Cymraeg / English
|
Gofalu am Archeoleg Eglwysi'r Oesoedd CanolLluniwyd y tudalennau canlynol ar sail y llyfryn Gofalu am Archeoleg Eglwysi'r Oesoedd Canol, a gyhoeddwyd yn 2000 gan Cadw: Welsh Historic Monuments ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru. Dyma oedd diwedd prosiect pedair blynedd i arolygu a chofnodi pob eglwys cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ledled Cymru. Yn ogystal â'r llyfryn, cynhyrchodd yr arolwg adroddiadau manwl am bob eglwys ac fe'u cynhwysir yma yn adran data-bas yr Arolwg o Eglwysi Hanesyddol.
Archeoleg Eglwysi
Er mwyn helpu ein dealltwriaeth o eglwysi hanesyddol Cymru, noddodd Cadw: Welsh Historic Monuments y pedair ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru i ymgymryd ag arolwg archeolegol o'r eglwysi hanesyddol yn chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, gan rychwantu tua 1,000 o eglwysi a adeiladwyd naill ai cyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu sydd wedi eu lleoli ar safleoedd a sefydlwyd cyn yr amser hwnnw. Mae canlyniadau'r gwaith maes a'r gwaith ymchwil hwn wedi'u cynnwys mewn cyfres o adroddiadau unigol ar eglwysi ac arolygon rhanbarthol sydd ar gael o'r ymddiriedolaethau. Mae'r llyfryn hwn yn defnyddio'r arolwg o Gymru gyfan ac yn edrych ar yr hyn y gall archeoleg ei ddweud wrthym am hanes eglwysi Cymru, a sut y gellir cadw a rheoli'r dreftadaeth archeolegol gyfoethog hon.
Archeoleg EglwysiMae archeoleg o gymorth mawr i'n cynorthwyo i ddeall hanes eglwys a'r gymuned a wasanaethir ganddi, gan helpu i ddweud wrthym pryd a pham y sefydlwyd eglwys benodol, pwy a'i sefydlodd, sut y'i hadeiladwyd ac erbyn pa gyfnodau, sut yr oedd yn edrych ar y tu mewn yn wreiddiol a sut y mae ei golwg drwy'r oesoedd. Mae archeoleg hefyd yn edrych ar sut y newidiodd mynwent yr eglwys a lle'r eglwys yn hanes y dref, y pentref, neu'r wlad o'i hamgylch.
Mae archeoleg eglwysi yn ymwneud â thystiolaeth sydd i'w chanfod uwchben y ddaear ac oddi tani ac mae'n gysylltiedig â llawer o wahanol ddisgyblaethau - astudio tystiolaeth hanesyddol, achyddol ac enwau lleoedd; dadansoddi a chofnodi waliau, plastr ar furiau, lloriau a thrawstiau to; topograffeg; hanes celf; ac astudio llawer o wahanol fathau o osodiadau a ffitiadau gan gynnwys gwaith coed, murluniau, gwydr lliw, gwaith metel, cerrig beddi, a phetheuach eraill yn y fynwent. Mae'n defnyddio nifer o dechnegau modern - megis ffotograffiaeth o'r awyr neu arolwg geoffisegol - er mwyn datgelu olion o feddi, muriau a gladdwyd, neu gromenni na ellir eu gweld bellach ar lefel y ddaear. Pan fydd cadwraeth yn anymarferol, gall archeoleg eglwysi ymwneud ag astudio a dehongli olion wedi eu claddu trwy gloddio, gan gynnwys gwaith gan arbenigwyr a ddarganfyddir mewn olion anatomaidd dynol, crochenwaith canoloesol, priddoedd, geoleg, gweddillion planhigion, a thechnoleg gynnar.
