Cymraeg / English
CPAT logo

CPAT - Ffenestri ar y Gorffennol

Y Canol Oesoedd, OC 1100 - 1500

Oherwydd y Goncwest Normanaidd a Gwrthsafiad y Cymry o ddiwedd yr 11eg ganrif ymlaen, llenwyd Clwyd a Phowys gan y symbol mawr hwnnw o dra-arglwyddiaeth a rheolaeth y castell canoloesol. Dangoswyd natur adeiladu cestyll Eingl-Normanaidd mewn modd trawiadol yn y castell mwnt a beili o'r enw Hen Domen ger Trefaldwyn, a gloddiwyd gan Philip Barker, un o gyn-gadeiryddion CPAT, ac yn y cestyll carreg diweddarach, yn y Waun a'r Fflint er enghraifft. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf gwnaed gwaith ymchwil eang hefyd yng nghestyll Cymreig Dolforwyn ger y Trallwng a Chaergwrle i'r gogledd o Wrecsam, y naill a'r llall o'r 13eg ganrif.

Dangosir y gwaith rheoli ar ystadau canoloesol mawr ar y Gororau fel rhai Ieirll Powys trwy astudio Castell Powys a'u prif faenordy ym Mathrafal.

Un o nodweddion allweddol y modd y defnyddiwyd y tirlun canoloesol oedd creu trefi yn y 13eg ganrif. Mae'r cloddiadau a wnaed ar raddfa fawr gan CPAT yn Nhrefaldwyn a Maesyfed a'r cloddiadau ar raddfa lai yn Nhalgarth yn dechrau gwneud cyfraniad arwyddocaol i'n dealltwriaeth o'r modd y sefydlwyd hwy ac o'u datblygiad ac o natur bywyd y dref yn gyffredinol.

Un o ddangoswyr defnyddiol o strwythur yr economi canoloesol yw crochenwaith, ac mae Cyfres Gwneuthuriad Crochenwaith Canoloesol CPAT, a seiliwyd ar y safleoedd hyn a safleoedd eraill, yn dechrau dod yn gyfeirle hanfodol ar gyfer astudio crochenwaith canoloesol yn yr ardal hon.

Un o nodweddion pwysig eraill y tirlun canoloesol oedd yr eglwys, ac mae archaeoleg eglwysi a'u mynwentydd wedi bod yn nodwedd amlwg mewn rhaglenni gwaith diweddar. Ailddarganfuwyd eglwysi 'coll' yn y Trallwng, Capel Spon ger Bwcle a Chapel Maelog ger Llandrindod. Yng Nghapel Maelog yn enwedig rhoddwyd cyfle i CPAT astudio datblygiad mynwent ganoloesol hyd nes y gadawyd hi yn ystod yr 16eg ganrif.

Ym Mhennant Melangell ger Llangynog, ym mhen mwyaf gogleddol Sir Drefaldwyn, datgelodd y gwaith cofnodi a chloddio, a wnaed mewn cydweithrediad agos r cytundebwyr a'r pensaer a oedd yn cyflawni'r gwaith adnewyddu ac ailadeiladu, wybodaeth newydd bwysig am y modd y datblygodd yr eglwys ac am y beddrod Romansg i'r Santes Melangell. Bu gwaith ar raddfa lai mewn nifer o eglwysi eraill, gan gynnwys Chwitffordd a Llanfair Caereinion, yn ddefnyddiol o ran taflu goleuni ar eu llorgynlluniau canoloesol.

