yn dyddio o 1692, ac mae’n bosibl mai’r porthdy ydoedd. Roedd bwthyn ffrâm bren arall gynt yn Lower Gwern-eirin. Mae golwg fferm gynharach i ffermdy Middle Gwern-eirin. Ailadeiladwyd hi mewn arddull Gothig fel fferm stad Stad Dinam ar ddiwedd y 19eg ganrif. Yr anheddiad amlycaf yn yr ardal yw Broneirion, sy’n fila yn y dull Eidalaidd (bellach mae’n ganolfan gynadledda a hyfforddi breswyl ar gyfer mudiad y Guides). Fe’i hadeiladwyd ar safle newydd mewn lleoliad prydferth ar waelod llethrau coediog bryniau serth ar gyfer y diwydiannwr enwog David Davies ym 1864-65. Mae’n rhan o gasgliad o adeiladau a’u gerddi cysylltiedig, yn cynnwys porthdy Gothig, tai mawr eraill yn Fron Haul a Bryn-Hafren a theras o dai gweithwyr y stad. Ychwanegwyd mwy o dai at y casgliad o adeiladau’n ddiweddar.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Guilbert a Morris 1979; Hogg 1979; Jones 1983; Morgan 2001; Sothern a Drewett 1991; Smith 1975; Smith ac Owen 1955-56; Spurgeon 1972; Thomas 1938

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.