Stori UnigrywMae gan bob un o'n heglwysi hanesyddol stori unigryw i'w hadrodd. Mae'n amlwg i rai ohonynt gael eu sefydlu gan wþr neu wragedd crefyddol yn y cyfnod canoloesol cynnar ac fe'u hurddasolwyd yn saint. Cychwynnodd nifer o'r eglwysi mwyaf fel mynachlogydd Cymreig brodorol neu clasau, wedi'u sefydlu'n aml o fewn mynwentydd cylchog, tra sefydlwyd rhai o'r eglwysi llai yn gyntaf fel capeli a oedd yn ddibynnol ar fam eglwys, neu fel capel preifat arglwydd neu uchelwr Cymreig lleol. Adeiladwyd rhai ohonynt yn gyntaf pan grëwyd yr aneddiadau Eingl-Normanaidd newydd yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif, neu yn y trefi newydd a ymddangosodd yn sydyn ar draws Cymru yn dilyn y goresgyniad Edwardaidd tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg.
Roedd nifer o eglwysi plwyf heddiw yn perthyn ar un adeg i'r mynachlogydd neu'r abatai a ddiddymwyd yn ystod teyrnasiad Harri'r VIII. Sefydlwyd rhai eraill yn yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y ddeunawfed ganrif. Gall hyd yn oed eglwys fach sy'n ymddangos yn syml, ac a ailadeiladwyd yn gyfan gwbl yn ystod oes Fictoria, gadw serch hynny dystiolaeth bwysig yn dyddio yn ôl i ddechrau Cristnogaeth ar Ynysoedd Prydain.
Adeiladwaith yr EglwysiMae llawer i'w ddysgu o hyd am gynlluniau eglwysi Cymreig cynharach y Canol Oesoedd. Yn aml, yr unig ffordd i ddarganfod hanes adeilad yr eglwys yw trwy edrych am newidiadau yng ngwneuthuriad y muriau sefydlog, neu drwy edrych am olion o adeiladau pren cynharach neu sylfeini cerrig cynharach sy'n goroesi o dan furiau a lloriau diweddarach.
Chwith: Gall newidiadau yn y gwaith adeiladu ddweud llawer wrthym yn aml am hanes eglwys. Yn eglwys Sant Bilo yn Llanfilo, Powys, mae'n ymddangos bod yr adeilad presennol yn perthyn i'r 13eg a'r 14eg ganrif. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod yr hen ddrws offeiriaid hwn yn y wal ogleddol wedi ailddefnyddio carreg gerfiedig Normanaidd fel capan ac mae hyn yn awgrymu bod eglwys o'r 11eg neu'r 12fed ganrif ar y safle ar un adeg. Yn eu tro, mae newidiadau yn nhrefniant yr eglwys ar ôl y cyfnod canol wedi arwain at lenwi'r drws sydd bellach yn rhannol o dan lefel bresennol y llawr mewnol. © YACP Mae cerrig dyddio yn anghyffredin cyn yr ail ganrif ar bymtheg a phrin yw'r cofnodion ysgrifenedig o adeiladau eglwysi sy'n goroesi cyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Mae rhywfaint yn hysbys am ffurf nifer o'r prif eglwysi clas o ddiwedd y ddeuddegfed ganrif a dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg - sef cyfnod pan adeiladwyd llawer o eglwysi newydd yng Nghymru - ond ychydig a wyddys am y strwythurau a'u rhagflaenodd. Prinnach byth yw ein gwybodaeth am yr eglwysi a'r capeli llai, er bod cloddio archeolegol yn dechrau dangos bod rhai eglwysi cynnar yn fathau nad ydynt yn goroesi yng Nghymru bellach, gan gynnwys eglwysi a adeiladwyd o bren neu eglwysi â chromfannau crymion yn y pennau dwyreiniol a gorllewinol.
