Cymraeg / English
CPAT logo

CPAT - Ffenestri ar y Gorffennol

Y Canol Oesoedd Diweddar i'r cyfnod Modern cynnar - OC 1500 - 1900

Er gwaetha'r ffaith bod tystiolaeth ddogfennol gynyddol ei maint yn bodoli o'r 16eg ymlaen, mae gan archaeoleg gyfraniadau pwysig i'w gwneud i'n dealltwriaeth o'r canol oesoedd diweddar a'r cyfnod Modern cynnar, yn enwedig ynghylch y math o weithgareddau cyffredin, dyddiol nas cofnodwyd.

Mae nifer gynyddol o adeiladau sy'n sefyll ac adeileddau eraill o'r cyfnod canol diweddar wedi goroesi un ai ar ffurf a newidiwyd neu fel adfeilion ac maent yn fannau diddorol amlwg. Dim ond o'r 16eg ganrif gynnar ymlaen y gallwn fel arfer astudio tai sy'n dal i sefyll lle codwyd hwy a gellir defnyddio technegau cofnodi a dehongli archaeologegol uwchben y ddaear. Ers blynyddoedd lawer, mae gwaith cofnodi manwl ar adeiladau sy'n sefyll, yn enwedig gan gyrff fel y Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru (RCAHMW), wedi bod yn fodd amhrisiadwy o astudio datblygiad arddulliau a thechnegau adeiladu ac adnabod arddulliau pensaernol rhanbarthol.

Mae cloddiadau a wnaed ar raddfa fechan yn Althrey Hall yn dangos yn glir fod modd dysgu mwy am hanes a datblygiad cynnar tai. Yn gynnar yn y cyfnod, dim ond y tai mwyaf, yn gyffredinol, sydd wedi goroesi fel adeiladau sy'n sefyll. Mae gan gloddio rl arbennig o bwysig i'w chwarae o ran adnabod ffurfiau cartrefi gwerin.

Un her i'r dyfodol fydd astudio cyd-destun cymdeithasol ac economaidd pob math o adeilad a'u perthynas 'r tirweddau lle cafwyd hwy: tai mewn trefi a phentrefi o'r math a gloddiwyd yn ddiweddar gan CPAT ym Machynlleth; ffermdai diarffordd fel Althrey a Penley sydd yn sefyll yng nghanol tirwedd lle ceir llawer o safleoedd amffosog a chyfundrefnau caeau hynafol; cartrefi gwerin yn yr ucheldir, fel yn Nant y griafolen, Brenig, ac a astudiwyd yn ddiweddarach gan CPAT mewn perthynas 'r cyfundrefnau caeau cymhleth yn Ffridd Camen, ar ymylon gorllewinol y Berwyn.

Yn hwyrach yn y cyfnod ceir yr her o gofnodi nid yn unig tai ac aneddiadau'r gweithwyr a ddatblygodd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ond hefyd hanes a datblygiad y safleoedd diwydiannol eu hunain y mwynfeydd a adawyd, y safleoedd prosesu mwynau, melinau a ffatroedd, yn enwedig o'r 17eg ganrif i'r 19eg na wyddys llawer amdanynt yn aml ac sydd yn prysur ddiflannu.

Nant y griafolen

Upland house reconstruction

Chwith: Ail-luniad o un o'r tai o'r 15fed ganrif hwyr i'r 16eg ganrif hwyr yn yr ucheldir yn Nant y griafolen, Brenig, a gloddiwyd ym 197374. © CPAT

Gwnaed gwaith cloddio rhwng 197174 ar amrywiaeth o safleoedd yn yr ucheldir cyn y gwaith adeiladu ar gronfa Brenig, yng ngorllewin Clwyd. Ar wahn i'r adeileddau angladdol a defodol o'r Oes Efydd a oedd yn ganolbwynt i'r prosiect, gwnaed gwaith cloddio hefyd ar gyfres o 'dyddynnod' tymhorol o'r canol oesoedd diweddar (a elwid yn 'hafotai' yng ngogledd Cymru a 'hafodydd' yn y canolbarth a de Cymru) o fath sydd yn nodweddiadol o'r ucheldiroedd yng Nghymru.

Ariannwyd y gwaith cloddio yn Nant y griafolen gan y Swyddfa Gymreig ac fe'i cwblhawyd gan y Rescue Archaeology Group, tm annibynnol a ffurfiodd gnewyllyn staff CPAT yn ddiweddarach. Adferwyd y safleoedd fel rhan o'r llwybr archaeolegol a agorwyd gan Ddwr Cymru ym 1977.