Tomen Llansantffraid

Motte at Tomen Llansantffraid

De: Mae'r toriad trwy'r mwnt yn Nhomen Llansantffraid yn dangos dilyniant syfrdanol o gymhleth o bedair neu bum elfen strwythurol, a gynlluniwyd i bob golwg i reoli ffurf a sefydlogrwydd yr adeiledd terfynol. © CPAT

Mae'r mwnt yn Llansantffraid Cwmdeuddwr, a godwyd yn y 12 fed ganrif mae'n debyg, yn rheoli rhyd ar draws yr afon Gwy ychydig i'r dwyrain o Raeadr Gwy, Sir Faesyfed. Er gwaetha'r aflonyddu mawr a fu arno yn ystod y 18fed19eg ganrif, roedd y gwaith cofnodi a chloddio rhwng 198290, cyn gwneud gwaith adeiladu a chynnal, yn gyfle prin i astudio adeiladwaith twmpath castell (gweler y llun isod). Ariannwyd y gwaith gan Cadw, gyda chaniatd a chymorth Mr Seymour Price a Chyngor Dosbarth Maesyfed.

Bishop's Moat

Chwith: Castell mwnt a beili Bishop's Moat ger yr Ystog, Sir Drefaldwyn. Mae hwn yn enghraifft arbennig o dda o'r cestyll pridd a phren niferus a godwyd yn y gororau yn ystod cyfnod y goresgyniad Eingl-Normanaidd. © CPAT 84-C-469

Trefaldwyn

Gwnaed nifer o gloddiadau yn Trefaldwyn, un o brif fwrdeistrefi canoloesol gororau Cymru, yn enwedig yn Pool Road rhwng 198487. Datgelodd y rhain gyfres o adeiladau pren canoloesol ar lwyfan yn ymyl un o brif ffyrdd y fwrdeistref, gyda buarth agored y tu l iddynt a therfyn ar un ochr.

Montgomery Castle

De: Daeth castell Trefaldwyn, a sefydlwyd yn y 1220au, yn ganolfan bwysig i weithgareddau Edward I yn ystod ei ymgyrchoedd yng Nghymru ym 127677. Mae'r castell yn ymgodi uwchlaw'r dref gaerog ar y tir is oddi tano, a gafodd statws bwrdeistref ym 1227. © CPAT 84-C-468

Adeiladwyd yr adeilad cynharach, a oedd tua 5 metr wrth 9 metr mewn maint, thyllau pyst. Disodlwyd yr adeilad hwn gan adeilad a godwyd thrawstiau sylfaen gyda ffwrn ac aelwyd agored, ac mae tystiolaeth bod iddo waliau plethwaith a dwb. Mae'r dilyniant hwn o dechnegau adeiladu o dyllau pyst i drawstiau sylfaen i'w gael mewn rhannau eraill o Gymru yn ystod y canol oesodd.

Mae tystiolaeth o grochenwaith yn dangos bod yr ardal wedi ei meddiannu'n fuan ar l i'r fwrdeistref gael ei sefydlu yn ystod y 13eg ganrif hyd at y 15fed ganrif.

Ariannwyd y gwaith cloddio yn Pool Road, a wnaed cyn codi tai yno, gan Cadw a'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr ac fe'i cwblhawyd gyda chaniatd Ystadau Castell Powys.

Mae tystiolaeth a gafwyd o'r fan hon a mannau eraill yn y dref yn awgrymu bod poblogaeth y fwrdeistref ganoloesol yn uwch nag ydyw heddiw. Mae hyn y tanlinellu'r pwynt bod safleoedd sydd heb eu datblygu'n adnodd archaeolegol o bwys.

Maesyfed

Datgelodd y cloddiadau yn y Borth, Maesyfed, rhwng 199192 dystiolaeth bwysig newydd o adeiladau canoloesol a diweddarach yn Stryd yr Eglwys, yn union y tu mewn i giât orllewinol y fwrdeistref gaerog. Adeilad pren o'r 13eg14eg ganrif oedd yr adeiledd cynharaf mae'n debyg ond codwyd adeiladau diweddarach, yn rhannol o leiaf, o gerrig. Ni wyddem o'r blaen a oedd y dref ganoloesol sy'n ddim mwy na phentref bellach wedi ehangu i lenwi'r tir a amgaewyd gan yr amddiffynfeydd.