Y Tu Mewn i'r EglwysiDe: Mae'r tu mewn i eglwys fach ac unig Issui Sant ym Mhatrisio, Powys yn dangos y newidiadau mewn arferion crefyddol dros y canrifoedd. Yng nghorff yr eglwys, a lenwir y groglen a chrogloft wedi'u cerfio'n gain, mae allorau cynharach ag ochrau cerrig a phwlpud diweddarach. Paentiwyd testunau crefyddol o'r ddeunawfed ganrif ar y waliau. Yn y rhan fwyaf o eglwysi, cafwyd gwared ar ffitiadau cynharach yn ystod y Diwygiad a dim ond cofnodion a chloddiadau archeolegol a all ddangos sut mae'r cynlluniau mewnol wedi esblygu gydag amser. © YACP. Gyda threigl y canrifodd bu cryn newid y tu mewn i'r eglwysi, yn aml mewn ymateb i newidiadau yn nhrefn addoli. Ymddengys bod gan lawer o eglwysi loriau pridd syml wedi'u taenu â brwyn hyd at mor ddiweddar â'r ddeunawfed ganrif. Arfer cyson oedd claddu aelodau mwy blaenllaw o'r gymuned y tu mewn i'r eglwys tan yr amser hwn, yn aml mewn beddi gweddol fas. Darperid ychydig o seddau neu ddim seddau o gwbl ar gyfer y gynulleidfa hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, yn dilyn twf pregethu yn ystod y cyfnod Tuduraidd diweddarach. Lle maent yn goroesi, gall lloriau cynnar fod o gymorth i ddangos sut yr arferid cynllunio y tu mewn i'r eglwys, gan gynnwys lle safai'r bedyddfeini, allorau, croglenni neu feddrodau er enghraifft ar un adeg. Mae lloriau cynnar yn bwysig i'r archeolegwr hefyd wrth helpu i gysylltu gwahanol gyfnodau o weithgaredd adeiladu mewn gwahanol rannau o'r eglwys â'i gilydd ac o bryd i'w gilydd drwy ddarganfod ynddynt arteffactau sy'n helpu i'w dyddio. Yn aml, addurnwyd muriau mewnol eglwysi cynnar yn gywrain â phatrymau lliwgar neu olygfeydd crefyddol. Cuddiwyd llawer o'r paentiadau hyn gan wyngalch yn ystod Diwygiad Protestannaidd yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, a'u disodli weithiau gan yr Arfbais Frenhinol neu destunau crefyddol yn Gymraeg neu Saesneg. Yn aml gellir dod o hyd i olion o waith paentio cynnar o'r math hwn o dan haenau diweddarach o blastr ar y muriau.
Toeon a NenfydauMae toeon a nenfydau yn cynnig gwledd o wybodaeth am y penseiri coed a'u gwaith a'r arddulliau a fabwysiadwyd mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.
Chwith: Mae'r rhan hon o'r nenfwd pren sy'n dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif - neu ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg yng nghapel Eglwys Elian Sant, Llanelian-yn-Rhos, Conwy, wedi'i baentio â golygfa yn dangos 'Addoliad y Bugeiliaid'. Ysbrydolwyd Siôn Cent, y bardd canoloesol Cymreig, gan y medr a ddefnyddiwyd i baentio delweddau o'r math hwn:
Bydd angen cyngor arbenigol er mwyn sicrhau y cedwir paentiadau o'r math hwn ar gyfer y dyfodol
© Hirst Conservation. Fodd bynnag, mae dyddiad codi to canoloesol yn aml yn fater o ddyfalu, ac os bydd gwaith atgyweirio mawr yn digwydd gall fod yn werth comisiynu rhaglen o ddyddio coed yn ôl y cylchoedd i ganfod yn fanwl gywir pryd y cafodd y to ei adeiladu. Prin y goroesodd unrhyw do gwreiddiol, a hwyrach mai'r unig dystiolaeth yw'r hyn y gellir ei ganfod trwy gloddio archeolegol.
Celfi a FfitiadauGwaetha'r modd, aeth llawer o drysorau eglwysi'r Canol Oesoedd yng Nghymru ar goll. Ysbeiliwyd gwrthrychau gwerthfawr yn ystod cyrchoedd y Llychlynwyr yn yr unfed ganrif ar ddeg, neu fe'u hanrheithiwyd yn ystod rhyfeloedd annibyniaeth Cymru tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg a gwrthryfel Owain Glyndw^r ar ddechrau'r bymthegfed ganrif. Fel yn Lloegr, collwyd llawer yn ystod y Diwygiad yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac yn ystod diwygiadau Piwritanaidd yr ail ganrif ar bymtheg, pan ysbeiliwyd llawer o allorau, beddrodau a chreiriau.
