Cymraeg / English
CPAT logo

CPAT - Ffenestri ar y Gorffennol

Oes Neolithig Ddiweddar tan yr Oes Efydd, 3000 - 1500 CC

Roedd ail hanner y 3ydd mileniwm CC yn gyfnod o newid ym mron pob agwedd ar fywyd. Enciliodd hen draddodiadau crefyddol ac angladdol. Mae'n bosibl eu bod wedi crebachu'n araf neu mae'n bosibl eu bod wedi eu terfynu drwy benderfyniad ffurfiol; mae'n ymddangos bod hen diroedd wedi eu gadael neu mae'n bosibl eu bod wedi methu oherwydd gorddefnydd o'r pridd, ac mae'n ymddangos bod yr hen strwythurau grym - na chawn ond cip arnynt trwy feddrodau a chanolfannau crefyddol - wedi darfod ac wedi ailffurfio ar wedd newydd. Yr hyn sy'n arwyddocaol o bosibl yn y cyfnod hwn yw bod cysylltiad amlwg ag Ewrop gyfandirol, fel a welir yn y ffaith bod traddodiad seramig newydd, a gynrychiolir gan Ficeri, wedi ei fabwysiadu, a bod grym economaidd newydd metel yn dechrau cael dylanwad.

Mae gwaith yn nyffryn yr afon Hafren wedi datgelu ei bwysigrwydd annisgwyl yn y cyfnod hwn — dechrau traddodiad newydd yn y fynedfa hon sydd yn parhau trwy gynhanes a'r tu hwnt. Mae newid yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd i bob golwg — anheddu, claddu a seremonïau crefyddol. Mae'n bosibl ei fod wedi cael cymaint o effaith yn y fan hon, yn wahanol i orllewin Cymru, oherwydd ei fod i bob amcan yn dir oedd heb ei gyffwrdd. Mae crochenwaith yn awgrymu bod cysylltiadau â'r dwyrain yn bwysig ond nid oedd y datblygiadau crefyddol a seremonïol yn rhai a fenthyciwyd o anghenraid.

Rhoddodd y datblygiadau newydd mewn seremonïau ac arferion claddu, y ceir tystiolaeth ohonynt yn Nhrelystan a Four Crosses, gychwyn ar draddodiad hir. Gellir gweld y parhad yn y ffaith bod yr un cofadeiliau claddu wedi eu defnyddio droeon er gwaethaf newidiadau a oedd yn rhoi pwys ar y fynwent deuluol yn hytrach na'r cofadail i unigolion. Parhaodd y cylchogrwydd a gyflwynwyd gan demlau pren fel Sarn-y-bryn-caled a chylchoedd pridd fel Dyffryn Lane i fod yn flaenllaw ym mhensaernïaeth yr Oes Efydd, pa un a oedd ar gyfer claddu neu ar gyfer seremonïau.

Ond er bod y cofadeiliau claddu a'r cylchoedd yn dangos y parhad rhwng yr Oes Neolithig Ddiweddar a'r Oes Efydd ac er bod eu gwasgariad ar yr ucheldir yn dangos bod y tir uchel, a agorwyd yn ystod yr Oes Neolithig Ddiweddar, yn dal i gael ei ddefnyddio yn ystod y canrifoedd a ddilynodd, ni wyddys am aneddiadau dechrau'r Oes Efydd. Nid yw'r safleoedd hynny lle daethpwyd o hyd i grochenwaith o'r Oes Neolithig Ddiweddar mewn cyd-destunau y tybir eu bod yn rhai domestig yn ildio llestri o'r Oes Efydd, ac ni ddyddiwyd unrhyw un o'r cytiau cerrig niferus yn ucheldiroedd gogledd-orllewin Cymru i'r cyfnod hwn hyd yn hyn.

Gobeithir y bydd rhai o'r problemau hyn yn cael eu trin gan brosiect sydd newydd ddechrau ym masn Walton, Sir Faesyfed, ardal sydd wedi cynhyrchu gwasgariadau fflint dwys, sy'n awgrymu anheddiad Neolithig, yn ogystal â safleoedd angladdol a seremonïol o'r cyfnodau hyn .

Trelystan

Datgelodd gwaith cloddio mewn pâr o grugiau ucheldirol ar Gefn Digoll yn nwyrain Sir Drefaldwyn ym 1979 gyfres bwysig o adeileddau sy'n dyddio o'r Oes Neolithig Ddiweddar a'r Oes Efydd gynnar.