Althrey Hall & Penley Old Hall

Mae gwaith cofnodi a wnaed yn y ddau dy cyfagos hyn o'r canol oesoedd yn Wrecsam Maelor yn cynnig achosion astudio da o'r ffaith na ellir gweld pwysigrwydd llawn rhai adeiladau yn aml hyd nes y gwneir gwaith adnewyddu arnynt.

Althrey Hall

De: Althrey Hall, Clwyd, yn ystod y gwaith adnewyddu ym 1991. Mae'r ty presennol, a newidiwyd yn ddirfawr yn ystod yr 17eg ganrif, wedi ei ddatblygu o neuadd o'r 15fed ganrif ar ffurf H glasurol, gyda neuadd ganolog ac adain groes â dau lawr ym mhob pen iddi. © CPAT

Tan yr 1970au roedd llawer o'r tu allan i Althrey Hall wedi ei rendro. Dim ond o ganlyniad i waith cofnodi gan RCAHMW y daeth ei bwysigrwydd llawn yn amlwg, unwaith y tynnwyd yr haen allanol. Y tu mewn hefyd, ni ddatgelwyd nodweddion fel y darlun unigryw o Elis ap Richard a'i wraig o ganol yr 16eg ganrif, a baentiwyd ar waliau plastredig eu siambr ar y llawr cyntaf, hyd nes y tynnwyd yr haenau allanol.

Mewn cloddiadau ar raddfa fechan gan CPAT ym 1991, datgelwyd safle lle tn agored yng nghanol y neuadd ganolog, yn ogystal thystiolaeth fod y neuadd o'r 15fed ganrif wedi disodli adeilad eiliog cynharach, a osodwyd ar byst mewn tyllau pyst yn y ddaear.

Halghton Lodge

Chwith: Mae'r safle amffosog a'r gyfundrefn caeau yn Halghton Lodge, sy'n gytbell o Althrey a Llannerch Banna, yn nodweddiadol o'r tirweddau canoloesol a chanoloesol hwyr eang sy'n dal i fod ym Maelor Saesneg. Mae'n ymddangos mai bychan oedd poblogaeth y diriogaeth hon cyn i'r rhanbarth gael ei heddychu at ddiwedd y 13eg ganrif. © CPAT 85-C-210

Yn yr un modd, tan yr 1990au cynnar, y gred oedd nad oedd Penley Old Hall yn ddim ond ffermdy brics o'r 17eg ganrif hwyr, y ceir nifer ohonynt yn yr ardal. Pan symudwyd plastr o'r nenfwd a'r waliau, a rhaniadau mewnol, medrwyd cofnodi'n fanwl nodweddion a oedd wedi eu cuddio ac na wyddai neb amdanynt. Roedd ffram gyplau o'r 16eg ganrif a oedd wedi ei pheintio'n fanwl ac a oedd unwaith, i bob golwg, yn ffurfio un pen i neuadd bren dwy gilfach, agored i'r to, gyda siambrau ar y llawr isaf a'r llawr cyntaf y tu hwnt. Mae gwaith ailfodelu mawr a wnaed yn hwyr yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, gan gynnwys gosod nenfydau a simne, wedi cuddio gwreiddiau canoloesol diweddar yr adeilad yn gyfan gwbl bron.

Ymgymerwyd â'r gwaith cloddio a chofnodi yn Althrey Hall gyda chymorth y perchnogion, Mr & Mrs T. Smith. Ymgymerwyd â'r gwaith cofnodi yn Penley Old Hall gyda chaniatâd y perchnogion, Mr & Mrs Wilson, a gyda chymorth staff y RCAHMW.

Arolygon o Aneddiadau Hanesyddol

Gwnaed arolygon o sawl cant o drefi a phentrefi hanesyddol fesul ardal ledled Clwyd a Phowys rhwng 199194 gyda'r nod o enwi ardaloedd o bwysigrwydd archaeolegol y gallai gwaith datblygu effeithio arnynt yn y dyfodol.

87-C-83

De: ychwanegwyd y gorthwr carreg a'r beili caerog yn Nhretower, Sir Frycheiniog, i'r castell mwnt a beili o'r 11eg ganrif hwyr yn ystod blynyddoedd cynnar y 13eg ganrif. Mae Tretower Court (blaendir chwith), maenordy caerog, yn dyddio o'r 14eg ganrif. Mae'n debygol bod yr eglwys o ddiwedd y 19eg ganrif yn sefyll ar safle capel canoloesol. © CPAT 87-C-83

Mae'n ymddangos bod llawer o'n trefi a'n pentrefi wedi eu sefydlu yn dilyn y goresgyniadau Eingl-Normanaidd, a'u bod wedi dal i dddatblygu yn ystod y canol oesoedd diweddar. Yn aml, ychydig a wyddom am hanes cynnar yr aneddiadau hyn y mathau o dai a godwyd ynddynt cyn dechrau'r 18fed ganrif, a ffordd o fyw y trigolion. Mae un o brif ffynonellau'r dystiolaeth a fydd yn ein helpu i ateb y cwestiynau hyn yn dal wedi ei chladdu yn y ddaear, dan adeiladau diweddarach ac mewn darnau o dir gwag lle mae'n bosibl bod adeiladau yn y gorffennol.

