CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Basn Caersws: Glasgoed
Cymuned Caersws, Powys
(HLCA 1180)


CPAT PHOTO 06-C-065

Tirwedd o gaeau afreolaidd sydd i’w gweld gan fwyaf, sy’n cynrychioli clirio a chau coetiroedd bob yn dipyn, o’r cyfnod canoloesol cynnar ymlaen o leiaf.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgorddau maenorol Surnant a Wig ym mhlwyf degwm Llanwnog, Sir Drefaldwyn.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Ysbardun bryniog gydag ochrau’n disgyn yn serth rhwng dyffryn Afon Carno tua’r dwyrain a dyffrynnoedd Afon Trannon ac Afon Cerist i’r de, ar uchder o rhwng 150metr a 290 metr. Mae’r priddoedd ar y tir uchaf yn draenio’n dda ac yn briddoedd mân lomog a siltiog dros graig, sy'n fas mewn mannau, ac maent yn gweddu orau yn economaidd i blannu coetir a magu da byw. Mae’r priddoedd ar y tir llethrog i’r dwyrain ac i’r de o’r ardal yn fân, yn lomog ac yn siltiog dros ddyddodion drifft rhewlifol, gyda rhwystrau i’r draeniad mewn mannau, ac maent yn gweddu orau i fagu da byw ar laswelltir parhaol. Caeau afreolaidd bychain gyda rhai caeau afreolaidd mwy yw’r dirwedd o gaeau yn bennaf. Mae hyn, mwy na thebyg, yn cynrychioli proses o glirio a chau tir bob yn dipyn ers y cyfnod canoloesol a chynharach yn ôl pob tebyg. Yng nghornel ogledd-ddwyreiniol yr ardal, mae nifer o gaeau ag iddynt ochrau syth, i’r gogledd o Ben-y-coed, sy'n cynrychioli cau ardal yr hen borfa gomin agored ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ceir lleiniau bychain gweddilliol o goetir hynafol lled-naturiol ar hyd rhai o ddyffrynnoedd y nentydd.

O ystyried natur fryniog yr ardal mae'n ddealladwy bod enwau sy'n cynnwys yr elfen coed i’w gweld yn aml, er enghraifft Pen-y-coed, Coed-orddle a Glasgoed.

Mae bwyell wedi’i gwneud o garreg a ddarganfuwyd ger Perth-eiryn yn awgrymu defnydd tir ac anheddu cynhanesyddol.

Ffermydd gwasgaredig iawn, o bosibl yn dyddio o'r cyfnod canoloesol neu ddiwedd y cyfnod hwnnw, sy’n cynrychioli’r patrwm anheddu cyfoes, er enghraifft Pen-y-coed a Glasgoed. Ehangwyd Glasgoed yn ystod yr 20fed ganrif pan godwyd adeiladau â fframiau dur, ynghyd â nifer o fythynnod gwasgaredig. Mae’n debyg fod y tŷ ar ochr y ffordd yn Gate yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Cafodd ei enwi ar ôl y dollborth ar y ffordd i Drefeglwys, a oedd gynt wedi'i lleoli tua 400 metr i'r dwyrain.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol, mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Jones 1983; Lea 1975; Morgan 2001; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.