Darganfuwyd dau dy crwn pared stanciau ag aelwydydd canolog ag ymylon carreg yn y pridd a gladdwyd dan y crugiau, ac sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng tua 2800–2500 CC. Cysylltwyd yr adeiladau ag arfau fflint trawiadol a chrochenwaith addurnedig o'r fath a elwir 'llestri rhigolog' na chafwyd mohono ond mewn ychydig safleoedd yng Nghymru. Nid yw'n sicr a yw'r adeileddau bychain hyn yn arwydd o anheddiad parhaus ynteu rhywle a ddefnyddir dim ond ar adegau arbennig o'r flwyddyn. I bob golwg, mae bedd pydew cynnar hefyd yn perthyn i'r Oes Neolithig Ddiweddar.

Trelystan Neolithic house

De: Ty o'r Oes Neolithig Ddiweddar, dim ond rhyw 4 metr ar draws, un o ddau adeiledd tebyg a ddarganfuwyd dan un o'r crugiau crwn o'r Oes Efydd yn Nhrelystan. Roedd gan yr adeilad, a ddyddiwyd i rhwng tua 2800–2500 CC, aelwyd ganolog ag ymylon cerrig, nifer o bydewau, a wal allanol a wnaed o stanciau (a farciwyd gan dagiau gwyn yn y llun). © CPAT

Codwyd y crugiau claddu gorchuddiol, sy'n cynrychioli mynwent deuluol o bosibl, mewn nifer o gyfnodau yn ystod yr Oes Efydd gynnar, yn ystod y cyfnod rhwng tua 2100–1800 CC. Yn ystod camau cynharaf datblygiad y fynwent, gosodwyd pob claddiad unigol dan dwmpath gwahanol, a chysylltwyd rhai ohonynt â llestri bychain ar ffurf mwg a elwir 'bwydlestri'. Yn ddiweddarach, gosodwyd cyrff amlosgedig un neu ragor o unigolion mewn llestri mwy o lawer a elwir yn 'yrnau bwydlestri' ac yn eu tro gosodwyd y rhain mewn pydewau a gloddiwyd ar bennau'r twmpathau cynharach.

Ariannwyd y cloddiadau, a wnaed mewn ymateb i aredig parhaus, gan y Swyddfa Gymreig a'r Manpower Services Commission.

Four Crosses

83-C-379

Chwith: Golwg o'r awyr o'r ffos gron amlgylchog yn Four Crosses sy'n dangos dilyniant o dwmpathau claddu o'r Oes Neolithig ddiweddar a'r Oes Efydd Gynnar, rhwng tua 3000–1800 CC. © CPAT 83-C-379

Dangosodd gwaith cloddio a wnaed ar gyfres o ffosydd crwn ar raean yr afon yn Four Crosses yn nwyrain Sir Drefaldwyn rhwng 1981–85, mewn ymateb i erydiad oherwydd aredig, gyfres bwysig o adeileddau claddu sydd, yn debyg i'r rhai yn Nhrelystan, yn rhychwantu'r Oes Neolithig Ddiweddar a'r Oes Efydd Gynnar. Credir yn gyffredinol fod ffosydd crwn o'r math hwn yn cynrychioli safleoedd twmpathau claddu priddin o'r Oes Efydd sydd wedi eu gwastatáu dros y canrifoedd oherwydd aredig, yn wahanol i'r rhai yn yr ucheldiroedd.

Neolithic pot

De: Pot gwaelod crwn a ddarganfuwyd gyda chyrff mewn bedd pydew mawr yng nghanol y ffosydd crwn. Gwnaed y cofadail claddu cynnar yn fwy mewn gwahanol gamau yn ystod yr Oes Efydd Gynnar. Mae'n rhan o fynwent wasgarog a ddatgelwyd gan awyrluniau yn ardal Four Crosses. © CPAT

Mae awyrluniau o olion crasu mewn glaswelltir ac ôl cnydau mewn caeau yd sy'n aeddfedu yn chwarae rôl bwysig mewn darganfod safleoedd o'r math hwn.