85-C-308

De: Golwg o Ddinbych o'r awyr o'r de, gyda'r castell yn y blaendir. Mae patrwm y strydoedd modern yn dal i adlewyrchu amlinelliad y dref gynlluniedig a sefydlwyd ar yr un pryd ag y sefydlwyd y castell gan Iarll Lincoln, yn ystod teyrnasiad Edward I. Mae twr canoloesol capel St Hilary, y dymchwelwyd y gweddill ohono ym 1904, i'w weld yn union y tu hwnt i'r grn y tu allan i'r castell. © CPAT 85-C-308

Cynhaliwyd arolygon mwy manwl o'r llawr fel gwaith ychwanegol mewn rhai achosion, er mwyn cofnodi llwyfannau tai a gwrthgloddiau eraill sy'n cynrychioli aneddiadau sydd wedi eu gadael neu sydd wedi crebachu. Cynhaliwyd y rhai mwyaf trawiadol yn Llanddew, ac yn Ngwenddwr a Llanfihangel Tal-y-llyn yn Sir Frycheiniog, lle mae caeau sy'n cynnwys nifer o lwyfannau adeiladau a cheuffyrdd neu lonydd gwyrdd lle bu ffyrdd gynt. Mae arolygon manwl o'r llawr yn cynnig sail ar gyfer diogelu a rheoli aneddiadau cynnar posibl nad effeithiwyd arnynt gan waith adeiladu diweddarach.

Mae CPAT yn ddiolchgar am yr ariannu a'r help a fu ar gael ar gyfer y prosiect hwn oherwydd Cyngor Dosbarth Alun a Glannau Dyfrdwy, Cyngor Bwrdeistref Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Colwyn, Council, Cyngor Bwrdeistref Delyn, Cyngor Dosbarth Glyndwr, Cyngor Dosbarth Sir Drefaldwyn, Cyngor Dosbarth Sir Faesyfed, Cyngor Bwrdeistref Rhuddlan a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam Maelor.

Arolygon o gloddfeydd

Penyclun Mine

Chwith: peiriandy Cernywaidd a simnai yng Nghloddfa Penyclun, ger Llanidloes, yn ystod y gwaith arolygu ym 1994. Roedd y peiriandy'n gweithio pympiau i draenio prif siafftiau'r cloddfeydd plwm. Fe'i codwyd yn yr 1860au i William Lefaux, y mwnchwiliwr a ddaeth o'r hyd i'r wythen gyfoethog yn y Fan ger Llanidloes. © CPAT

Ymgymerwyd ag arolygon brys o bron i 500 o gloddfeydd metelau anhaearnaidd gadawedig rhwng 199293 gyda'r nod pennaf o hybu diolegu'r olion sydd yn dal yno. Mae'n anochel bod llawer o'r safleoedd, sy'n olion pwysig o'n treftadaeth ddiwylliannol, yn dirywio'n raddol wrth i'r blynyddoedd fynd heibio ac mae rhai'n dal i fod dan fygythiad o gynlluniau tirlunio a luniwyd i dacluso darnau o dir diffaith. Gellir canfod cloddio cynnar o'r Oes Efydd a chyfnod y Rhufeiniaid mewn rhai achosion.

CS921205

De: Cyfarpar weindio gadawedig ar gyfer y cyfarpar pen a godai gawellau i fyny ac i lawr y brif siafft yng Nghloddfa Blwm Nantiago, Pumlumon. Dechreuwyd cloddio ym 1846 a rhoddwyd y gorau iddi yn yr 1920au. © CPAT CS921205

Dechreuwyd cynnal arolygon o'r llawr mwy manwl ym 1994 mewn nifer o gloddfeydd a safleoedd prosesu mwynau sydd mewn gwell cyflwr na'i gilydd ac yr argymhellwyd y dylid eu diogelu.

Ariannwyd gwaith arolygu CPAT ar safleoedd cloddfeydd metel yng Nghlwyd a Phowys gan Cadw, Cyngor Sir Powys, a'r Comisiwn Brenhinol (RCAHMW).

Nôl i'r dudalen gynnwys

Llyfryddiaeth