Chwith: Carthbwll canoloesol ag ymylon carreg a ddarganfuwyd yn ystod y cloddiadau gan CPAT yn Y Borth, Maesyfed, ym 199192. © CPAT

Y tu mewn i un adeilad roedd odyn sychu grawn gyda ffliw fwaog yn cysylltu'r pydew tân i gyforlawr sychu. Mae'n ymddangos bod haearn yn cael ei drin mewn adeilad arall. Yng nghefn yr adeilad roedd nifer o bydewau, gan gynnwys carthbwll ag ymylon carreg, lle cafwyd casgliad arwyddocaol o grochenwaith canoloesol.

Ariannwyd y cloddiadau gan Cadw ac fe'u cwblhawyd gyda chaniatd y tirfeddianwyr, y brodyr Meredith.

Pennant Melangell

Pennant Melangell church

De: Gwaelod y gromgafell o'r 12fed ganrif a ddatgelwyd yn ystod y gwaith cloddio ym mhen dwyreiniol eglwys Pennant Melangell. Yn wreiddiol, aed i'r gromgafell - a oedd yn amgu bedd amlwg, sef bedd y Santes Melangell yn ôl y traddodiad - trwy'r agoriad caedig sydd i'w weld yn wal ddwyreiniol y gangell. © CPAT

Mae'r gwaith cloddio a chofnodi a wnaed rhwng 198994, yn ystod gwaith adnewyddu ac atgyweirio, wedi cynnig tystiolaeth bwysig newydd o hanes a datblygiad yr eglwys hardd a diarffordd hon o'r canol oesoedd, sydd wedi ei chuddio mewn cwm anghysbell i'r de o'r Berwyn ac i'r gorllewin o bentref Llangynog.

Yn ôl y chwedl, roedd y Santes Melangell, tywysoges o Iwerddon, wedi ei halltudio o'i chartref gan ei thad oherwydd na fynnai briodi'r dyn a ddewiswyd gan ei thad. Wedi treulio blynyddoedd lawer yn unigrwydd Pennant, daeth Brochwel, Tywysog Powys, ar ei thraws un diwrnod tra roedd allan yn hela. Rhedodd ysgyfarnog a oedd yn cael ei hymlid gan y cwn i blygion ei sgert er diogelwch, ac er bod yr heliwr yn annog ei gwn nid aent ar ei chyfyl. Wedi clywed ei stori, rhoddodd Brochwel diroedd iddi ym Mhennant fel noddfa barhaus.

Pennant Melangell stone gable

Chwith: Rhan o un o dalcenni maen y cysegr Romansg o'r 12fed ganrif i'r Santes Melangell. Mae'r motiffau dail troellog yn dangos dylanwad Celtaidd diweddar. © CPAT

Mae'r cloddiadau wedi datgelu tystiolaeth o fynwent gynharach a oedd yno cyn yr eglwys Romansg. Mae'n ymddangos bod yr eglwys - a godwyd o bosibl gan fonheddwr o'r 12fed ganrif o'r enw Rhirid Flaidd, y cyfeirir ato gan y bardd Cynddelw fel 'priodawr pennant' (perchennog Pennant) - wedi ei hadeiladu â chapel beddau cromfannol yn ei phen dwyreiniol, gan amgu bedd amlwg sef bedd y Santes Melangell yn ôl y traddodiad.

Pennant Melangell rood screen

Chwith: Brochwel, tywysog o'r 8fed ganrif, yn hela mewn golygfeydd sy'n dangos chwedl Melangell wedi ei naddu ar y groglen o'r 15fed ganrif hwyr. © CPAT

Nodwyd tystiolaeth bellach o'r gwahanol newidiadau ac atgyweiriadau a wnaed i'r eglwys rhwng y 15fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac achubwyd ar y cyfle i wneud cofnod manwl o'r darnau o'r cysegr Romansg i'r Santes Melangell oedd yn dal i fodoli cyn iddynt gael eu hailosod o fewn cangell yr eglwys.