Mor ddiweddar â'r ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg symudwyd llawer o groglenni a addurnwyd yn dra chywrain o ddiwedd y Canol Oesoedd i wneud lle ar gyfer rhagor o seddau. Symudwyd corau cynnar a ffitiadau eraill am resymau tebyg ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r eitemau a oroesodd - cofebau, clychau, offerynnau cerddorol, celfi'r allor, llestri arian, gwydr lliw, deunyddiau, paentiadau, croglenni, beddrodau, creirfeydd, cistiau, bedyddfeini, canwyllyrau, drysau, neu fframiau clychau - yn bwysicach byth, a hwyrach y bydd angen cadwraeth arbenigol i sicrhau eu bod yn dal i oroesi.
MynwentyddMae mynwentydd yr un mor bwysig oherwydd y wybodaeth a gedwir ynddynt am hanes yr eglwys a'i chymuned. Mae cerrig coffa, beddau, croesau mynwentydd, deialau haul, neu gylch o goed yw hyd yn oed, oll yn bwysig i'n dealltwriaeth o hanes cymdeithasol a diwylliannol y gymuned leol.
Gall adeiladau atodol fod o ddiddordeb hefyd. Er enghraifft, mae'r stablau sydd ynghlwm wrth rai mynwentydd yn ein hatgoffa o'r ffordd yr arferai offeiriaid gwledig yng Nghymru wasanaethu eu plwyfi gwasgaredig. Gall mynwentydd hefyd gadw tystiolaeth a gladdwyd yn y ddaear, gan ddangos efallai fod safle wedi'i ddefnyddio am y tro cyntaf yn y cyfnod cyn Crist neu fod mynwent ar ffurf a maint hollol wahanol yn wreiddiol.
Eglwysi ym Mywyd y GymunedBu eglwysi bob amser yn fannau ymgynnull pwysig, yn arbennig o fewn cymunedau gwledig Cymreig cynnar, a gallant gynnig tystiolaeth o'r gweithgareddau anghrefyddol a oedd yn digwydd ynddynt ac o'u cwmpas, gan gynnwys digwyddiadau ym myd chwaraeon neu ffeiriau lle byddai nwyddau'n cael eu prynu a'u gwerthu. Ychydig o dystiolaeth weladwy neu ddim o gwbl a oroesoedd o'r dramâu miragl y gwyddys iddynt gael eu perfformio mewn eglwysi a mynwentydd yn ystod y bymthegfed ganrif ac ar ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, ond mae olion i'w canfod o dro i dro o'r gêmau pêl neu weithgareddau eraill a arferai ddigwydd. Mae'n hysbys bod talyrnau hyd yn oed o fewn rhai mynwentydd. Mae gwreiddiau llawer o'r gweithgareddau hyn yn deillio o'r ðyl mabsant - gðyl y nawddsant - a daeth llawer o'r traddodiadau hyn i ben yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Rheoli Archeoleg Eglwysi HanesyddolYn ogystal â chyflawni ei rôl bennaf fel man i addoli, gall eglwys hanesyddol daflu goleuni ar hanes cymuned a hefyd fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer mentrau addysgol neu dwristiaeth.
Right: Tw^r ysblennydd Eglwys Sant Giles o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg yw un o'r ychydig bethau gweladwy sy'n ein hatgoffa o statws Wrecsam fel un o aneddiadau canoloesol mwyaf Cymru. Ceir sôn am yr eglwys am y tro cyntaf ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg ond fe'i sefydlwyd yn ôl pob tebyg yn gynharach o lawer, o bosibl fel rhan o un o aneddiadau gwreiddiol y Sacsoniaid. Bellach y dyddodion sydd o dan yr eglwys a'r dref fodern yw'r unig ffynhonnell bosibl o wybodaeth sydd gennym am yr eglwys a'r anheddiad cynharaf. © YACP
Gellir turio am rywfaint o wybodaeth hanesyddol mewn dogfennau hanesyddol neu yn yr adeilad ei hunan, ond mae llawer o hanes eglwysi yn aros o hyd i'w ddarganfod, wedi ei guddio yn y ddaear neu yn adeiladwaith go iawn yr adeilad. Yn aml mae olion archeolegol yn fregus, a gellir eu difrodi neu eu dinistrio yn ddiofal. Felly dylid cynnal gwaith addasu ac atgyweirio ar eglwysi hanesyddol mewn modd cytbwys gan wella felly ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad ohonynt, tra'n lleihau'r perygl o golli gwybodaeth archeolegol unigryw.