Ariannwyd y gwaith cloddio yn Four Crosses gan Cadw a'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr, gyda chaniatâd y tirfeddianwyr Mr G.M.S. Anderson, Mr J.O. Davies, Mr K. Breeze, Mr P. Fowler, a Manddaliadau Cyngor Sir Powys.

Sarn-y-bryn-caled

Dangosodd gwaith cloddio rhwng 1990–92 yn Sarn-y-bryn-caled, cyn codi'r ffordd osgoi newydd yn y Trallwng, dystiolaeth bwysig o ddatblygu cyfadeilad angladdol a defodol a ganfuwyd i raddau helaeth gan awyrluniau. Dangosodd y gwaith cloddio fod y cyfadeilad wedi datblygu dros gyfnod o 2000 o flynyddoedd, rhwng yr Oes Neolithig Ddiweddar a'r Oes Efydd Gynnar.

Timber circle

De: Ail-luniad o'r cylch pren o'r Oes Efydd Gynnar yn Sarn-y-bryn-caled, i'r de o'r Trallwng, a godwyd tua 2100 CC. Ffurfiwyd y cylch â thyllau pyst anferth — ugain yn y cylch allanol a chwech yn y cylch mewnol — a oedd yn dal pyst tua metr mewn diamedr yn wreiddiol. Ymgymerywd â'r ail-luniad, sydd wedi ei fodelu ar y cylch cerrig cyfoes enwog yng Nghôr y Cewri, gyda chymorth gan Ystadau Castell Powis. © CPAT

Lloc hirsgwar hir tua 10 metr ar draws a bron i 400 metr mewn hyd a adeiladwyd gyntaf. Mae'n perthyn i fath o safle a elwir bellach yn 'gofadail cwrsws'. Mae'n rhaid fod iddynt rôl seremonïol, ond er eu bod yn niferus ym Mhrydain nid ydym yn deall eu swyddogaeth. Mae hwn, i bob golwg, yn un cymharol gynnar ac yn dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 3750 BC.

Food vessel under excavation

Chwith: 'Wrn fwydlestr' o’r Oes Efydd, a gafwyd o Drelystan yn ystod y gwaith cloddio. Fel nifer o lestri diweddarach o'r safle hwn, roedd yr wrn corfflosgi wedi ei gladdu a'i ben i lawr mewn pydew, ac yn yr achos hwn roedd yn cynnwys olion gwryw aeddfed tua 40 oed. © CPAT

Ychwanegwyd elfennau amrywiol eraill o gwmpas y cwrsws rhwng 3500–3000 CC, gan gynnwys lloc ar ffurf pedol gyda phâr o byst pren wrth y fynedfa, a gysylltir â chorfflosgiadau. Darganfuwyd darnau o grochenwaith Neolithig a elwir yn 'llestri Peterborough' ar y safle hwn.

Codwyd cylch pren tua 2100 CC. Yn ei ganol roedd pydew yn cynnwys corfflosgiad gwrywaidd. Mae nifer o bennau saethau tafod ac adfach o fflint sy'n arbennig o gain yn awgrymu mai olion aberth sydd yma.

Food vessel after conservation

De: 'Wrm fwydlestr' o'r Oes Efydd Gynnar o Drelystan, yn dilyn cadwraeth. © CPAT

Yr elfen ddiweddaraf yn y cyfadail y gellid ei hadnabod oedd dwy ffos gron - angladdol o bosibl - yn fferm Coed-y-Dinas, ychydig i'r gogledd. Cafwyd crochenwaith Bicer yn un ohonynt ac fe'i dyddir i tua 2000 CC.

Ariannwyd y gwaith cloddio yn y gwahanol safleoedd hyn gan Adran Briffyrdd y Swyddfa Gymreig ac Alfred McAlpine Construction Ltd, ac fe'u cyflawnwyd gyda chaniatâd y tirfeddianwyr, Mr Wyn Jones, y brodyr Howard, ac Ystadau Castell Powys.