Ariannwyd y gwaith cloddio a chofnodi a wnaed gan CPAT gan Cadw ac fe'i cwblhawyd gyda help y Parch. a'r Fns.Davies, yr awdurdodau esgobaethol, Antur Tanat Cain ym Melin Llangedwyn, a'r pensaer Mr Robert Heaton.

Capel Spon

Bu 'Capel Spon' yn rhan o chwedloniaeth ardal Bwcle ers talwm. Cyn y gwaith diweddar ar y safle, ychydig a feddai ymchwilwyr ar wahân i gyfeiriad gan Edward Lhwyd ar ddiwedd yr 17eg ganrif at 'Kappel Spon, whereof a small part of ye wall onely is now to be seen'. Ddwy ganrif yn ddiweddarach roedd wedi diflannu'n llwyr a dim ond enw'r cae, 'Chapel Field', yn dangos lle bu.

Capel Spon survey

Dechreuwyd asesu'r safle am y tro cyntaf ym 1989 yn dilyn ymgynghoriad gan British Coal Opencast a oedd yn bwriadu anfon cais cynllunio i weithio glo brig yno. Gan na fedrent ddod o hyd i safle'r capel trwy arolwg confensiynol o'r llawr, ariannodd British Coal arolwg geoffisegol o'r safle techneg sydd yn aml yn fodd gwerthfawr iawn o ganfod waliau a ffosydd claddedig. Ildiodd arolwg ym 1989 gan Geophysical Surveys o Bradford ganlyniadau cadarnhaol (gweler ar y dde) sylfeini adeilad hirsgwar tua 8 metr o hyd a 12 metr o led, yn gorwedd o bosibl o fewn lloc ffosog cromlinog. Cadarnhaodd cloddiadau prawf ym 1991 fod sylfeini carreg yno; a phrofodd presenoldeb nifer o gladdiadau mai dyma safle'r capel canoloesol coll.

Ariannwyd yr arolwg geoffisegol a'r cloddiadau prawf ar y safle gan British Coal Opencast Executive a gwrthodwyd eu cais cynllunio'n ddiweddarach, yn dilyn apl, am resymau amgylcheddol.

Odyn sychu grawn Collfryn

Collfryn corn drying kiln

De: Odyn sychu grawn o'r canol oesodd a ddarganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio yn lloc llethr Collfryn, Llansantffraid Deuddwr, Sir Drefaldwyn ym 1982. © CPAT

Odyn maes o'r 15fed ganrif a ddefnyddid i grasu gwenith a cheirch hefyd o bosibl. Fe'i darganfuwyd ar ddamwain ym 1982 wrth gloddio lloc llethr Collfryn, Llansantffraid Deuddwr, Sir Drefaldwyn. Mae'r geg ffwrnais yn y blaendir yn gorwedd yn ffos siltiedig y lloc o'r Oes Haearn a'r cyfnod Brythonig-Rufeinig. Roedd y siambr sychu, sydd â chylch mewnol o feini ar eu sefyll, wedi ei thorri i glawdd y lloc cynharach. Er bod odynau crasu i'w cael weithiau o fewn fferm neu anheddiad, fel ym Maesyfed, mae'n rhaid bod odynau maes o'r fath a ddarganfuwyd yng Nghollfryn yn gyffredin yng Nghymru hyd at flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Dangosir lle buont unnwaith gan enwau caeau fel 'Cae'r odyn'. Mae tystiolaeth lafar yn awgrymu bod yr yd yn cael ei grasu trwy gael ei gribinio dros lawr o estyll pren a gwair neu frethyn yn crogi dros siambr grasu. Yn l disgrifiad o'r 19eg ganrif 'it is said by the old people that the corn dried after the old fashion makes sweeter bread than that dried in the modern brick-kilns at the mill'.

Nôl i'r dudalen gynnwys

Canol Oesoedd Diweddar i'r cyfnod Modern cynnar