Esgusodiad EglwysigMae'r rhan fwyaf o'r eglwysi a'u ffitiadau yng Nghymru ym meddiant Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru, a phlwyfi unigol sy'n gyfrifol am ofalu amdanynt. Ac eithrio gwaith dibwys iawn neu waith brys, bydd angen cymeradwyaeth y Canghellor Esgobaethol priodol ar gyfer yr holl newidiadau neu waith atgyweirio arall i eglwysi, mynwentydd, gosodiadau a ffitiadau. Cynghorir pob canghellor gan Bwyllgor Esgobaethol Ymgynghorol (PEY) sy'n cynnwys aelodau sy'n meddu ar wybodaeth am adeiladau hanesyddol ac archeoleg. Pan fydd hynny'n briodol, bydd yPEY yn ceisio cyngor gan grwpiau diddordeb arbennig eraill, megis y Gymdeithas Fictoraidd, y Gymdeithas Sioraidd, y Gymdeithas er Diogelu Adeiladau Hynafol, a Chyngor Archeoleg Prydain. Oherwydd y gweithdrefnau hyn, caiff eglwysi sy'n adeiladau rhestredig eu hesgusodi'n eglwysig rhag llawer o'r rheolaethau adeiladau rhestredig a weithredir gan yr awdurdod cynllunio lleol.
De: Mae llawer o blwyfi'n gyfrifol am ddiogelu croesau cynnar, hen gerrig bedd neu ddernynnau pensaernïol. Mae'r groes hon yn eglwys Sant Dogfan, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys yn ffordd fyw o'n hatgoffa bod mynachlog gynnar ar y safle hwn ar un adeg. © YACP
Bydd rheolaethau adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth yn parhau i fod yn gymwys pan fydd gwaith, er enghraifft, yn effeithio ar adeiladau neu strwythurau eraill o fewn tir eglwys sydd hefyd yn rhestredig, pan fydd gwaith i'w gynnal ac eithrio ar ran yr eglwys, neu pan argymhellir eu dymchwel yn gyfan gwbl. Bydd angen caniatâd cynllunio hefyd, er enghraifft, pan fydd cynigion yn golygu newid mewn defnydd, codi adeiladau newydd, newidiadau i fynediad neu lifoleuadau, neu estyniad i gladdfa. Os bydd y gwaith yn effeithio ar heneb gofrestredig, megis safle archeolegol neu garreg arysgrifedig o fewn mynwent, bydd angen caniatâd heneb gofrestredig hefyd gan Cadw: Welsh Historic Monuments. Bydd awdurdodau lleol a Cadw fel rheol yn ceisio cyngor gan gyrff eraill pan gyflwynir ceisiadau iddynt, ac o ganlyniad hwyrach y bydd cyngor archeolegol ychwanegol yn cael ei roi. Efallai y bydd yn angenrheidiol hefyd cadw mewn cof y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau sy'n effeithio ar symud olion ysgerbydol o dir cysegredig. Gall ystyriaethau tebyg fod yn berthnasol i eglwysi hanesyddol diangen hefyd.
I Bwy y Dylid Gofyn am Gyngor
Rheoliadau, Deddfwriaeth ac Arweiniad Cynllunio Allweddol ar Gyfer Eglwysi Hanesyddol yng Nghymru
Awgrymiadau Ar Gyfer Darllen PellachStephen Friar, A Companion to the English Parish Church (Stroud 1996).Warwick Rodwell, Church Archaeology (Llundain 1989). John Blair a Carol Pyrah (editors), Church Archaeology: Research Directions for the Future (Caer Efrog 1996). J H Bettey, Church and Parish: A Guide for Local Historians (Llundain 1987). Inside Churches: A Guide to Church Furnishings (Cymdeithas Genedlaethol Cymdeithasau'r Celfyddydau Addurnol a Chain 1993).
|