Dyffryn Lane

86-C-119

De: Ôl cnwd yn hengor Dyffryn Lane. Mae'n bosibl bod y maen hir ar ymyl y ffordd isod, a elwir Maen Bueno, yn rhan o'r cofadail. © CPAT 86-C-119

Mae arolygon o'r awyr ac o'r llawr ers yr 1980au cynnar wedi darparu manylion am gyfadail pwysig yn cynnwys cofadeiliau angladdol a defodol o'r Oes Neolithig Ddiweddar a'r Oes Efydd Gynnar ger Beriew, Sir Drefaldwyn. Yn ei ganol mae math o loc seremonïol a elwir yn 'gofadail hengor', a enwir ar ôl y banc cylchog o gwmpas Côr y Cewri. Dangosodd arolwg o'r awyr (gweler ar y chwith) ffos gladdedig fawr gyda mynedfa ar un ochr. Dangosodd arolwg o'r llawr fod gan y safle fanc allanol isel a thwmpath canolog (gweler isod) a wnaed yn is gan aredig dros y canrifoedd. Canfuwyd manylion eraill trwy gynnal arolwg geoffisegol. Mae adroddiadau cynnar yn cofnodi bod cerrig wedi eu symud o'r twmpath canolog, cylch cerrig o bosibl.

Topographical image

Chwith: Llun topographig chwyddedig o hengor Dyffryn Lane a gynhyrchwyd o ddata'r arolwg o'r llawr. Mae hyn yn dangos y twmpath canolog a'r banc allanol isel na ellir prin eu gweld ar y llawr. © CPAT

Ymgymerwyd â gwaith arolygu, a ariannwyd yn rhannol gan Cadw, gyda chaniatâd Mr T. Cookson.

Carneddau

Treystan excavation

De: Carnedd Oes Efydd Trelystan a'r ymylfeini amgaeol, Cefn Digoll, yn ystod cloddiadau 1979. © CPAT

Ymgymerwyd â chloddiadau ar ddwy garnedd gylchog yn yr ucheldir i'r gogledd-ddwyrain o Garno, Sir Drefaldwyn rhwng 1989–90, a ddyddiwyd i'r cyfnod rhwng tua 2000–1500 CC. Gyda rhai o'r corfflosgiadau cysylltiedig roedd priddlestri a elwir yn 'yrnau colerog'. Gwnaed y cloddiadau ar y cyd â rhaglen balaeoamgylcheddol a oedd yn archwilio peilliau a gadwyd mewn dyddodion mawn lleol, ac olion planhigion carbonedig a gafwyd yn ystod y gwaith cloddio. Mae'r astudiaethau hyn yn dangos bod clirio coetiroedd ac ehangu cynyddol ar rostiroedd a glaswelltir agored, ar gyfer pori o bosibl, yn digwydd yn ystod yr Oes Efydd, ac roedd peth tystiolaeth o dyfu cnydau.

Ariannwyd y gwaith gan Cadw ac ymgymerwyd ag ef gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, Mr Watkins. Ymgymerwyd â'r astudiaethau amgylcheddol gan staff Coleg y Brifysgol, Llanbedr Pont Steffan.

Corn Du a Phen-y-Fan

Corn Du

De: Mae safle Corn Du i'w weld ar y chwith yn y blaendir © CPAT

Roedd y ddwy garnedd ucheldirol hyn o'r Oes Efydd, sydd yn gorwedd ryw 2900 o drodfeddi uwch lefel y môr ar gopaon ym Mannau Brycheiniog, wedi bod yn dirywio'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd yr erydiad a achosir gan nifer fawr o ymwelwyr i'r Parc Cendlaethol. Cloddiwyd y safleoedd hyn, a hefyd cylch pren bychan ym Mhont-ar-daf, yn drwyadl rhwng 1989–91 cyn iddynt fynd i golli am byth.

Dangoswyd bod gan y ddwy garnedd, a godwyd rhwng tua 2200–1800 CC, gistiau claddu canolog. Codwyd y cylch coed tua 1900 CC. Mae dadansoddiad a wnaed ar beilliau o'r mawn a dan y carneddau ac o'u cwmpas yn dysgu i ni bethau newydd am dyfiant cynnar yr ardal.

Corn Du

Chwith: Carnedd Oes Efydd Corn Du ar gopa ym Mannau Brycheiniog gan ddangos y gist gladdu ganolog a dau o'r ymylfeini o'i chwmpas. © CPAT

Cafwyd arian a help pellach ar gyfer y prosiect hwn gan Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Parc Cenedlaethol. Ymgymerwyd â gwaith amgylcheddol gan staff Prifysgol Keele a Choleg y Brifysgol, Llanbedr Pont Steffan.

Nôl i'r dudalen gynnwys

Oes Efydd Ganol a Diweddar